Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf o ran y sefyllfa ariannol ar gyfer 2018-19, a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl mewn perthynas â
· Chyllideb y Tîm Canolog 2018-19
· Cytundebau Lefel Gwasanaeth
· Dyraniadau Grant 2018-19
· Grantiau 2018-19 – Grant Amddifadedd Disgyblion Plant sy'n Derbyn Gofal
· Grantiau 2018-19 – Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol
· Blaenoriaethau Cynllun Busnes ERW yn 2018-19
· Rhaglen Adolygu a Diwygio ERW
· Risgiau
· Cronfeydd wrth gefn
Gan gyfeirio at gofnod 5 y cyfarfod diwethaf lle gofynnwyd am eglurhad ynghylch sefyllfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch talu ei gyfraniad tuag at gostau craidd ERW ar gyfer 2018/19, dywedwyd y byddai'r Cyngor yn lleihau ei gyfraniad i ERW yn y dyfodol. Gwnaed y penderfyniad gan yr Aelodau Etholedig yng nghyd-destun cyllideb refeniw 2018/19 y Cyngor ar 21 Chwefror, 2018. Roedd Mr Steven Phillips, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi egluro sefyllfa'r Cyngor mewn llythyr a atodwyd i'r adroddiad.
Dywedodd y Prif Weithredwr Arweiniol bod llythyr wedi'i ysgrifennu at y Cyngor mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ERW a atodwyd i'r adroddiad a bod ymateb wedi dod i law gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, roedd ymateb pellach yn cael ei baratoi ar hyn o bryd. Cydnabuwyd na fyddai taliad yn ofynnol tan Hydref 2018 a bod amser ar gael i ddod i gytundeb drwy broses gyfryngu anffurfiol. Gofynnodd y Cadeirydd i'r mater gael ei ohirio a'i drafod ymhellach yn ystod cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.
Cafwyd sylw y byddai'n fuddiol, at ddibenion cysondeb, ymchwilio i'r Awdurdodau Lleol hynny sydd ar hyn o bryd â nifer gyflawn o ymgynghorwyr her er mwyn canfod faint oedd yn cael ei wario yn y maes hwn.
Cytunodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol cael gwybod am nifer yr Ymgynghorwyr Her a gyflogir a'r gost i bob Awdurdod Lleol a gofynnodd i'r wybodaeth hon gael ei hystyried yn ystod cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.
Nododd y Cyd-bwyllgor fod y llythyr yn Atodiad 2 o'r adroddiad yn nodi bod canlyniadau'r gwerthusiad diweddar wedi canfod bod angen cryn dipyn o waith er mwyn cryfhau'r trefniadau presennol. Er bod y llythyr yn cydnabod bod y gwerthusiad yn rhoi ystyriaeth i'r trefniadau yn ystod cyfnod 2015-16 a 2016-17, roedd cynnydd cadarnhaol wedi cael ei wneud ers hynny i gryfhau'r trefniadau er bod mwy o waith ei angen.
Mynegodd Swyddog A151 ERW bryderon ynghylch llif arian ERW, o gofio nad oedd Llywodraeth Cymru wedi prosesu unrhyw daliadau i'r rhanbarth ar gyfer 2019-20 a dywedodd wrth y Cyd-bwyllgor y byddai'n rhaid iddo ysgrifennu at bob Swyddog A151 i roi gwybod iddynt na fyddai unrhyw daliadau yn cael eu prosesu i'r Awdurdodau Lleol na'r ysgolion hyd nes y ceir cadarnhad am y grant gan Lywodraeth Cymru.
Mynegwyd pryder sylweddol ynghylch yr angen am arweinyddiaeth o safon uchel ym maes addysgu. Teimlwyd bod llawer o athrawon safonol yn cael eu secondio i'r consortia, ac o ganlyniad yn lleihau nifer yr athrawon safonol. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr er mwyn cefnogi'r newidiadau oedd i ddod, roedd hi ar hyn o bryd yn cysylltu â phenaethiaid ac y byddai'n darparu adroddiad i gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol.
Cytunwyd
7.4.1 cymeradwyo Cyllideb y Tîm Canolog ar gyfer 2018/19;
7.4.2 gohirio'r camau i'w cymryd pe na fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn talu ei gyfran o'r £250k o Gyfraniad yr Awdurdodau Lleol ar gyfer 2018-19 hyd nes cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;
7.4.3
i) bod dyraniadau grant
2018-19 a'r materion o ran bodloni pedwar o delerau ac amodau Grant
Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol yn cael eu nodi
a;
ii) i ofyn am lythyr ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn egluro telerau ac amodau'r grant.
7.4.4 nodi dyraniad grant 2018-19 a'r materion cyfredol o ran bodloni amodau a thelerau'r Grant Amddifadedd Disgyblion Plant sy'n Derbyn Gofal;
7.4.5 nodi dyraniad Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol i flaenoriaethau Cynllun Busnes ERW 2018-19;
7.4.6 nodi'r materion cyfredol mewn perthynas ag (a) bodloni telerau ac amodau RCSIG a (b) y fformiwla ar gyfer dosbarthu'r grant a elwid gynt yn Grant Gwella Addysg, a gafodd ei gynnwys yn RCSIG 2018-19 fel trefniant trosiannol, i'r chwe Awdurdod Lleol;
7.4.7 ceisio cael eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cynnig / trefniadau o ran y cyllid o £250k gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Adolygu a Diwygio, ac o ran ei ofynion ynghylch dychwelyd unrhyw arian sydd eisoes wedi'i wario;
7.4.8 gohirio'r penderfyniad ynghylch sut i ailgyflenwi cronfeydd wrth gefn ERW, naill ai gyda chyfraniad untro gan y chwe Awdurdod Lleol neu gynnydd yn cyfraniad blynyddol presennol o £250k hyd nes cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;
7.4.9 tynnu'n ôl y penderfyniad i benodi Rheolwr Gwella Cyllid a Busnes ar gontract tymor penodol am fis
Dogfennau ategol: