Agenda item

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 1 - 1AF EBRILL HYD 30AIN MEHEFIN 2O18.

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2018 (Chwarter 1), a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-23 i ddarparu'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin, 2018.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder o ran y 27 mesur a nodwyd yn yr adroddiad, gan nad yw 20 ohonynt ar waith neu nad yw data'n cael ei gasglu ar gyfer chwarter 1 na chwarter 2.  O ran y 67 o gamau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r targed yn ôl yr adroddiad, nodwyd nad yw dyddiadau'r targed yn dechrau tan 2019/20.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y term 'yn unol â'r targed' yn un hanesyddol a'r hyn sy'n cael ei ddweud yw nad yw'r swyddogion yn rhagweld y bydd unrhyw heriau o ran cyrraedd y targedau mewn perthynas â pherfformiad yn Chwarter 1;

·       Mynegwyd pryder ynghylch fformat yr adroddiad oherwydd ceir thema 11 a 13 rhwng thema 1 a 2.  Cytunodd y swyddogion i ystyried y fformat wrth lunio adroddiadau yn y dyfodol;

·       O ran y ganran o blant sydd wedi'u hailgofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, gofynnwyd i'r swyddogion sut y mae'r targed yn cael ei bennu.   Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai targed cenedlaethol yw hwn ac fe'i defnyddir fel cymharydd rhwng Awdurdodau Cymru;

·       O ran yr ymgyrch i ddatblygu'r Gymraeg ym mhob un o'n gwasanaethau addysg, gofynnwyd i'r swyddogion am y sesiynau gweithdy ac a yw rhieni a phlant unigol yn cael eu targedu.  Esboniodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant mai nod y gweithdai oedd rhannu'r weledigaeth yn ddarnau.  Yn anffodus, ni ddaeth llawer o bobl a'r gobaith oedd cynnal y gweithdy eto yng nghyfarfod nesaf y Penaethiaid Cynradd ac Uwchradd.  Ychwanegodd, o ran cynnwys rhieni, ei fod yn siarad â rhieni gyda'r Rheolwr Datblygu'r Gymraeg o'r Awdurdod.

·       Gofynnir i ysgolion annog rhieni i ddewis addysg ddwyieithog ar gyfer eu plant a gofynnwyd i'r swyddogion am yr hyn sy'n cael ei wneud o ran argyhoeddi'r rhieni hynny sydd wedi penderfynu yn erbyn addysg ddwyieithog.  Esboniodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y ceir yr holl wybodaeth angenrheidiol ym mhrosbectws yr ysgol a'r llyfryn Gwybodaeth i Rieni sy'n cael ei anfon at rieni pob plentyn sydd ar fin dechrau'r ysgol;

·       Cyfeiriwyd at y pryderon blaenorol a godwyd gan y Pwyllgor ynghylch Modelau Buddsoddi Cydfuddiannol a chwmnïau preifat sy'n gwneud elw o addysg a gofynnwyd i'r swyddogion am y wybodaeth ddiweddaraf.  Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg wrth y Pwyllgor fod Awdurdodau Lleol eraill hefyd yn rhannu'r pryderon a godwyd.  Mae swyddogion yn aros am gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru, ac ar ôl hyn bydd adroddiad yn cael ei baratoi i'w gyflwyno i'r Pwyllgor;

·       Mewn perthynas â phrosiectau moderneiddio arfaethedig yn Ysgol Rhys Prichard, gofynnwyd i'r swyddogion a fydd y dalgylchoedd yn ardal Dinefwr yn cael eu hadolygu.  Cytunodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod angen adolygu'r dalgylchoedd gan nad ydynt wedi'u hadolygu ers 2010 oherwydd diffyg adnoddau.  Fodd bynnag, amlinellodd mai'r cwestiwn hanfodol y mae angen rhoi sylw iddo yw a oes angen dalgylchoedd arnom, ac roedd wrthi'n ystyried yr opsiwn hwn ac yn edrych ar yr hyn sy'n cael ei wneud gan Awdurdodau Lleol eraill;

·       Cyfeiriwyd at y digwyddiad trasig diweddar yn Ysgol Sant Ioan Llwyd ac at ddwy farwolaeth debyg a chynamserol yn y sir, a gofynnwyd i'r swyddogion a ydynt yn fodlon bod iechyd meddwl a chorfforol yn cael digon o flaenoriaeth gan yr Awdurdod.  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg sicrwydd i'r Pwyllgor fod hyn yn flaenoriaeth, ond ni all un corff fynd i'r afael â'r mater hwn ar ei ben ei hun, ac roedd dull amlasiantaeth yn hanfodol.  Pwysleisiodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant pa mor bwysig yw sicrhau bod ysgolion yn lleoedd croesawgar, diogel ac empathetig.  Mae diogelu a llesiant ein plant yn hanfodol bwysig ac mae llesiant, gofal, cymorth ac arweiniad yn rhan o'r pecyn hyfforddiant a gynigir i'r holl ysgolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: