Agenda item

CEFNOGI CYNNYDD I DDYSGU, ROLAU ARWEINYDDIAETH A PHRIFATHRAWIAETH.

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr B.W. Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r meysydd gweithgarwch presennol yn Sir Gaerfyrddin ac yn genedlaethol, a hynny er mwyn cefnogi'r canlynol:-

 

            - mynediad i yrfa addysgu ac anogaeth ohoni; a

            - chymorth ar gyfer cefnogi cynnydd o ran arweinyddiaeth i rolau uwch a phrifathrawiaeth.

 

Rhoddodd yr adroddiad fanylion am yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael i'n gweithlu er mwyn cefnogi gwell arferion arwain, hunan-ddatblygiad a chyflawniad.

 

Mae ERW wedi mynd ati i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod ar y strategaeth #DarganfodAddysgu sy'n anelu at annog rhagor o bobl i ddal ar y cyfle i gael gyrfa mewn addysgu sy'n rhoi llawer o bleser.

 

Mae ERW a'r Awdurdod hefyd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ystod eang o gyfleoedd ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ar gael yn rheolaidd i gefnogi gweithlu ein hysgolion. Mae'r cyfleoedd hyn yn bwrpasol yn cael eu darparu ar amrywiaeth o lefelau arweinyddiaeth, gan geisio nid yn unig i gryfhau a gwella sgiliau ein gweithlu, ond hefyd i ategu'r neges allweddol o ran yr effaith y gall arweinyddiaeth ddosbarthol gael yn ein hysgolion.

 

Dros gyfnod, mae Sir Gaerfyrddin wedi chwarae rhan annatod wrth ddatblygu cynnwys y rhaglen Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawon, gan sicrhau ein bod yn darparu cymorth a chyfleoedd i ymgeiswyr er mwyn iddynt gael y cymhwyster gorfodol ar gyfer prifathrawiaeth yng Nghymru. Ymhlith carfan 2017/2018, gwelwyd nifer fawr o ymgeiswyr o Sir Gaerfyrddin yn astudio'r cymhwyster, sef 16. Cyrhaeddodd pob un o'r 16 y safon ac mae'r nifer fawr hon o ymgeiswyr, na welwyd mo'i thebyg o'r blaen (o gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yn rhanbarth ERW), yn dystiolaeth o'r effaith gadarnhaol y mae'r nifer o gyfleoedd datblygu proffesiynol wedi'i chael ar ein Darpar Arweinwyr. Bellach bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hyn ar gael i gefnogi ein hagenda arweinyddiaeth yn unol ag anghenion ein hysgolion.

 

Mae ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi cael gwahoddiad i rannu arferion gorau drwy'r rhaglen ymarferydd arweiniol sy'n darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr. Mae ysgolion yn cael eu hariannu i gefnogi eraill yn unol â'r ddewislen gymorth y cytunwyd arni yn y broses gategoreiddio. Mae ymarferwyr yn arwain ar brosesau hunanwerthuso effeithiol neu ddatblygu strategol mewn ffederasiwn. Mae'r cyfleoedd hyn yn galluogi ysgolion i rannu arferion gorau ac yn darparu cyfleoedd arwain pwrpasol ar gyfer darpar arweinwyr.

 

Mae Ymgynghorwyr Her wedi canolbwyntio'n fanwl ar y broblem o ran llwyth gwaith athrawon yn ystod eu hymweliadau craidd, ac felly'n cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o fynd i'r afael â phroblemau llwyth gwaith mewn perthynas â phrosesau marcio ac adborth. Mae cyngor a chanllawiau wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau llwyth gwaith athrawon ac mae'n llywio newid diwylliannol yn y proffesiwn mewn modd adeiladol, a hynny mewn perthynas â disgwyliadau o ran marcio ac adborth.

 

Er mwyn cefnogi arweinyddiaeth effeithiol yn ein hysgolion mae ystod o adnoddau enghreifftiol gan gynnwys polisïau, enghreifftiau o strategaethau hunanwerthuso a monitro wedi cael eu creu, gan roi ystyriaeth i'r heriau penodol sy'n wynebu ein hysgolion llai. Nod y cyfeirlyfr hwn a'r gronfa o adnoddau yw darparu deunyddiau cyfeirio gwerthfawr i arweinwyr, rhannu arferion gorau a lleihau pwysau gwaith. Gan fod ERW yn gwybod bod angen rhannu anghenion arferion gorau mewn modd agored, rheolaidd ac ymarferol, mae wedi datblygu model sy'n nodi arferion o'r fath a hynny drwy sicrhau bod ysgolion yn cydweithio ag Ymgynghorwyr Her yn ystod yr ymweliadau cymorth craidd. Mae'r meysydd o arferion gorau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhannu ar wefan ERW, sef Dolen, ac felly mae'n darparu cyfeirlyfr i ysgolion. O ganlyniad mae cymorth ysgol-i-ysgol yn cael ei sicrhau, gan ddibynnu ar arweinwyr ar bob lefel i rannu strategaethau a rhoi cymorth i ysgolion sy'n cymryd rhan. Mae'r dull hwn yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i staff ddatblygu eu sgiliau arwain gan feithrin rhwydweithiau a chydweithio effeithiol yn ein holl ysgolion yn ERW.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Pwyllgor wedi gwneud cais am adroddiad ar recriwtio a chadw athrawon a phenaethiaid oherwydd nifer y swyddi gwag yn y sir, ond nid oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw ystadegau'n ymwneud â nifer y swyddi gwag sydd wedi cael eu llenwi a faint sy'n parhau i fod yn wag ac ati. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg i ddosbarthu'r wybodaeth hon i'r Pwyllgor;

·       Gofynnwyd a oes unrhyw drefniadau'n bodoli mewn ysgolion lle y mae aelodau iau o staff yn cysgodi penaethiaid ac a ydy hyn yn cael ei wneud ar draws clystyrau. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod rhai elfennau'n cael eu gweithredu, ond gellid helaethu hyn.

 

 

PENDERFYNWYD

 

8.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

8.2       bod y Pwyllgor yn cael adroddiad am y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.  

 

Dogfennau ategol: