Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

  • Papur Gwyn Brexit a’n Tir Llywodraeth Cymru;
  • Y cynigion o fewn y papur i ddileu Taliadau Sylfaenol i ffermwyr;
  • Bod y taliadau sylfaenol hynny yn cyfrannu tuag at ryw 80% o elw net ffermwyr;
  • Bod y diwydiant amaeth yn parhau i fod yn gyflogwr sylweddol yn Sir Gaerfyrddin a bod llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws y sir yn dibynnu’n sylweddol ar y sector;
  • Bod cynigion Llywodraeth Cymru yn caniatáu perchnogion tir eraill (h.y. sefydliadau trydydd sector, cwmnïau coedwigaeth, unigolion neu sefydliadau cyfoethog) i gystadlu am y cyllid cyhoeddus sydd ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd;

 

Mae’r Cyngor hwn yn mynegi pryder nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru Brexit a’n Tir yn cynnwys model neu asesiad o’r effaith y bydd y newidiadau arfaethedig yn ei gael ar yr economi leol neu genedlaethol.

 

Mae’r Cyngor yn bryderus y gallai’r cynigion arfaethedig gael effaith negyddol ar gefn gwlad Sir Gaerfyrddin a pheryglu dyfodol y fferm deuluol sydd wedi cynnal yr economi, bywyd cymunedol a’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau gwledig am genedlaethau.

 

Mae'r Cyngor yn credu na ddylid cyflwyno newidiadau i daliadau ffermydd nes y cyflwynir asesiadau manwl o’r effeithiau posibl ar swyddi ac economi Sir Gaerfyrddin a Chymru gyfan ac y dylai unrhyw drawsnewid ddigwydd dros gyfnod hir o amser.

 

Yn ychwanegol at hyn mae’r Cyngor hefyd yn credu y byddai’n gwneud synnwyr i Lywodraeth Cymru ohirio unrhyw benderfyniad ar daliadau sylfaenol i ffermydd nes ar ôl i gytundeb masnach gael ei gytuno rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd yn sgîl Brexit.”

 

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr Kim Broom, Cefin Campbell, Mansel Charles, Ann Davies, Arwel Davies, Joseph Davies, Emlyn Dole, Hazel Evans, Linda Evans, Tyssul Evans, Ken Howell, Andrew James, Alun Lenny, Jean Lewis, Emlyn Schiavone, Mair Stephens, Gareth Thomas, A. Vaughan Owen ac Eirwyn Williams wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.  Bu iddynt aros yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth, ond gadael cyn y bleidlais.  Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr Is-gadeirydd, yn absenoldeb y Cadeirydd.]

 

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell:-

 

“Mae'r cyngor hwn yn nodi:

 

  • Papur Gwyn Brexit a'n Tir Llywodraeth Cymru;
  • Y cynigion yn y papur i ddileu'r Taliadau Sylfaenol i ffermwyr;
  • Bod taliadau sylfaenol yn cyfrannu tua 80% at elw net ffermwyr;
  • Bod y diwydiant amaeth yn parhau i fod yn gyflogwr sylweddol yn Sir Gaerfyrddin a bod llawer o fusnesau bach a chanolig ar draws y sir yn dibynnu i raddau helaeth ar y sector;
  • Y gallai cynigion Llywodraeth Cymru arwain at dirfeddianwyr eraill, (e.e. sefydliadau'r trydydd sector, cwmnïau coedwigaeth, sefydliadau ac unigolion eithriadol o gyfoethog) allu cystadlu am yr arian cyhoeddus sydd ar gael ar hyn o bryd i ffermwyr.

Mae'r Cyngor hwn yn mynegi pryder nad yw papur ymgynghori Brexit a'n Tir yn cynnwys unrhyw fodel nac asesiadau ynghylch sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar yr economi leol neu genedlaethol.

 

Mae'r Cyngor hwn yn pryderu y gallai'r newidiadau arfaethedig gael effaith negyddol ar gefn gwlad Sir Gaerfyrddin a bygwth dyfodol ffermydd teuluol sydd wedi cefnogi'r economi, bywyd y gymuned a'r iaith Gymraeg yn ein cymunedau gwledig am genedlaethau.

 

Mae'r Cyngor hwn yn credu na ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau i'r taliadau i ffermydd hyd nes bod asesiad manwl a thrylwyr yn cael ei ddarparu am yr effaith bosibl ar swyddi a'r economi yn Sir Gaerfyrddin ac mewn rhannau eraill o Gymru, ac y dylai unrhyw newidiadau ddigwydd dros gyfnod hir.

 

Yn ychwanegol at yr uchod, mae'r Cyngor hefyd yn credu y byddai'n synhwyrol pe bai Lywodraeth Cymru yn ymatal rhag gwneud unrhyw benderfyniad ar daliadau sylfaenol hyd nes bod cytundeb fasnachol rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â Brexit.”

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o'i blaid ac aethant ymlaen i amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

Yn sgil cael cais gan fwy na deg o aelodau, yn unol â Rheol 16.4 o Weithdrefnau'r Cyngor, cynhaliwyd pleidlais gofnodedig gyda'r pleidleisiau yn cael eu bwrw fel a ganlyn:-

 

O blaid y Cynnig (37)

Y Cynghorwyr F. Akhtar, L. Bowen, D.M. Cundy, S. Curry, G. Davies, H. Davies, I.W. Davies, K. Davies, W.R.A. Davies, J.S. Edmunds, P. Edwards, A. Fox, J. Gilasbey, C. Harris, T. Higgins, P. Hughes Griffiths, P.M. Hughes, J.D. James, R. James, D.M. Jenkins, G. John, C.E. Jones, B.W. Jones, D. Jones, G. Jones, K. Madge, S. Matthews, A.G. Morgan, E. Morgan, S. Najmi, D. Phillips, D. Price, A.D.T. Speake, E.E. Thomas, G. Thomas, J. Tremlett a D. Williams.

 

Yn erbyn y Cynnig (0)

 

Ymataliadau (3)

Y Cynghorwyr K. Lloyd, J. Prosser a B. Thomas.

 

PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei fabwysiadu.