Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Fund Solutions, a oedd am roi cyflwyniad ar y Prif Gerrig Milltir a'r cynnydd mewn perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru.
Darparodd Ms Jones restr lawn i'r Cydbwyllgor o'r dyddiadau posib ar gyfer y prif gerrig milltir, y cynnydd hyd yn hyn ar Gronfeydd Cychwynnol (Ecwiti Byd-eang) Tranche 2 (y DU ac Ecwiti Ewropeaidd), Tranche 3 (Incwm Sefydlog) a'r camau nesaf.
Dywedodd Ms Jones bod Tranche 1 wedi'i lansio'n llwyddiannus ym mis Ionawr a bod yr adroddiadau wedi'r masnachu wedi'u cyhoeddi. Roedd Tranche 2 wedi'i gymeradwyo ac roedd dyddiad ar gyfer y lansio wrthi'n cael ei gytuno. O ran Tranche 3, byddai cynnig ar gyfer strwythur terfynol y gronfa yn cael ei ddarparu yn ddiweddarach yn y cyfarfod (gweler Eitem 11). Byddai'r pecyn adrodd misol cyntaf yn cael ei gylchredeg y mis hwn. Y camau allweddol nesaf fyddai cytuno ar strwythurau'r gronfa ar gyfer Tranche 3, cytuno ar reolwyr a chael cytundeb ar fenthyca stoc a oedd yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan yr holl awdurdodau cyfansawdd.
Rhoddodd Mr Anthony Parnell y diweddariad a ganlyn i'r Pwyllgor ar gyfrifoldebau'r awdurdod lletya:
· Staffio - penodwyd Tracey Williams fel Uwch Swyddog y Gwasanaethau Ariannol ym mis Chwefror 2019. Dywedodd Mr Parnell bod ail rôl Swyddog yr Awdurdod Lletya wedi cael ei chynnwys fel darpariaeth yn y gyllideb. Byddai'n dod yn eglur p'un a fyddai angen y rôl honno wrth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ddatblygu dros y 12 mis nesaf.
· Cyfathrebu - Roedd polisi cyfathrebu wedi'i ddrafftio â Hymans a byddai'r wefan ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru yn weithredol yn gynnar yn yr haf. Roedd y Gweithgor Swyddogion yn parhau i fod mewn cyswllt rheolaidd.
· Llywodraethu - Byddai Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn yn derbyn adroddiad ar lywodraethu yn ystod y cyfarfod yr wythnos nesaf a hynny er mwyn egluro cyfrifoldebau'r Cydbwyllgor Llywodraethu, y Gweithgor Swyddogion, LINK, Russell Investments a'r Awdurdod Lletya.
· Adrodd - Disgwyliwyd adroddiadau gan LINK yn fuan. Dywedodd Mr Parnell y byddai eitem ar adrodd yn cael ei rhoi ar raglen y Cydbwyllgor Llywodraethu ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Yn ogystal, dywedodd Mr Parnell bod cyfarfod cychwynnol wedi'i gynnal â Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Archwiliad Partneriaeth Pensiynau Cymru. Byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn cysylltu â'r wyth archwiliwr cronfa a byddai cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf. Byddai'r Cydbwyllgor Llywodraethu'n cael diweddariad ar hyn yn y dyfodol agos.
Gwnaed sylw yn croesawu'r cynlluniau ar gyfer gwefan i Bartneriaeth Pensiynau Cymru ac fe awgrymwyd y dylid cwblhau hyn cyn gynted ag y bo modd er mwyn cefnogi cyfathrebu a thryloywder.
Gwnaed ymholiad ynghylch rhan yr undebau llafur ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru, ynghyd â'u cynrychiolaeth ar y Cydbwyllgor Llywodraethu. Awgrymwyd y dylid clustnodi'r pwnc hwn ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol er mwyn i'r Cydbwyllgor ei ystyried a gwneud penderfyniad ffurfiol arno. Awgrymodd Aelod o'r Panel bod y swyddogaethau craffu a chynghori oedd gan Fyrddau Pensiwn yn gorwedd ar lefel pob Pwyllgor Cronfa Bensiwn unigol a'u cynrychiolwyr ar y Cydbwyllgor Llywodraethu, felly, nid oedd angen rôl o'r fath ar lefel y p?l. Awgrymwyd bod ymwneud a chyfathrebu â phob budd-ddeiliad yn hanfodol, ond bod yn rhaid i hynny ddigwydd yn y fforymau priodol.
Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd y Cytundeb Rhwng Awdurdodau yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cynrychioli aelodau heb bleidlais neu aelodau cyfetholedig ar y Cydbwyllgor Llywodraethu. Pe byddai'r Cydbwyllgor Llywodraethu'n penderfynu o blaid cynrychiolaeth undebau llafur, byddai'n rhaid addasu'r Cytundeb, gyda chefnogaeth gan yr wyth Awdurdod Cyfansawdd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn y cyflwyniad gan Link a'r Awdurdod Lletya ar y cerrig milltir a'r diweddariad ar y cynnydd.
Dogfennau ategol: