Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer diwedd blwyddyn 2017/18 ar gyfer y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden. Nodwyd y ceir gorwariant o £311k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £7,228 yn y gyllideb gyfalaf, ac y rhagwelid tanwariant o £22k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        Mewn ymateb i gwestiwn mewn perthynas â'r diffyg ariannol o £264k a ragwelir o ran Rheoli Datblygu, cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod y lefelau incwm a ragwelir yn cael eu harwain gan y farchnad ac y gellid cysylltu'r diffyg ar gyfer 2017/18 â nifer o gynlluniau mawr arfaethedig oedd heb gael eu cyflwyno.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant o £249k ar safleoedd yn y Cyfrif Refeniw Tai, dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod hyn yn gysylltiedig yn bennaf â gwariant a geir wrth wneud gwaith cynnal a chadw mewn rhai o ystadau tai'r Cyngor e.e. atgyweiriadau i ffensys, gan nad oedd darpariaeth ar gyfer hyn yn y gyllideb. Fodd bynnag, roedd yna ddarpariaeth yn y gyllideb ar gyfer 2018/19.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyled yn y Cyfrif Refeniw Tai, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi gwneud darpariaeth yn ei gyfrifon bob blwyddyn er mwyn mynd i'r afael â drwgddyled. Ar gyfer 2017/18, y ddarpariaeth oedd £472k, fodd bynnag, swm y drwgddyled oedd £218k, gan arwain at danwariant o £254k yn y gyllideb.

·        Cyfeiriwyd at y tanwariant o £475k yn y gyllideb i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto ac i fodloni Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wrth y Pwyllgor fod y cynllun yn cynnwys gwneud gwelliannau i oddeutu 70 eiddo, a bod angen gwario cyfartaledd o £30-£40k ar bob un ohonynt er mwyn cydymffurfio â'r safonau. Er bod cyllideb wedi'i chlustnodi ar gyfer cwblhau'r gwaith yn 2017/18, nid oedd modd cwblhau'r holl waith a gynlluniwyd a byddai'r tanwariant yn cael ei gario drosodd i 2018/19.

·        Mewn ymateb i gwestiwn, rhoddodd y Pennaeth Hamdden y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym Mharc Gwledig Pen-bre, a oedd yn cynnwys y canlynol:

-        Darparu pwyntiau trydan ychwanegol yn y maes carafannau

-        Cyflwyno system archebu ar-lein ar gyfer y maes carafannau

-        Gosod Wi-fi yn y dyfodol agos

-        Adnewyddu'r bwyty presennol dros y gaeaf yn barod ar gyfer tymor 2019

-        Roedd y gylchffordd feicio gaeedig bron wedi'i chwblhau.

-        Roedd y siop yn y ganolfan sgïo wedi cau erbyn hyn a byddai'n cael ei haddasu at ddefnydd amlddisgyblaethol.

-        Byddai Taith Prydain 2018 yn dechrau yn y parc ar 2 Medi

·        Cyfeiriodd y Pwyllgor at Daith Prydain a llongyfarch yr holl staff a gymerodd ran yn y trefniadau o ddod â'r digwyddiad mawreddog hwn i Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: