Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2017/18.

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr D. Jones a B.A.L. Roberts a Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2017/18. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol.  Roedd yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd.

 

Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2017/18, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2018/19.  Roedd yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad.  Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig. Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr, a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu.  Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Nododd y swyddogion ei fod yn adroddiad cadarnhaol iawn ar y cyfan, ond ni fyddai'r swyddogion yn gallu ysgogi arbedion effeithlonrwydd cyn bo hir, ac roedd edrych ar sut y mae'r galw'n cael ei ariannu yn hanfodol. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder gan fod 462 o adolygiadau heb eu cwblhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn yr Is-adran Oedolion H?n, a nodwyd bod y staff o dan bwysau enfawr a bod angen mwy o staff.  Cytunai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y nifer yn rhy uchel, ond dywedodd mai dyna'r gorau y mae'r adran wedi'i wneud erioed.  Mae'r gwasanaeth wedi gwneud ymdrech aruthrol o ran hyn, a chwblhawyd y rhan fwyaf o'r adolygiadau hynny ond ychydig yn hwyrach na'r terfyn amser.  Esboniodd fod y gwasanaeth yn wynebu her wrth ddangos ei fod yn cynnal adolygiadau mewn modd effeithlon ac effeithiol ac os nad yw'n gallu parhau â'r gwaith hwnnw, byddai rhaid i ni naill ai dderbyn perfformiad nad yw'n cyrraedd y safon ofynnol, neu ychwanegu adnoddau.

·       Cyfeiriwyd at gyllidebau cyfun a phartneriaethau rhanbarthol, a gofynnwyd i'r swyddogion roi rhagor o wybodaeth am yr heriau.  Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddefnyddio cyllidebau cyfun mewn nifer o feysydd. Bydd y gyllideb gofal cymdeithasol yn cael ei chyfuno rhwng tri Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd.  Mae'n bosibl y byddai swm o oddeutu £35-40m yn cael ei roi yn y gronfa gyfun.  Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r Awdurdod bob mis ar ffurf ôl-daliad, felly er mwyn cyfuno'r arian ymlaen llaw byddai rhaid i'r Awdurdod ei fenthyg a'i ad-dalu.  Hefyd, roedd mater o draws-gymorthdaliadau. Os ydym yn cyfuno arian ac yn defnyddio llai na'r hyn rydym yn ei gyfrannu, a bod yr arian hwnnw ei ddefnyddio ar gyfer trigolion Awdurdod arall, byddai hynny'n anghyfreithlon.  Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio ar gyllideb gyfun rithwir.  Esboniodd ymhellach fod y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol yn fforwm adeiladol ac er bod cyd-weithio yn y modd hwnnw'n tueddu i fod yn araf wrth geisio cyrraedd consensws, mae'n gweithio.

·       Cyfeiriwyd at un o'r Blaenoriaethau Strategol ar gyfer 2018/19 a restrir yn yr adroddiad - trefniadau mynediad i ofal preswyl yn ardal Llanelli i sicrhau darpariaeth llety briodol yn yr ardal, a gofynnwyd i'r swyddogion am ragor o wybodaeth.  Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod hyn yn cyfeirio at swm o arian a ddyrannwyd ychydig flynyddoedd yn ôl ar gyfer darparu gofal.  Mae'r swyddogion yn edrych ar yr hyn a ddarperir yn Llesiant Delta a'r hyn y mae angen i ni ei ddarparu'n fewnol.

·       Yngl?n â’r cyfeiriad ar dudalen 3 at y ffaith bod llai o bobl yn cydymffurfio â therfynau amser ar gyfer cynadleddau achos amddiffyn plant, nodwyd nad oedd rhesymau na ffigurau wedi'u cynnwys i atgyfnerthu'r datganiad hwn.  Hefyd ar dudalen 12, o ran y gostyngiad yn nifer y plant a oedd ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod 2016/17, credwyd y byddai cynnwys ffigurau o'r flwyddyn flaenorol yn ddefnyddiol.  Derbyniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod angen i'r wybodaeth gael ei chroesgyfeirio ac atgoffodd yr aelodau mai fersiwn ddrafft yw'r adroddiad. Cytunai ei bod yn bwysig cael gwybod y ffigurau er mwyn nodi tueddiadau, ond ni fydd rhai o'r data'n cael ei gadarnhau tan fis Mai/Mehefin, ac mae'r gwaith o'i drosglwyddo wedi bod yn araf.  Ychwanegodd y byddai'n cynnwys esboniad mwy manwl am y pynciau hyn.

·       Gofynnwyd i'r swyddogion am y rheswm pam mae nifer y cleientiaid sy'n derbyn gofal cartref wedi gostwng 10% ym mis Ionawr/Chwefror.  Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nad oes rheswm penodol dros hyn, a'i fod yn fater cymhleth o symud pobl i wasanaethau eraill. Mae gennym nifer gynyddol o bobl h?n sy'n derbyn taliadau uniongyrchol sy'n caniatáu iddynt brynu eu gofal eu hunain.  Mae hynny'n ddewis deniadol i nifer o bobl, ond mae'r galw amdano yn cynyddu ac yn gostwng.  O edrych ar y cyfartaledd cyffredinol, nid oes newid yn y tueddiadau.  Ychwanegodd y bydd y swyddogion yn monitro ac yn dehongli'r pecynnau hyn yn y dyfodol.

·       Pan ofynnwyd am y cyfleoedd sydd ar gael i blant sy'n derbyn gofal pan fyddant yn gadael gofal, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod mwy nag erioed o blant sy'n derbyn gofal yn mynd i'r brifysgol, ac maent yn perfformio'n well na'r rheiny sy'n cael prydau ysgol am ddim.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod plant yn cyflawni canlyniadau da os ydynt yn aros gyda ni am gyfnod.  Mae cymorth ac ymrwymiad hirdymor yn hollbwysig.  

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod 71.4% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth wedi cyflawni'r dangosydd pynciau craidd ar Gyfnod Allweddol 2, ond dim ond 12.5% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd wedi cyflawni'r dangosydd pynciau craidd ar Gyfnod Allweddol 4, a mynegwyd pryder ynghylch y gostyngiad enfawr hwn.

·       Nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael data mewn perthynas â'r rheiny sydd wedi gadael gofal ac sydd dros 20 oed h.y. faint ohonynt sy'n gweithio, faint ohonynt sydd wedi dychwelyd atom i ddefnyddio ein gwasanaethau iechyd meddwl ac ati.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod data'n cael ei gasglu o ran yr hyn y mae ein dysgwyr yn ei wneud ymhen 5 mlynedd/10 mlynedd ac ati. Roedd yn fwy heriol cael y wybodaeth hon ar gyfer y rheiny sydd wedi gadael gofal, ond byddai'r swyddogion yn edrych ar sut y gellir casglu'r data hwn.

·       Cyfeiriwyd at y prosiect lle yr oedd unigolion sydd â materion iechyd meddwl yn rhedeg Hanner Marathon Abertawe, a gofynnwyd i'r swyddogion os gellid cynnwys mwy o enghreifftiau o brosiectau o'r math.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor fod nifer o fentrau llesiant a allai gael eu cynnwys.

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod plant yn treulio gormod o amser yn defnyddio dyfeisiau electronig sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl yn ogystal â'u hiechyd corfforol.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod awyr iach yn bwysig i blant a chyfeiriodd at y ffaith bod gan ysgolion Strategaeth Llesiant sy'n cynnwys canolbwynt ar fwy o ddefnydd o'r awyr agored.

·       Cyfeiriwyd at y cludiant i ysgolion a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai'n bosibl ymchwilio i'r gwaith o integreiddio plant yn eu cymunedau fel na fyddai angen iddynt fynd i'r ysgol mewn tacsis.  Byddai hyn yn fuddiol i'r plant, ond byddai'n fuddiol yn economaidd hefyd.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y swyddogion eisoes yn gwneud peth gwaith yn y maes hwn ac y gallai ddod ag adroddiad i'r aelodau ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu annibyniaeth ein dysgwyr yn Ysgol Goffa ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y swyddogion yn gweithio gyda'r tîm TIC ar hyn o bryd i ystyried ffyrdd o ddarparu dull integredig gwell o gludo ein dysgwyr.  

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, 2017/18

Dogfennau ategol: