Agenda item

HYSBYSIAD DIGWYDDIAD DROS DRO - DERWYDD MANSION, DERWYDD ROAD, RHYDAMAN, SIR GAR, SA18 3LQ

Cofnodion:

Gohiriwyd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 9:30am ac ailddechreuwyd y cyfarfod ar y safle am 10.10am, er mwyn gweld y safle lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol, gan gynnwys lleoliad y babell fawr ac eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.50am i ystyried y ceisiadau.

 

Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod a rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor fod Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno hysbysiad gwrthwynebu mewn perthynas â 4 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a oedd wedi'u cyflwyno gan Mrs Maria Dallavalle, La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman, SA18 2DA.

 

Roedd yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn berthnasol i werthu alcohol trwy fanwerthu, darparu adloniant rheoledig a lluniaeth gyda'r hwyr ar y safle ar y diwrnodau a'r amserau canlynol:-

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 –
Dydd Sadwrn 28 Gorffennaf 2018  - Y Neuadd Fawr, Plasty Derwydd.

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 
Dydd Sadwrn 25 Awst 2018  - Y Lawnt Uchaf, Plasty Derwydd.

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 
Dydd Sadwrn 1 Medi 2018  - Y Lawnt Uchaf, Plasty Derwydd.

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 4 
Dydd Sadwrn 3 Tachwedd 2018  - Y Neuadd Fawr, Plasty Derwydd.

·         Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.


Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod Adain Iechyd y Cyhoedd wedi gwrthwynebu pob un o'r 4 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar sail niwsans s?n a oedd wedi deillio o ddigwyddiadau blaenorol a oedd wedi'u cynnal ar y safle.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a ddaeth i law cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

Hefyd, cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan yr Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd:-

 

Nododd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ei fod wedi gwrthwynebu'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro oherwydd hanes blaenorol ynghylch niwsans s?n yn ystod digwyddiadau ym Mhlasty Derwydd, yn y drefn ganlynol:-

 

  • Yn 2016, derbyniwyd y g?yn gyntaf ynghylch s?n gan gymydog mewn perthynas â sioe hen geir a oedd yn cynnwys s?n cerddoriaeth uchel, traffig a phobl. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor, gan ei fod yn ddigwyddiad unwaith yn unig, nad oedd llawer o ddewisiadau o ran gweithredu.  Fodd bynnag, anfonwyd llythyr at y person a gyflwynodd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn amlinellu natur y g?yn a dderbyniwyd.

 

  • Yn 2017, cyflwynwyd dau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar gyfer priodasau ym Mhlasty Derwydd ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau iddynt. 
    Ar ôl y digwyddiad a gynhaliwyd yn y brif neuadd yn y plasty, derbyniwyd cwyn ynghylch s?n.  O ganlyniad i'r g?yn, cafodd y lefelau s?n eu monitro mewn perthynas â'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro nesaf a gynhaliwyd yn y babell fawr y tu cefn i'r eiddo.  Cafodd y s?n ei recordio o'r tu mewn i'r ystafell wely yn yr eiddo agosaf, sy'n perthyn i'r achwynydd. Adroddwyd bod y lefelau s?n yn sylweddol.

    O ganlyniad i'r dystiolaeth a grybwyllwyd uchod, anfonwyd llythyr at y sawl a gyflwynodd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a pherchennog y safle yn rhybuddio y gellid gwrthwynebu unrhyw Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn y dyfodol. Mae'r llythyr wedi'i atodi i'r adroddiad yn Atodiad A3.

 

  • Ym mis Mai 2018, cynhaliwyd priodas yn y babell fawr y gwrthwynebwyd iddi ar y dechrau. Fodd bynnag, cytunwyd ar fesurau i leihau effaith y s?n ac wedi hynny tynnwyd y gwrthwynebiad yn ôl.  Dyma'r mesurau a gytunwyd:

­   Trefnu staff diogelwch er mwyn sicrhau bod y gwesteion yn cadw draw o'r ffin ag eiddo cyfagos.

­   Lleihau sain yr adloniant ar ôl 11:00pm, er mwyn sicrhau mai prin y gellir clywed y gerddoriaeth yn yr eiddo cyfagos.

­   Cyflogi Ymgynghorydd Acwstig yn y digwyddiad a fyddai'n cynnwys monitro'r lefelau s?n y tu allan i eiddo cymdogion.

 

Ar yr adeg hon, cafodd yr Is-bwyllgor gyfle i wrando ar recordiadau sain a wnaed gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wrth iddynt fonitro'r lefelau s?n.  Roedd y recordiadau sain yn cadarnhau bod y gerddoriaeth i'w chlywed yn glir a'i bod yn ddigon uchel fel bod modd adnabod caneuon unigol. Yn ogystal, roedd y sain yn datgelu pobl yn sgrechian ac yn gweiddi, a s?n injans a cherbydau yn teithio dros gerrig mân.

 

Dywedodd Pen-ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd y gofynnwyd iddo wneud y gwaith monitro mewn perthynas â'r digwyddiad a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2018. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor ei fod wedi cyrraedd oddeutu 10.40pm a'i bod yn noson glir a chynnes ac mai ychydig o s?n arall oedd i'w glywed yn yr ardal. Roedd y gwaith monitro sain wedi'i wneud wrth y fynedfa i gae a oedd wedi elwa rywfaint ar sgrinio s?n oherwydd y wal uchel a'r plasty ei hun. Serch hynny, roedd y s?n i'w glywed yn glir o hyd yn y lle monitro, ac ystyriwyd bod lefel y s?n yn annerbyniol. Gwnaed y gwaith monitro o 10.55pm ymlaen yn fras. Nododd y Swyddog, fel y cadarnhawyd gan y sain a chwaraewyd i'r Is-bwyllgor, fod modd adnabod y gerddoriaeth yn hawdd ac y gellid clywed y DJ yn glir. Hefyd, dywedodd nad oedd wedi sylwi ar unrhyw leihad yn y lefelau s?n tan ar ôl 12:00am. Nodwyd hefyd mai dim ond 6 neu 7 o geir oedd wedi pasio dros gyfnod hir. Ar ôl canol nos, roedd lefel uwch o s?n pobl ac roedd pwyslais y gerddoriaeth wedi newid o gerddoriaeth ddawns i ganeuon arafach.

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ynghylch eu sylwadau a'r dystiolaeth a gyflwynwyd.

  • Mewn ymateb i ymholiad gan Reolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol, nododd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd fod ystyriaeth wedi'i rhoi i ddefnyddio Adran 80 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd. Fodd bynnag, nid oedd y gwaith monitro wedi'i wneud o'r tu mewn i eiddo'r achwynydd, felly penderfynwyd na fyddai'n briodol cyflwyno hysbysiad Gostegu dan Adran 80.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd o ran y g?yn hon mai'r prif bryder oedd s?n cerddoriaeth. Fodd bynnag, roedd s?n pobl hefyd yn peri pryder, yn ogystal â'r ffaith bod s?n pobl yn debygol o ddeillio o safle sy'n gwerthu alcohol.

 

  • Ceisiwyd eglurder ynghylch y diffiniad o ‘prin y gellir clywed y gerddoriaeth’, fel y nodwyd yn y mesurau.  Nododd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd fod y disgrifiad ‘prin y gellir clywed y gerddoriaeth’ yn oddrychol a chytunodd i drafod ymhellach gyda'r ymgeisydd a'r ymgynghorydd s?n i gytuno ar fesuriad mwy gwrthrychol.

 

Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth gan gymdogion yr eiddo a oedd yn cefnogi gwrthwynebiadau'r Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd am y rhesymau canlynol:-

 

  • Roedd y tystion wedi symud i'r bwthyn cyfagos i gael heddwch a thawelwch;

 

  • Roedd s?n cerddoriaeth uchel/pobl yn gweiddi yn dod o'r priodasau, a oedd yn ei gwneud yn anodd cysgu;

  • Roedd y digwyddiadau yn amharu ar eu bywydau ac yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd.

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r tystion ynghylch eu sylwadau.

Cyfeiriwyd at y recordiadau sain a chwaraewyd yn gynharach yn y cyfarfod.  Mewn ymateb i ymholiad, esboniodd y tystion fod y recordiadau yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau, fodd bynnag, cafwyd digwyddiadau blaenorol pan oedd y s?n yn waeth o lawer. Hefyd, pwysleisiodd y tystion fod problem o ran s?n pobl a cheir, yn ogystal â cherddoriaeth uchel.

 

Wedyn bu i Mrs Dellavalle ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd gan ddweud:-

 

·         ei bod wedi gwneud ymdrechion i wella trefniant pob digwyddiad, gan gynnwys cyfyngu ar s?n.

·         bod staff diogelwch wedi'u cyflogi i hebrwng cwsmeriaid sy'n gadael a chyfyngu ar s?n pobl.

·         ei bod wedi rhoi sylw i'r hyn a ofynnwyd gan y Cyngor. Fodd bynnag, oherwydd y terfyn amser, nid oedd yn gallu cyflogi ymgynghorydd acwstig cyn y digwyddiad ar 2 Mehefin 2018. Roedd y staff a oedd ar ddyletswydd wedi monitro'r lefelau s?n gan ddefnyddio ap.

·         bod preswylydd bwthyn cyfagos wedi nodi ei fodlonrwydd ar drefniant y briodas a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2018.  Yn ogystal, roedd y cymdogion wedi nodi mewn llythyr nad oeddent wedi clywed braidd dim s?n a'i fod wedi distewi ar ôl canol nos.

[Sylwer: Gyda chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o neges e-bost dyddiedig 11 Mehefin 2018 oddi wrth breswylydd bwthyn cyfagos arall i aelodau'r Is-bwyllgor].

 

·         Mae'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn dod i ben am 12:30am ac roedd yr holl adloniant yn dod i ben am 12:00am yn barod am hynny.

·         Roedd y babell fawr wedi'i symud ymhellach i ffwrdd o'r ffin sydd agosaf i'r cymdogion.

·         Roedd y digwyddiadau yn cael eu trefnu ar sail dros dro ac nid oeddent yn cael eu cynnal bob penwythnos.

·         Roedd yn croesawu'r cyfle i gydweithio â'i chymdogion a'r Awdurdod er mwyn cytuno ar drefniadau mewn modd cyfeillgar.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau gan Mr Ian Matthews, Ymgynghorydd Acwstig Mrs Dallavalle, a gwnaeth y sylwadau canlynol:- 

 

  • Cyflwynodd Mr Ian Matthews ei hun i'r Is-bwyllgor yn Ymgynghorydd Acwstig Red Twin Acoustics, a nododd ei fod yn Beiriannydd Siartredig ac yn Aelod o'r Sefydliad Acwsteg. 
  • Mae'r digwyddiadau mewn ardal dawel ac anghysbell.
  • Nifer eithaf bach o bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio gan s?n.
  • Nid oedd cymdogion eraill wedi rhoi gwybod am unrhyw broblemau.
  • Roedd yn bryderus bod y recordiadau sain wedi'u gwneud mewn dau le gwahanol.
  • Mae sain yn oddrychol ac roedd y gwrthwynebydd yn derbyn hynny.
  • Hyd yma, nid oedd wedi cael cyfle i weld data'r recordiadau a gofynnodd am gyfle i wneud hynny.
  • Roedd yn cytuno ei bod yn ymddangos bod y mesuriadau yn 2017 yn fwy aflonyddgar, fodd bynnag, hoffai gael cyfle i adolygu'r rhain.
  • Gofynnodd am gyfle i fonitro'r lefelau s?n mewn digwyddiad sydd i ddod, er mwyn adolygu sut mae'r digwyddiadau yn cael eu rheoli a sylwi ar sut mae pobl yn cael eu symud o gwmpas.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad, roedd yr is-bwyllgor hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â'r eitem ar yr agenda, a'r rheiny a oedd wedi'u cyfeirio at ei sylw gan y partïon eraill.

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid ymdrin â'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro fel a ganlyn:-

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 -

28 Gorffennaf 2018

Peidio â chyflwyno gwrth-hysbysiad

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 -

25 Gorffennaf 2018

Gohirio tan 31/07/18

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 -

1 Medi 2018

Gohirio tan 31/07/18

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 4 -

3 Tachwedd 2018

Gohirio tan 31/07/18

 


Y RHESYMAU:-

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  1. Cafwyd cwynion ynghylch niwsans s?n mewn perthynas â digwyddiadau blaenorol ar y safle;

  2. Mae'r problemau o ran s?n yn ymwneud nid yn unig ag adloniant rheoledig ond hefyd â s?n pobl a cherbydau;

 

  1. Mae Adain Iechyd yr Amgylchedd o'r farn y byddai caniatáu i'r digwyddiadau fynd yn eu blaen yn tanseilio'r amcan trwyddedu o ran atal niwsans cyhoeddus;

  2. Nid oes trwydded safle ar gael mewn perthynas â'r safle;

  3. Nid yw'r heddlu wedi cyhoeddi hysbysiad gwrthwynebu mewn perthynas ag unrhyw un o'r digwyddiadau hyn.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn Adain Iechyd yr Amgylchedd.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe bai'r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal, lle nad oes tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Barn yr Is-bwyllgor oedd bod tystiolaeth yr achwynwyr yn gredadwy ac yn gryf.

 

Dan adran 105(2)(b) o Ddeddf Trwyddedu 2003 (fel y'i diwygiwyd), rhaid i'r Is-bwyllgor gyflwyno gwrth-hysbysiad os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny i hyrwyddo amcan trwyddedu, sef atal niwsans cyhoeddus yn yr achos hwn.

 

Wrth benderfynu a oedd yn briodol cyflwyno gwrth-hysbysiad, roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i'r canlynol:

 

  1. Natur a maint unrhyw niwsans s?n a gafwyd yn ystod digwyddiadau yn y gorffennol, gan gynnwys yn benodol a ydynt wedi achosi niwsans i'r cyhoedd neu garfan o'r cyhoedd;

  2. Union leoliad y digwyddiadau arfaethedig y tu mewn i'r safle;

  3. Y dystiolaeth arbenigol sydd ar gael ynghylch effaith debygol y digwyddiadau arfaethedig ar y cyhoedd;

  4. Effaith cyflwyno gwrth-hysbysiad ac, yn benodol, a fyddai cam gweithredu o'r fath yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd;

  5. Y pwerau statudol eraill sydd ar gael i ymdrin â niwsans s?n.

 


Roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod y dystiolaeth a roddwyd ger ei fron yn annigonol ar hyn o bryd i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a fyddai'n briodol ac yn gymesur cyflwyno gwrth-hysbysiad.  Yn benodol, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo y byddai'n fuddiol iawn i Mr Matthews (yr ymgynghorydd acwstig a gyflogwyd gan Mrs Dallavalle) a'r Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd fonitro effaith digwyddiad ar y safle ac yna cydweithio'n agos i geisio rhoi sylw i gwynion y preswylwyr cyfagos.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth benodol i adran 13 o ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor a'r gofyniad i beidio â dyblygu trefniadau statudol eraill wrth wneud ei benderfyniad.

 

Am y rhesymau uchod, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo na fyddai'n briodol cyflwyno gwrth-hysbysiad mewn perthynas â'r digwyddiad ar 28 Gorffennaf 2018. Byddai hyn yn galluogi'r digwyddiad hwn i gael ei ddefnyddio i gasglu'r dystiolaeth ychwanegol y cyfeiriwyd ati uchod.

 

Felly, byddai'r Is-bwyllgor yn gohirio ystyried y digwyddiadau eraill hyd nes y byddai'r digwyddiad hwnnw wedi'i gynnal, er mwyn sicrhau bod yr arbenigwyr s?n mewn gwell sefyllfa i roi cyngor i'r Is-bwyllgor.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau