Agenda item

YMAGWEDDAU TUAG AT SICRHAU 'YMDDYGIAD CADARNHAOL' YN YSGOLION SIR GAR.

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr B.W. Jones, G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar yr arferion a'r cyfarwyddyd presennol o ran cefnogi ymddygiad cadarnhaol a gwrth-fwlio yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.

 

Mae gan Sir Gaerfyrddin hanes helaeth a chadarn o weithio'n effeithiol yn y maes hwn, gan gyfeirio at elfennau niferus o waith ymchwil ac arferion da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

 

Rhoddodd yr adroddiad fanylion ynghylch yr ystod o strategaethau sydd ar gael i'n hysgolion i gyrraedd safonau uchel o ran ymddygiad cadarnhaol ynghyd â'n disgwyliad amlwg o ran cadw pawb yn ddiogel rhag unrhyw lefel o fwlio.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd sut y mae cynnydd yn cael ei fonitro a sut y mae mesur a yw bwlio'n cael ei leihau, ac eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y broses fonitro'n cynnwys ystod o weithgareddau megis Ymgynghorwyr Her yn ymweld ag ysgolion a holiaduron yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn flynyddol i adolygu cynnydd ac effaith strategaethau o'r fath;

·       Gofynnwyd a oedd yr holiaduron yn cael eu targedu at ddisgyblion neu athrawon, a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod un holiadur ar gyfer arweinwyr ysgolion i'w gwblhau, a fersiwn electronig yw'r llall y mae ysgolion yn ei ddosbarthu i'w dysgwyr. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y bydd gan ysgolion eu ffyrdd eu hunain o gofnodi boddhad disgyblion a mesurau llesiant. Mae'r adran yn casglu'r data hwnnw a gallai canlyniadau unrhyw arolygon gael eu dosbarthu i'r pwyllgor er gwybodaeth;

·       Gofynnwyd a allai'r holiaduron gynnwys sylwadau ynghylch yr effaith y gallai ymddygiad gwael ei chael ar athrawon, ac eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg y byddai ymweliadau craidd Ymgynghorwyr Her yn mynd i'r afael â hyn, ac os byddai unrhyw bryder yn codi byddent yn darparu'r cymorth sydd ei angen;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith yr ymddengys bod nifer o gynlluniau gwahanol mewn ysgolion a phwysleisiwyd bod angen cysondeb ar draws y sir gan fod bwlio yn gallu diffinio gweddill bywyd rhywun. Gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl gweithredu polisi gwrth-fwlio ledled y sir a fyddai'n cynnwys y ddeddfwriaeth wrth-fwlio ddiweddaraf. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod yn gallu darparu fframwaith a dogfen dempled. Ychwanegodd mai'r modelau effeithiol iawn mewn ysgolion yw'r rheiny sydd wedi cael eu paratoi gan yr ysgolion eu hunain. Eglurodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod pethau'n newid o gofio am e-ddiogelwch a pheryglon y cyfryngau cymdeithasol. Mae llesiant yn prysur dyfu fel thema yn ein hysgolion ac mae Rheolwr Ymddygiad a Llesiant wedi cael ei secondio i weithio ar strategaethau i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol;

·       Yn y cyd-destun hwn cyfeiriwyd at lwyddiant y cynllun Siaradwr a chytunodd swyddogion i roi data i'r Pwyllgor ynghylch y nifer sy'n defnyddio'r cynllun;

·       Mynegwyd pryder nad yw plant sy'n cael eu bwlio yn gallu cael cludiant i fynychu ysgol arall. Pwysleisiodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant pa mor bwysig yw sicrhau bod y diwylliant/amgylchedd yn yr ysgol yn iawn er mwyn i ddisgyblion beidio â theimlo'r angen i symud ysgolion.

 

PENDERFYNWYD

 

7.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

7.2       bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol a fydd yn cynnwys data sy'n mesur effeithiolrwydd cynlluniau ymddygiad cadarnhaol.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: