Agenda item

CYFLWYNIAD GAN LINK AR CERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD

Cofnodion:

Croesawyd Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Asset Services gan y Cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad ar y Prif Gerrig Milltir a'r cynnydd ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Darparodd Ms Jones restr lawn i'r Cydbwyllgor o'r dyddiadau posib ar gyfer y prif gerrig milltir, y cynnydd hyd yn hyn ar Gronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang) Tranche 2 (y DU ac Ecwiti Ewropeaidd) a'r camau nesaf.

 

Dywedodd Ms Jones fod Link ar hyn o bryd yn gweithio trwy'r templedi adrodd a bod y Gweithgor Swyddogion wedi ystyried pecyn sampl ym mis Gorffennaf, gobeithiwyd felly y byddai modd cytuno ar y pecyn cyn hir i fod yn barod ar gyfer lansiad y gronfa gyntaf.

 

Rhoddodd Ms Jones wybod i'r Cydbwyllgor fod Cytundebau'r Rheolwyr Buddsoddi ar y gweill a gobeithiwyd y byddai'r holl gytundebau wedi cael eu llofnodi erbyn diwedd mis Medi 2018. 

 

O ran yr Is-gronfa Ecwiti Byd-eang, roedd Link yn parhau i dargedu canol mis Tachwedd 2018 ar gyfer lansio'r ddwy gronfa gyntaf a gobeithiwyd y byddai modd llunio cytundeb o fewn Eitem 6 y Rhaglen ar gyfer cronfeydd Tranche 2 - Ecwiti'r DU ac Ewrop, a chymeradwyo ychwanegiadau atodlen 5 i brosbectws y gronfa erbyn 5 Hydref.

 

O ran Penodi Rheolwyr Trawsffurfio ar gyfer y ddwy gronfa gyntaf (Ecwiti Byd-eang), roedd pob bid wedi'i gyflwyno a'r broses werthuso gychwynnol wedi'i chynnal, roedd y swyddogion wedi'u hadolygu a disgwylid cymeradwyaeth terfynol yn yr wythnos nesaf.

 

O ran y cynnydd hyd yn hyn, rhoddwyd gwybod i'r Cydbwyllgor:-

 

·         Derbyniwyd cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ar gyfer yr arian cychwynnol ar 24 Gorffennaf;

·         Cynhaliwyd diwrnod ymgysylltu Rheolwyr Cychwynnol ar 5 Medi gyda'r 3 Rheolwr Twf Byd-eang a'r 3 Rheolwr Cyfleoedd Byd-eang yn mynychu, byddai 4 rheolwr arall yn cyfarfod â'r Cydbwyllgor yn ddiweddarach y bore hwnnw

·         Roedd trafodaethau ynghylch contractau wedi dechrau gyda Northern Trust ar gyfer y cytundeb adneuo, yn unol â'r adroddiad ac roedd y copi gweithredu i fod i gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn yr wythnos.

·         Roedd Link wedi adolygu'r cytundeb Gweinyddol ac wedi bwydo sylwadau cychwynnol i Northern Trust.

·         Roedd llythyrau ymgysylltu yn eu lle ar gyfer ymgynghorwyr Archwilio, Cyfreithiol a Threthi.

 

O ran Tranche 2, roedd Link wedi ystyried ecwiti'r DU ac Ewrop, ac roedd y cynigion ar gyfer y gronfa wedi cael eu cytuno gydag awdurdodau lleol Caerdydd a Thorfaen, gydag ychwanegiadau atodlen 5 wedi'u cwblhau a'u cyflwyno i'r Swyddogion eu hadolygu ac yna i'w cymeradwyo ar gyfer eu cyflwyno i FCA gyda'r bwriad o'u lansio ganol mis Ionawr 2019.  Gobeithiwyd y byddai'r Rheolwyr Trawsnewid yn cael eu penodi erbyn 11 Hydref 2018.  Roedd gwaith hefyd wedi dechrau ar y cynigion incwm sefydlog a gobeithiwyd y byddant yn cael eu cytuno ym mis Tachwedd 2018 er mwyn i'r gwaith ddechrau ar drydydd cyflwyniad i'r FCA.

 

Cyfeiriwyd at y prif gerrig milltir a'r dyddiadau yn yr adroddiad, a gofynnwyd am eglurhad o ran y broses o benodi'r Rheolwr Trawsnewid. Dywedodd Swyddog A151 y Cydbwyllgor y byddai angen i bob awdurdod unigol benodi Rheolwr Trawsnewid, a phroses benodi yr Awdurdod hwnnw fyddai'n cael ei defnyddio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd Ms Jones y byddai penodiad Rheolwyr Twf Byd-eang a Chyfleoedd Byd-eang yn amodol ar berfformiad ar y tranche cyntaf, ac felly nid oedd sicrwydd y byddai'r un rheolwyr yn cael eu penodi i'r gwahanol gronfeydd.

 

Rhoddodd Mr Anthony Parnell y diweddariad a ganlyn i'r Pwyllgor ar gyfrifoldebau'r awdurdod lletya:-

 

·         Staffio - yn dilyn problem adnoddau, roedd yr Awdurdod Lletya ar hyn o bryd yn cynnal proses recriwtio  o ran Swyddog Partneriaeth Pensiwn Cymru a gobeithiwyd y gellid penodi yn y misoedd nesaf.

·         O ran cyfathrebu, roedd y pecyn adrodd cyntaf wedi cael ei lunio ac roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda Phartneriaeth Pensiwn arall i weld a ellid cytuno ar ddull gweithredu cyson ar gyfer adrodd yn ôl. Hefyd, roedd gofyn i'r Bartneriaeth ddarparu adroddiad cynnydd i'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol pob tymor, byddai adroddiad yr hydref yn cael ei ddrafftio'n fuan mewn ymgynghoriad â Hymans Robertson, ac yn dilyn ymgynghoriad gyda'r Gweithgor Swyddogion, byddai'r adroddiad cynnydd yn cael ei ddosbarthu ar gyfer ei gymeradwyo gan y Cydbwyllgor ar e-bost.

·         Llywodraethu - Roedd Gweithgorau Swyddogion yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd, roedd y prosbectysau wedi cael eu cymeradwyo ac roedd trefniadau'r Cydbwyllgor yn gweithio'n dda ac yn cymharu'n dda â chronfeydd pensiwn eraill cyffelyb.  Roedd y gwaith ar ddatblygu'r wefan yn mynd rhagddo. Roedd y trefniadau adrodd yn parhau i gael eu datblygu yn unol ag argymhellion CIPFA a disgwyliadau'r Llywodraeth.

 

Dymunai'r Cadeirydd longyfarch y Bartneriaeth ar ei llwyddiant diweddar wrth gael canmoliaeth uchel yn y categori 'Pool of the Year' yng Ngwobrau Buddsoddi LAPF 2018 a gynhaliwyd yng ngwesty'r Savoy yn Llundain, ddydd Iau 20 Medi, 2018.

 

Hysbysodd Swyddog Adran 151 y Pwyllgor fod cais wedi'i dderbyn gan y Gweinidog dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i gyfarfod â Chadeirydd y Pwyllgor a swyddogion i drafod cynigion isadeiledd posib y Cydbwyllgor, ac y byddai'r cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn fuan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r pwyllgor yn derbyn cyflwyniad gan Link a'r Awdurdod Lletya ar y cerrig milltir ynghyd â'r diweddaraf o ran cynnydd.

 

 

Dogfennau ategol: