Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2016/17 to 2018/19

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd D.J.R Bartlett ddatgan buddiant sef ei fod yn Llywydd Cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 - 2018/19 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 16eg Tachwedd 2015. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r setliad dros dro ar 9fed Rhagfyr ac y byddai cyllideb Sir Gaerfyrddin 1% yn llai yn hytrach na 3.3% yn llai sef y ganran yr oedd y Strategaeth wedi ei seilio arni. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys £35 miliwn yn y setliad i gefnogi addysg a £21 miliwn o gymorth ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol ar sail Cymru gyfan. Roedd hyn yn cyfateb i £2.1 miliwn a £1.3 miliwn yn eu tro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Petai'r cyllid cyfwerth hwn yn cael ei drosglwyddo i gyllidebau'r ysgolion, byddai hynny'n lleihau'r arbedion effeithlonrwydd o £5.5 miliwn sydd eu hangen o ran cyllidebau ysgolion yn 2016/17. Ar hyn o bryd nid oedd pob grant penodol wedi cael ei gadarnhau ac roedd posibilrwydd o hyd y gallai rhai grantiau gael eu cynnwys yn y setliad terfynol yn hytrach na bod yn grant penodol. Nid oedd amcan ynghylch setliad y blynyddoedd dilynol. I grynhoi, mae'n bosibl na fydd angen rhoi sylw i'r diffyg yn yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd ar gyfer 2016/17 bellach, ond roedd yn hanfodol cyflawni'r arbedion o £13.6 miliwn a nodwyd.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Ceisiwyd eglurhad ynghylch cyllidebau ysgolion. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod cyllidebau ysgolion wedi cael eu dilysu er mwyn rhoi ystyriaeth i bensiynau athrawon, newidiadau i yswiriant gwladol a chwyddiant mewn cyflogau. Roedd hyn yn gyfwerth ag ychydig dros £3 miliwn. Petai'r £2.1 miliwn a ddiogelir yn cael ei drosglwyddo'n llawn i ysgolion, byddai hynny'n lleihau'r arbedion effeithlonrwydd sydd eu hangen y flwyddyn nesaf i £3.4 miliwn ac felly byddai ysgolion yn cael bron yr un swm o arian.

 

Mynegwyd pryderon fod ysgolion yn gweithio ar gynlluniau ar hyn o bryd i wneud yr arbedion a nodwyd yn y cynllun gwreiddiol a allai gynnwys diswyddo staff. Gofynnwyd pryd y byddai ysgolion yn cael cadarnhad ynghylch eu sefyllfa o ran y gyllideb yn dilyn y setliad dros dro. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod hynny'n anodd gan nad oedd dim gwybodaeth gadarn am y swm sy'n cael ei ddiogelu gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod ganddo ddau bryder sef nad oedd y manylion mewn perthynas â'r setliad a diogelu cyllideb addysg yn glir eto yn ogystal â sut y byddai'r Cyngor hwn yn gweithredu pan fydd y rhain yn cael eu cadarnhau.

 

Mynegwyd pryderon nad oedd yr ansicrwydd ynghylch y setliad terfynol a'r amseru ym mis Mawrth ychydig cyn cyfarfod y Cyngor ar 11eg, yn rhoi amser i'r Aelodau roi ystyriaeth briodol i'r gyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod ei adran yn dal yn gorfod cyflawni'r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd yn yr adroddiad a'i bod yn bwysig i'r Aelodau fynegi eu barn fel rhan o'r broses ymgynghori. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod angen i'r Cyngor bennu'r gyllideb ym mis Chwefror ar sail y setliad dros dro a'i bod yn debygol mai dim ond mân newidiadau fyddai'n cael eu gwneud yn dilyn y setliad terfynol.

 

Gofynnwyd a ymgynghorwyd â'r undebau athrawon mewn perthynas â chyllidebau ysgolion. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg/Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod yr undebau athrawon yn cael eu cynrychioli ar y Fforwm Cyllidebau Ysgolion. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol ynghylch y posibilrwydd o ddiswyddo staff ysgol yn sgil yr arbedion sydd eu hangen, dywedodd fod gr?p o benaethiaid a swyddogion busnes ysgolion wedi bod yn ystyried ffyrdd o leihau costau drwy newidiadau i fusnes a gweinyddiaeth. Roedd y Gr?p wedi bod yn casglu syniadau ac yn ystyried mesurau i ddiogelu ysgolion bach yn benodol. Byddai'r Gr?p yn rhannu ei syniadau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'r sefyllfa o ran diogelu ar gyfer ysgolion hefyd yn gliriach ym mis Ionawr.

 

Gofynnwyd am eglurhad mewn perthynas â goblygiadau ariannol y toriad o 1% i'r Cyngor hwn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod hyn yn gyfwerth â rhagolwg cyllideb gwell o oddeutu £7.5 miliwn sy'n cynnwys cyfanswm o £3.4 miliwn o ran gofal cymdeithasol a diogelu ar gyfer ysgolion. Fodd bynnag, ar ôl cwblhau'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb a derbyn adborth, byddai angen i aelodau ystyried sut y bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio, gan ystyried y pwysau ychwanegol, y gofynion o ran diogelu, adborth o'r broses ymgynghori, yr arbedion effeithlonrwydd a gynigir ac unrhyw newidiadau i grantiau penodol.

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw grantiau addysg mewn perygl. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod y Llywodraeth Leol wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru ynghylch lleihau nifer y grantiau oherwydd y baich gweinyddol. Roedd 11 grant wedi cael eu huno yn y Grant Gwella Addysg y llynedd ond roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi lleihau'r cyfanswm cyffredinol tua 14%. Roedd rhai o'r grantiau a oedd wedi eu cadarnhau heb gael eu lleihau, megis Dechrau'n Deg, ond roedd rhai wedi cael eu lleihau, megis Teuluoedd yn Gyntaf. Roedd y grant hwn 11% yn llai a byddai'n arwain at doriadau mewn gwasanaethau i gefnogi teuluoedd agored i niwed. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau 33 o'r 44 grant penodol a oedd yn bodoli y llynedd yn y setliad hyd yn hyn, a bod gostyngiad cyffredinol o 5%. Gallai 1 neu 2 o'r rhai sydd ar ôl symud i'r Grant Cynnal Refeniw. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod y Grant Amddifadedd Disgyblion wedi'i gadarnhau am y flwyddyn nesaf a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai cyllid ôl-16 yn parhau ar yr un lefel â'r flwyddyn hon ond gallai fod gostyngiad yn y Grant Gwella Addysg cyffredinol.

 

Cyfeiriwyd at y cynnig i leihau'r amser ar gyfartaledd ar gyfer brecwast ysgol am ddim a gofynnwyd a ellid amrywio hyn yn dibynnu ar y sefyllfa yn yr ysgol. Tynnwyd sylw at Ysgol Gynradd Gymunedol Tre Ioan fel esiampl o ysgol lle mae 200 o ddisgyblion yn derbyn y brecwast am ddim mewn ffreutur sydd â lle i 150 yn unig. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Strategol fod hyn yn cael ei ystyried ar gyfer pob safle yn unigol ac o ran y galw. Byddai hefyd yn cael ei wneud gyda chydsyniad penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y cynnig yn ymwneud â Datganiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg/Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod Datganiadau yn para hyd nes y bydd yr unigolyn yn gadael yr ysgol uwchradd. Y cynnig oedd y byddai'r cyllid sy'n cael ei ryddhau'n cael ei ystyried fel arbedion i'r Adran. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol, cadarnhaodd fod yr Awdurdod wedi bod yn rhan o gynllun i dreialu ffordd arall o weithio er 2008 ac na fyddai'r Côd Ymarfer newydd ar gyfer AAA yn cael ei gadarnhau am 2 flwyddyn arall.

 

Mynegwyd pryder ynghylch y cynnig polisi newydd i leihau'r ddarpariaeth arbenigol ar gyfer gofal seibiant y tu allan i oriau ysgol i blant a phobl ifanc anabl. Teimlwyd nad oedd digon o fanylion ynghylch yr effaith bosibl. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant mai'r bwriad oedd lleihau cyllid grant £50,000 y flwyddyn nesaf i 3 sefydliad mewn 3 rhan o'r sir. Byddai'n rhaid i sefydliadau godi eu harian eu hunain o ffynonellau eraill. Roedd yr un yn Llanelli yn sefydliad mawr ond roedd gwir bryder na fydd y gwasanaeth yno o bosib yn y dyfodol. Cynllun chwarae Breakthro Caerfyrddin oedd yr unig gynllun chwarae yn y sir â theclyn codi ac felly byddai’n anodd i rai plant ag anableddau corfforol cymhleth gael gwasanaeth rywle arall.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

6.2       Gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ailystyried y cynnig polisi newydd i leihau'r ddarpariaeth arbenigol ar gyfer Gofal Cyfnod Byr/Seibiant y tu allan i oriau ysgol i blant a phobl ifanc anabl.

 

6.3       Cymeradwyo'r Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant.

 

Dogfennau ategol: