Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Cofnodion:

·       Roedd y Cadeirydd wedi bod mewn nifer o ddigwyddiadau coffa gan gynnwys gwasanaethau yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Phump-hewl. Roedd wedi cael y fraint o fynd i seremoni dadorchuddio cofeb newydd ger Eglwys Llanarthne ar gyfer y plwyfolion o Lanarthne a gollwyd yn ystod y rhyfel. Bu hefyd mewn dadorchuddiad cofeb yn Neuadd Llansteffan i'r milwr olaf o'r ardal i golli ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd wedi agor gardd goffa yn Nafen. Agorodd arddangosfa addysgol ardderchog yn Hendy-gwyn ar Daf a mwynhau perfformiad arbennig o "Oh what a lovely war" yn Llanelli ynghyd â chyngherddau coffa yn y Garnant a Phorth Tywyn. Hoffai ddiolch yn fawr i'r trefnwyr, ac yn enwedig y Lleng Brydeinig.  Roedd pob digwyddiad y bu iddo yn gofiadwy ac yn brofiad emosiynol a berodd i bawb sylweddoli pa mor erchyll yw rhyfel;

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at y lluniau pabi a oedd wedi goleuo wal Neuadd y Sir nos Sul 11 Tachwedd. Roedd Neuadd y Sir hefyd wedi'i goleuo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban a Diwrnod Polio y Byd, a byddai hynny'n digwydd ar gyfer Diwrnod Aids y Byd;

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at y tywydd garw a darodd Sir Gaerfyrddin fis diwethaf.  Dywedodd ein bod yn meddwl am yr unigolion, y busnesau a'r cymunedau oedd wedi dioddef yn sgil y llifogydd gwaethaf i ni weld am dros 30 mlynedd. Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad am y llifogydd, gan ddweud wrth y Cyngor fod cronfa wedi'i sefydlu y diwrnod canlynol i helpu'r rheiny roedd y llifogydd wedi effeithio arnynt. Bu swyddogion yn ymweld â'r ardaloedd a darwyd i gynnig cymorth ymarferol ac i helpu pobl i gael arian gan y gronfa. Diolchodd yr Arweinydd o waelod calon i'r swyddogion fu'n gweithio mor galed, gan fynd yr ail filltir. Roedd Cronfa arall wedi'i sefydlu rai diwrnodau'n ddiweddarach i helpu'r 210 o fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd. Roedd swyddogion hefyd yn cynnig cefnogaeth a chymorth i gael y busnesau hynny yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl.  O ran ffyrdd a seilwaith, roedd yr holl ffyrdd a phontydd wedi cael eu harchwilio ac ar agor, ar wahân i'r A484 yng Nghwmduad, lle roedd tirlithriad wedi bod. Byddai angen tua £3 miliwn i sicrhau bod y seilwaith hwnnw yn dychwelyd i'r un cyflwr ag ydoedd cyn y storom. Ar ran y Cyngor, bu i'r Arweinydd gydymdeimlo'n ddiffuant â pherthnasau a chyfeillion Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd yn y drychineb yn Nghwm-duad;

·       Trafodwyd Ymgyrch y Rhuban Gwyn fis Tachwedd y llynedd.  Gweledigaeth yr ymgyrch yw gweld cymdeithas rhydd rhag pob math o drais gan ddynion.

Ers hynny, roedd y Cynghorydd Cefin Campbell wedi'i benodi'n Llysgennad ar gyfer yr ymgyrch.  Roedd wedi ceisio Achrediad Rhuban Gwyn erbyn Diwrnod Rhuban Gwyn 2018, sef 25 Tachwedd, ac roedd y Cyngor wedi llwyddo i ennill Statws Rhuban Gwyn ym mis Awst er mwyn cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud a beth rydym yn bwriadu ei wneud i gael dynion i siarad ac i herio trais gan ddynion yn erbyn menywod. Anogwyd yr Aelodau gan y Cadeirydd i fynd ar-lein i addo "Byth i gyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod”;

·       Bu i'r Cadeirydd estyn gair o gydymdeimlad at Mrs Ann Davies yn dilyn marwolaeth ei g?r, Denzil Davies, cyn-Aelod Seneddol Llanelli;

·       Dymunodd y Cadeirydd ben-blwydd hapus i'r Tywysog Charles yn 70 oed.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau