Agenda item
HYSBYSIAD DIGWYDDIAD DROS DRO - DERWYDD MANSION, DERWYDD ROAD, RHYDAMAN, SIR GAR, SA18 3LQ
Cofnodion:
Yn ei gyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 cafodd yr Is-bwyllgor y 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, ond er mwyn casglu rhagor o dystiolaeth, penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynghylch y 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro tan y cyfarfod hwn.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod hysbysiad gwrthwynebu wedi cael ei gyflwyno gan Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â'r 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Mrs Maria Dallavalle o La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman, SA18 2DA.
Roedd yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn berthnasol i werthu alcohol trwy fanwerthu, darparu Adloniant Rheoledig a Lluniaeth Gyda'r Hwyr ar y safle ar y diwrnodau a'r amserau canlynol:-
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 –
Dydd Sadwrn, 25 Awst 2018 – Y Lawnt Uchaf, Plasty
Derwydd
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 –
Dydd Sadwrn, 1 Medi 2018 – Y Lawnt Uchaf, Plasty
Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 –
Dydd Sadwrn, 3 Tachwedd 2018 – Y Neuadd Fawr, Plasty
Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Pwyllgor fod Adain Iechyd y Cyhoedd wedi gwrthod pob un o'r 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar sail niwsans s?n yn dilyn digwyddiadau eraill a gynhaliwyd ar y safle.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.
Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd:-
- Rhoddodd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd wybod i'r Is-bwyllgor ei fod wedi gwrthod yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro oherwydd hanes blaenorol ynghylch niwsans s?n yn ystod digwyddiadau ym Mhlas Derwydd.
- Ers y cyfarfod diwethaf, rhoddodd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd wybod ei fod wedi cwrdd â Mr Ian Matthews, sef Ymgynghorydd Acwstig Mrs Dallavalle, a oedd wedi nodi, er nad oedd lefelau s?n penodol yn bodoli ar gyfer digwyddiadau o'r fath, y cytunwyd y byddai lefel bwrpasol yn cael ei phennu ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad. Cydnabuwyd y byddai angen arbrofi ychydig o bosibl er mwyn dod o hyd i lefel dderbyniol y cytunir arni.
- Cafodd yr Is-bwyllgor gyfle i ystyried tystiolaeth ychwanegol a ddosbarthwyd ar ddechrau'r cyfarfod. Roedd y dystiolaeth yn cynnwys graffiau oedd yn dangos lefel y s?n a gofnodwyd ar 2 Mehefin 2018 am 22:57 ac ar 28 Gorffennaf 2018 am 21:11. Roedd yn amlwg bod y graff cofnodi s?n ar gyfer 28 Gorffennaf yn dangos bod gostyngiad sylweddol yn s?n y curiad/bas ers y lefel ar 2 Mehefin.
- Tynnodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd sylw'r Is-bwyllgor at y ffaith ei bod wedi bod yn anodd cael recordiad s?n 'clir' oherwydd y tywydd gwael, ond er gwaethaf hyn, roedd lefelau'r s?n ar y graff ar gyfer 28 Gorffennaf yn dal i ddangos gostyngiad sylweddol o 12 desibel.
- Yn ogystal, cafwyd ar ddeall bod Mr Matthews wedi datblygu cynllun rheoli s?n a oedd wedi cael ei roi ar waith i sicrhau bod y gostyngiad o ran s?n yn cael ei gynnal mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Cydnabuwyd bod yr holl gamau rheoli yn dibynnu ar Mrs Dallavalle yn cymryd camau gweddol syml i liniaru s?n. Ar y lefelau hyn roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai'r digwyddiadau'n achosi niwsans cyhoeddus.
Cafodd yr holl bartïon gyfle i holi Swyddog Iechyd yr Amgylchedd am ei sylwadau ac am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Yna cafodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth gan gymydog i'r safle oedd yn cefnogi gwrthwynebiadau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, a nodwyd y canlynol:-
- Roedd hon wedi bod yn broblem barhaus ers dwy flynedd;
- Gall fod y tywydd gwael ar 28 Gorffennaf 2018 wedi cyfrannu at ostyngiad mewn s?n pobl oherwydd bod y rhan fwyaf o gyfranogwyr y digwyddiad wedi aros y tu mewn i'r babell fawr;
- Y gofid oedd y byddai Mrs Dallavalle yn anwybyddu'r cynllun rheoli s?n yn y dyfodol.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r tyst ynghylch ei sylwadau.
- Cyfeiriwyd at y graffiau monitro s?n. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd fod y graffiau'n cofnodi'r gerddoriaeth yn unig ac nid s?n pobl yn y cefndir.
- Mewn ymateb i ymholiad arall, nododd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ei fod wedi gweld y cynllun rheoli s?n a oedd yn cynnwys y mesurau ymarferol canlynol:-
Pennu lefel gyffredinol y s?n
Lleihau'r mynediad i'r maes parcio;
Rhoi hysbysiadau i gwsmeriaid;
Trefnu staff yn y maes parcio;
Gosod cyfyngiadau ar ddefnyddio rhannau o'r maes parcio;
Cau ffenestri a drysau ar gyfer digwyddiadau y tu mewn;
Troi'r seinyddion oddi wrth eiddo;
Dim cerddoriaeth fyw/heb ei rheoli.
Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi cael sylwadau llafar gan Mrs Dallavalle na Mr Matthews, sef yr ymgynghorydd s?n, gan nad oeddent yn bresennol.
Ar hynny:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad, rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw hefyd i'r paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan y partïon.
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid ymdrin â'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro fel a ganlyn:-
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 - |
25 Awst, 2018 |
Nid oedd gwrth-hysbysiad wedi cael ei
gyflwyno |
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 - |
1 Medi 2018 |
Nid oedd gwrth-hysbysiad wedi cael ei
gyflwyno |
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 - |
3 Tachwedd 2018 |
Gohirio tan 25/09/18 |
Y RHESYMAU:-
Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
- Mae'r safle yn agos at ddwy fangre breswyl;
- Roedd s?n yn hwyr yn y nos a oedd yn dod o ddigwyddiadau ar y
safle wedi tarfu ar y preswylwyr yn un o'r eiddo hynny yn y
gorffennol;
- Mae'r recordiadau s?n a wnaed gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd
yn ystod digwyddiadau yn y gorffennol yn awgrymu y gallai
digwyddiadau arwain at niwsans i'r preswylwyr yn yr eiddo
hynny;
- Nid oes unrhyw bobl eraill yng nghyffiniau'r eiddo a fyddai'n
debygol o gael eu heffeithio gan unrhyw ddigwyddiadau a fyddai'n
cael eu cynnal;
- Nid oedd y preswylwyr yn yr eiddo ail agosaf wedi gwneud
unrhyw gwynion ynghylch s?n yn dod o'r safle;
- Roedd y cynllun rheoli s?n yn effeithiol yn ôl pob
golwg, ond roedd yn dibynnu ar Mrs Dallavalle yn ei roi ar
waith;
- Yn absenoldeb unrhyw sicrwydd gan Mrs Dallavalle ynghylch hyn, roedd yr Is-bwyllgor yn pryderu a fyddai hyn yn digwydd.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid i'r digwyddiadau hyn gael eu cynnal, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.
Barn yr Is-bwyllgor oedd bod tystiolaeth y trigolion lleol yn gredadwy ac mae'n derbyn bod digwyddiadau yn y safle wedi tarfu ar breswylwyr un eiddo yn y gorffennol.
Wrth benderfynu, roedd angen i'r Is-bwyllgor gymryd camau priodol i hyrwyddo'r amcan trwyddedu o ran atal Niwsans Cyhoeddus.
Yng ngoleuni tystiolaeth Mr Morgan, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai niwsans cyhoeddus yn digwydd yn sgil y digwyddiadau hyn petai'r cynllun rheoli s?n yn cael ei weithredu. Fodd bynnag, gan nad oedd Mrs Dallavalle yn bresennol roedd angen rhagor o dystiolaeth ar yr Is-bwyllgor y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu ac am ei effeithiolrwydd cyn gwneud penderfyniad ynghylch yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar gyfer 3 Tachwedd 2018.
Dogfennau ategol:
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth