Agenda item

DIWEDDARIAD AR Y GWASANAETH CERDD: GORFFENNAF 2018.

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Jones a G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn ystod ei gyfarfod ar 14 Mawrth, 2018, wrth ystyried Adroddiad Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2009/2010, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y problemau sy'n wynebu Gwasanaeth Cerdd y sir.

 

O ddydd i ddydd, mae Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn darparu'r canlynol:-                                           

o   gwasanaeth cerdd peripatetig i 79 o ysgolion yn y sir;

o   hyfforddiant i dros 5,000 o ddisgyblion ar draws amrywiaeth o wersi offerynnol a lleisiol, sy'n cael eu darparu gan 32 o staff (24 Cyfwerth ag Amser Llawn);

o   cymorth statudol ar gyfer y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 mewn 7 o ysgolion;

o   cyfleoedd perfformio ar draws yr holl gyfnodau allweddol ac mae:

o   11 ensemble iau yn ymarfer bob tymor, ac uchafbwynt hynny yw'r Proms Iau blynyddol ar ddiwedd tymor yr haf;

o   3 ensemble lefel ganolradd yn ymarfer yn wythnosol, gan arwain at yr ?yl Ganolradd flynyddol;

o   5 ensemble h?n yn ymarfer bob tymor, gan arwain at yr ?yl Gerddoriaeth H?n flynyddol.

Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn uchel ei barch ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn y sir ac yn genedlaethol ac oherwydd nifer o berfformiadau llwyddiannus a chyflawniadau, mae ei broffil wedi codi yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.

 

Mae'r gwasanaeth wedi bod o dan bwysau ariannol dwys dros y blynyddoedd diwethaf a chafwyd diffyg cyllid o £169,127 ar gyfer 2017/18. Gallai hyn yn bennaf fod oherwydd gostyngiad mewn ysgolion yn adbrynu hyfforddiant oherwydd gwasgfeydd ariannol ac ati. Yn ogystal mae nifer o heriau cenedlaethol sylweddol, sy'n cynnwys gostyngiadau o ran prynu Cytundebau Lefel Gwasanaeth o ganlyniad uniongyrchol i gynnydd o ran cyfraddau a newidiadau i gontractau. Bu sôn am gyllid cenedlaethol ond, yn y cyfamser, roedd hi'n hanfodol meddwl am ffyrdd o sicrhau bod y gwasanaeth yn cadw deupen llinyn ynghyd.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Gofynnwyd i swyddogion pryd y gallem ddisgwyl datganiad cadarn mewn perthynas â chyllid a datblygiadau cenedlaethol. Eglurodd Cydlynydd y Gwasanaeth Cerdd fod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd ynghylch cyllid ar gyfer y dyfodol ac mae £2 filiwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i edrych ar y modd y gellir datblygu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru;

·       Gofynnwyd a oedd darparu gwasanaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn rhatach na darparu staff cyflenwi, ac eglurodd Cydlynydd y Gwasanaeth Cerdd ei fod yn gallu bod yn rhatach, ond mae'n fwy i wneud â'r ffaith nad yw staff cyflenwi o bosibl yn darparu'r hyn y mae'r ysgol ei angen, ond bod Gwasanaeth Cerdd yn diwallu anghenion yr ysgol.

·       Gofynnwyd pa mor bendant ydynt nad yw'r newidiadau arfaethedig yn mynd i gael effaith ar blant ac ar safonau, a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gwasanaeth wedi newid y llynedd o ddarparu'n wythnosol i ddarparu bob hanner tymor, a oedd wedi cael effaith sylweddol ar safonau, felly mae'r strwythur gwreiddiol wedi cael ei roi yn ôl ar waith ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae swyddogion yn ceisio torri costau cymaint â phosibl heb leihau'r gwasanaeth.

·       Gofynnwyd faint o ysgolion oedd heb gofrestru ar gyfer Cytundeb Lefel Gwasanaeth a pham nad oeddent wedi cofrestru. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor ei bod ar brydiau yn anodd perswadio ysgolion ynghylch agweddau cadarnhaol cerddoriaeth, er enghraifft sgiliau echddygol, a gwneud i bobl ymlacio. Os nad yw rhai ysgolion yn defnyddio'r gwasanaeth am gyfnod, mae swyddogion yn gofyn i'r ysgol beth yr hoffai i'r gwasanaeth ei gynnig. Mae mwy o ysgolion yn cofrestru i’r CLG yn brydlon oherwydd trefniadau gweinyddol newydd, ond nid yw’r union ffigurau wedi’u cwblhau eto. Fodd bynnag, roedd problem gyda'r ysgolion mwy gwledig oherwydd gallai gymryd 2 awr i deithio yno ac yn ôl am hanner awr o adbrynu hyfforddiant;

·       Pwysleisiwyd pa mor bwysig oedd hi fod y gwasanaeth cerddoriaeth ar gael i'r holl blant yn y sir. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor fod yr adran wedi talu gorwariant y llynedd, ond roedd hi'n hanfodol ystyried dyrannu cyllid craidd er mwyn diogelu'r gwasanaeth.

PENDERFYNWYD

 

6.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

6.2       bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru cyn gynted ag y bo             gwybodaeth yn dod i law ynghylch datblygiadau cenedlaethol.

 

Dogfennau ategol: