Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2017/18, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu'r canlynol:-

Ø  Trosolwg ar berfformiad 2017/18,

Ø  Adroddiadau dwy dudalen ynghylch cynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant,

Ø  Dolen gyswllt er mwyn olrhain cynnydd pob cam a tharged a bennir ar gyfer pob Amcan Llesiant,

Ø  Yn yr atodiadau, gwybodaeth arall am berfformiad a data alldro (mis Medi) a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (mis Mehefin) a fyddai'n cael eu diweddaru wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn lefelau gordewdra yn ystod plentyndod yn y Sir, ac at sut y gellid annog/hyrwyddo gweithgarwch corfforol pan oedd parciau a chyfleusterau hamdden eraill yn cael eu cau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden mai un o amcanion allweddol yr Is-adran Hamdden oedd hyrwyddo a datblygu gweithgareddau corfforol drwy weithio gyda chymunedau lleol a chlybiau chwaraeon, lle nodwyd bod lefelau cyfranogi'n tueddu i fod yn uwch os yw'r clwb ym mherchnogaeth y gymuned. Nodwyd bod yr adroddiad wedi nodi cynnydd o 10% yn nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, felly mae wedi cynyddu i 47%. Fodd bynnag, derbyniwyd bod angen gwneud rhagor o waith i gyflawni lefelau uwch o weithgaredd, nid yn unig ymhlith y plant ond ymhlith y boblogaeth gyfan.

·        Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at nodau'r Cyngor o hyrwyddo twf economaidd mewn trefi marchnad gwledig ac at sut yr oedd y gwaith hwnnw'n cael ei rwystro gan yr arfer o 'fancio tir'

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y tir sydd ar gael mewn ardaloedd o'r math ar gyfer creu cyfleoedd gwaith yn gyfyngedig, ond bod y Cyngor yn gallu rhoi cymhellion i hyrwyddo a hwyluso'u datblygiad drwy arian grant a chymhellion eraill.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Blaen-gynllunio fod gwaith wedi'i ddechrau'n ddiweddar o ran Cynllun Datblygu Lleol newydd i Sir Gaerfyrddin, a bod ceisiadau'n cael eu ceisio ar hyn o bryd ar gyfer safleoedd ymgeisio i'w cynnwys y cynllun hwnnw. Fel rhan o'r broses honno, byddai angen i berchnogion tir ddangos ymrwymiad i ddatblygiad safle er mwyn cyfiawnhau ei gynnwys, gan nad yw dangos dymuniad i ddatblygu'r safle yn ddigon erbyn hyn. 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch datblygiad yr Egin yn nhref Caerfyrddin, a'r lleoedd sydd ar gael i gwmnïau eraill yn yr Egin, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod trafodaethau'n parhau er mwyn sicrhau bod pob lle yn cael ei lenwi. Os bydd gormod o gwmnïau'n dangos diddordeb, gwneir ymdrech i ddod o hyd i adeilad priodol arall. Nodwyd mai'r Egin oedd un o 11 Prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd â'r nod o ddatblygu'r diwydiant creadigol ledled y rhanbarth.

·        Cyfeiriwyd at 'Raglen Esgyn' a gofynnwyd am eglurhad a yw'n helpu pobl i ddysgu Cymraeg er mwyn dychwelyd i'r gwaith ac os gellid rhoi gwybodaeth am nifer y bobl ar y rhaglen sydd wedi dysgu Cymraeg ac sy'n parhau i'w defnyddio.

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y byddai'r swyddogion yn edrych ar ddatblygiad Sgiliau Iaith Gymraeg ac y byddant yn rhoi'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynigion sydd wedi bodoli ers tro ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu penderfynu ar y llwybr a ffefrir hyd yn hyn.

·        Cyfeiriwyd at y defnydd o Gytundebau Adran 106 i hwyluso'r gwaith o ddarparu 43 o dai ar gyfer perchentyaeth cost isel. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y posibilrwydd o'r datblygwyr yn ymddiddymu, a'r potensial bod y tai hynny heb fodloni'r gofyniad o 80% o dan y Cytundeb, gan olygu na fydd y perchnogion yn gallu gwerthu eu heiddo.

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod yr Adran yn ymwybodol o'r posibilrwydd a'i bod yn cysylltu ag adain y gyfraith yn y Cyngor ynghylch y terminoleg a ddefnyddir yn y Cytundebau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18 yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau