Agenda item

STRATEGAETH SIR GAERFYRDDIN AR GYFER Y CELFYDDYDAU

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ynghylch Strategaeth Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Celfyddydau 2018-2022, a oedd yn cynnig fframwaith ar gyfer datblygu gwasanaethau i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o fod yn lle ar gyfer profiadau celfyddydol eithriadol sy'n ysgogi ac yn ennyn diddordeb ein cymunedau ac yn dathlu ei ddiwylliant unigryw a dwyieithog. Er mwyn tanategu'r weledigaeth honno, roedd y strategaeth yn nodi'r pedwar amcan allweddol canlynol:-

 

-        Llesiant Diwylliannol;

-        Llesiant corfforol a meddyliol;

-        Llesiant economaidd drwy gefnogi sefydliadau creadigol a diwylliannol a;

-        Datblygu a chynnal gwasanaeth celfyddydau sy'n effeithlon ac yn effeithiol (drwy wella'r incwm a gynhyrchir, dulliau arloesol o weithio, cydweithio a chryfhau ymgysylltiad â'r cyhoedd).

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod y cyflwyniad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sefydlu canolfannau creadigol a chymdeithasol, a oedd yn gysylltiedig â defnyddio cyfleusterau'r Cyngor gan ganolbwyntio mwy ar y gymuned drwy sicrhau y gall cymunedau ddefnyddio'r cyfleusterau at ddibenion cymunedol, er enghraifft, cynyrchiadau theatr, dosbarthiadau dawnsio a lleoedd i bobl h?n ddod at ei gilydd a chymdeithasu.

·       Cyfeiriwyd at y cynigion arfaethedig ar gyfer ailddatblygu Oriel Myrddin, a fydd yn cynnwys 26-27 Heol y Brenin, Caerfyrddin. Er yr amcangyfrifir y bydd y cynllun yn costio oddeutu £2.5m, cadarnhaywd y gallai cyllid Cyngor y Celfyddydau ddarparu £1m i gynorthwyo â'r gost honno. Roedd y Cyngor eisoes wedi cyfrannu £250k er mwyn prynu 26-27 Heol y Brenin. Byddai angen cael arian cyfatebol ar gyfer yr £1.25m sydd ar ôl gan y Cyngor neu ffrydiau incwm/grantiau eraill.

·       Cyfeiriwyd at y gwaith o weithredu Canolfan Grefftau Sanclêr, lle roedd cynnydd mewn gwariant wedi bod o o £74,498 yn ystod blwyddyn ariannol 2014/15, i £110,747 yn 2017/18, tra bo nifer yr ymwelwyr wedi gostwng 5,000, o 41,765 i 36,240.

 

Dywedodd Pen-swyddog y Celfyddydau, wrth gyfeirio at sefyllfa ariannol 2017/18, y gallai'r cynnydd fod yn gysylltiedig â nifer o ffactorau. Honno oedd y flwyddyn gyntaf i'r ganolfan gael ei staffio'n llawn. Yn ail, defnyddiwyd gwariant cyfalaf er mwyn uwchraddio'r cyfleusterau cynadledda ac offer y caffi ar ôl i'r cyfrifoldeb dros weithredu'r caffi gael ei ysgwyddo'n fewnol. Yn y bôn, roedd wedi bod yn angenrheidiol i'r Awdurdod ysgwyddo costau'r ganolfan er mwyn hwyluso ei datblygiad. Ar gyfer 2018/19, roedd yr ymdrechion yn canolbwyntio ar reoli costau a chynyddu incwm.

 

O ran y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, roedd strategaethau wedi'u cyflwyno gyda'r nod o'i chynyddu. Er enghraifft, pwyslais ar glybiau mewn perthynas â'r celfyddydau, iechyd, bwyd a chyfeillgarwch a dosbarthiadau crochenwaith, ynghyd â ffrydiau incwm eraill.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwyno'r celfyddydau mewn ysgolion, cadarnhawyd bod Oriel Myrddin wedi penodi Swyddog Addysg y Celfyddydau, gyda'r nod o ymgysylltu'n rhagweithiol ag ysgolion dros y blynyddoedd nesaf. Roedd y gwasanaeth hefyd yn cyfathrebu'n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru o ran hynny.

·       Cyfeiriwyd at bedwar amcan allweddol y strategaeth, a gofynnwyd a oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i fabwysiadu pumed amcan sef 'nodi dyheadau, talentau a sgiliau drwy ein hysgolion i gynnal ein blaenoriaethau strategol diwylliannol ymhellach'.

 

Cadarnhawyd y gellid trafod hynny â'r Adran Addysg wrth i'r strategaeth gael ei rhoi ar waith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fabwysiadu'r Strategaeth.

Dogfennau ategol: