Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun a ddatblygwyd gan yr Adran Cymunedau ynghylch y newidiadau i'r Gwasanaeth Pryd ar Glud.
Ar ôl i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol benderfynu tynnu'n ôl o ddarparu'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref 2018, roedd angen i'r adran adolygu'r 214 o ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn asesu anghenion pob unigolyn a chynnig dewisiadau eraill. Roedd hefyd yn gyfle i hybu mwy o annibyniaeth a chyfleoedd cymdeithasu ar gyfer yr unigolion, gan ddatblygu, lle bo modd, fentrau yn y gymuned i gefnogi'r unigolion a'u cymunedau lleol. Dechreuodd y broses adolygu ym mis Mai ac mae bellach wedi'i chwblhau.
Mae'r adolygiad wedi bod yn broses person-ganolog sydd wedi nodi, ar y cyd â'r defnyddiwr gwasanaeth a'i deulu, y dewisiadau sydd fwyaf priodol i'r unigolyn. Mae'r adran yn fodlon bod trefniadau amgen wedi'u gwneud i bob un o'r defnyddwyr gwasanaeth a adolygir, a bod y trefniadau hyn yn ddiogel ac yn addas i'r unigolion. Er gwaethaf rhai anawsterau cychwynnol wrth adolygu'r unigolion yng ngogledd-orllewin y sir, ychydig iawn o bryderon a godwyd ac mae canlyniadau'r adolygiad wedi darparu trefniadau newydd a chadarnhaol ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth. Mae enghreifftiau'n cynnwys pobl yn defnyddio caffis lleol sy'n cynnig dewis gwell o brydau am gost debyg, a phobl yn dewis Wiltshire Farm Foods, sef gwasanaeth sy'n dosbarthu prydau wedi'u rhewi ledled y sir.
Ar sail canlyniadau'r adolygiad, mae'r rhan fwyaf o'r unigolion a oedd yn defnyddio'r Gwasanaeth Pryd ar Glud naill ai wedi dewis ymdopi ar eu pen eu hunain, maent wedi cael gafael ar fusnesau lleol i'w cynorthwyo o ran darparu pryd twym, neu maent yn defnyddio Wiltshire Farm Foods.
Ychydig iawn ohonynt oedd angen cael rhagor o gymorth gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, ac mae'r adran yn cynnal trafodaethau â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a sefydliadau'r trydydd sector i ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion parhaus y 17 unigolyn sydd ar ôl gan gynnwys y rheiny y mae angen cymorth arnynt i dwymo eu prydau a mwynhau cael cwmni.
Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder na fydd y mentrau newydd yn bodloni'r gofynion o ran pobl unig a phobl agored i niwed yn yr un ffordd â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor fod yna argraff ledled Cymru nad oedd y Gwasanaeth Pryd ar Glud yn diwallu anghenion pobl a'u bod am gael rhywbeth gwahanol. Y gred gyffredinol oedd bod yna ffyrdd eraill o ddiwallu anghenion pobl. Ychwanegodd fod swyddogion yn archwilio ystod o fentrau i ymgysylltu â phobl;
· Gofynnwyd am sicrwydd bod y system newydd yn gynhwysfawr ac y bydd monitro'n cael ei wneud. Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod seminar yn cael ei gynnal ar gyfer y Pwyllgor ynghylch y Strategaeth Ddarparu er mwyn lleddfu pryderon yr aelodau;
· Cyfeiriwyd at yr adroddiad diweddaraf gan Age UK sy'n dangos bod bron 1:10 o bobl dros 65 oed mewn perygl o fod â diffyg maeth a bod 50% o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty o gartrefi gofal yn dioddef o ddiffyg maeth, a mynegwyd pryder bod yna broblem glir o ran diffyg maeth ymhlith yr henoed. Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod Strategaeth Faeth yr Awdurdod yn cael ei chynnwys yn y seminar arfaethedig;
· Cyfeiriwyd at y ffaith nad yw'r holl ddarparwyr lleol wedi'u rhestru ar wefan y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr Awdurdod yn ceisio hwyluso mynediad at yr holl ddarparwyr lleol, ond ar ôl cael adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a ddywedodd nad ydynt yn gallu cyrchu'r wybodaeth y mae ei hangen arnynt, cydnabuwyd bod angen diweddaru'r wefan. Cynhelir gweithdy ym mis Hydref er mwyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth a'r gofalwyr drafod gwelliannau i'r wefan;
· Gofynnwyd i'r swyddogion am fanylion pellach ynghylch y 17 defnyddiwr gwasanaeth y mae eu hanghenion heb gael eu diwallu eto. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig i ddosbarthu'r wybodaeth hon i'r Pwyllgor;
· Gofynnwyd i'r swyddogion a yw'n bosibl cysylltu â'r 214 o ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn gofyn iddynt a ydynt yn fodlon ar y trefniadau newydd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gellid cynnal gwerthusiad terfynol a fyddai'n casglu'r wybodaeth hon.
PENDERFYNWYD
8.1 derbyn yr adroddiad;
8.2 trefnu seminar ynghylch y Strategaeth Ddarparu ar gyfer aelodau'r Pwyllgor;
8.3 ystyried adroddiad gwerthuso terfynol ynghylch boddhad cwsmeriaid mewn perthynas â'r trefniadau newydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: