Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon yr Awdurdod ar gyfer 2017/18, a luniwyd yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a ddaeth â holl drafodion ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ynghyd, yn ogystal â manylu ar asedau a rhwymedigaethau'r Awdurdod fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2018.
Yn ystod 2017/18 roedd yr Awdurdod wedi cadw at gyllideb gwariant net Cronfa gyffredinol y Cyngor, ac roedd y canlyniadau canlynol wedi eu cynnwys yn y Datganiad Symudiadau Cronfeydd:-
- Cronfa'r Cyngor (ar gael yn gyffredinol ar gyfer gwariant newydd) – trosglwyddo i'r gweddillion £480k;
- Balances held by schools under local management schemes – transfer
from balances £195k;
- Y Cyfrif Refeniw Tai – cynnydd yn y gweddill o £6.103m gan gynnwys £3.8m i gefnogi Strategaeth Tai Fforddiadwy'r Awdurdod
Er bod gwasgfeydd ar nifer o feysydd gwasanaeth ar draws yr Awdurdod oherwydd y galw yn ystod y flwyddyn, nodwyd bod y rhain wedi eu gwrthbwyso gan danwariant mewn meysydd eraill, yn enwedig o ran costau cyllido cyfalaf, a chan lefel uwch na'r disgwyl o ran casglu'r Dreth Gyngor.
Roedd yr alldro a ddeilliai o hynny yn golygu bod yr Awdurdod wedi trosglwyddo £480k i'w gronfeydd wrth gefn cyffredinol, yn erbyn £200k yr oedd wedi'i drosglwyddo o'r cronfeydd wrth gefn.
Hefyd ceisiwyd sylw a chaniatâd ôl-weithredol gan y Pwyllgor mewn perthynas â'r symudiadau canlynol i'r cronfeydd wrth gefn ac oddi wrthynt:-
Y Gronfa Ymddeol Gorfforaethol - £750k i gefnogi polisi dileu swyddi ac ymddeol yn gynnar yr Awdurdod, gan ei alluogi i ddarparu ar gyfer y straen actiwaraidd ar y Gronfa Bensiwn sy'n digwydd yn sgil ymddeol yn gynnar neu ddileu swyddi;
Y Gronfa Datblygiadau Mawr - trosglwyddo £2.041m i gefnogi datblygiadau mawr yn y dyfodol;
Cyllid Cyfalaf y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Clustnodi £3.533 miliwn yng nghyllideb 2017-2018 i dalu am gost benthyca darbodus i gyllido'r Rhaglen Moderneiddio Addysg - i'w ddefnyddio yn 2018-2019;
Cronfa wrth Gefn y Fargen Ddinesig - trosglwyddo £2m i alluogi gwariant posibl yn y dyfodol mewn perthynas â phrosiectau'r Fargen Ddinesig.
Cyfeiriwyd at waith y Cyngor o ran sefydlu cwmnïau 'hyd braich' mewn perthynas â darparu tai a Llesiant ynghyd â newid statws CWM Environmental o 'hyd braich' i gwmni TEKKEL. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'r cwmnïau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Datganiadau Cyfrifon yn y dyfodol. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'r cwmnïau 'hyd braich' yn cael eu hadlewyrchu yn y nodiadau sydd ynghlwm wrth y Datganiad Cyfrifon ac y byddent yn cynnwys manylion am unrhyw fenthyciadau a ddarperir. O ran CWM, byddai angen llunio Datganiad Cyfrifon ffurfiol i'w gyflwyno i'w Fwrdd Rhanddeiliaid.
Nodwyd bod aelodau'r Pwyllgor wedi bod yn bresennol mewn sesiwn briffio yr wythnos honno ynghylch y Datganiad Cyfrifon, lle'r oeddynt wedi cael cyfle i gael gwedd gliriach ar yr holl agweddau ar y Datganiad Cyfrifon.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
13.1 |
dderbyn Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Caerfyrddin 2017/18; |
13.2 |
cymeradwyo'n ôl-weithredol y symudiadau o'r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac iddynt, yn enwedig trosglwyddiadau i - Y Gronfa Ymddeol Gorfforaethol - Y Gronfa Datblygiadau Mawr - Cyllid cyfalaf Rhaglen Moderneiddio Addysg |
13.3 |
cymeradwyo'r cynllun i sefydlu Cronfa Wrth Gefn y Fargen Ddinesig yn ôl-weithredol |
Dogfennau ategol: