Cofnodion:
Gan gyfeirio at gofnod 7.2 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2018, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu data am absenoldeb salwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18. Roedd y data yn dangos y bu gostyngiad cyffredinol ers 2016/17 o ran nifer y dyddiau gwaith a gollwyd ar gyfer pob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (CALl), o 10.76 diwrnod yn 2016/17 i 10.15 diwrnod yn 2017/18. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ni chyrhaeddwyd y targed o 9.6 diwrnod ar gyfer pob gweithiwr CALl a osodwyd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol i hybu gostyngiad mewn absenoldeb. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth am y mentrau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r gwaith o reoli presenoldeb mewn ysgolion ac adrannau'r cyngor. Roedd y rhain yn cynnwys:
· Cyflwyno Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion ym mhob ysgol gynradd;
· Cynhadledd Rheoli Presenoldeb Cadarnhaol i holl Benaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu Sir Gaerfyrddin;
· Parhau i gyflwyno'r rhaglen datblygu Rheoli Presenoldeb i holl Benaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethu;
· Sefydlu'r Fforwm Herio ac Adolygu Presenoldeb, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Arweinydd;
· Rheoli gwybodaeth, meincnodi a threfnu data yn well;
· Llofnodi siarter "Dying to Work" Cyngres yr Undebau Llafur, sydd â'r nod o gefnogi gweithwyr â salwch angheuol;
· Cynnal achrediad y Cyngor fel Cyflogwr sydd â Hyder Mewn Pobl Anabl.
Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth fanwl am Gost absenoldeb, data Llesiant Gweithwyr, Nifer y gweithwyr y diswyddwyd ar sail galluogrwydd iechyd, Prif achosion absenoldebau, cymariaethau'r Sector a chymariaethau Cymru gyfan.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] y dylid rhoi gwybod i aelodau am unrhyw broblemau sy'n codi yn sgil absenoldeb salwch yn eu hysgolion lleol;
· Gofynnwyd a oedd ysgolion yn gallu ystyried defnyddio 'locwm' i gyflenwi yn ystod absenoldebau staff oherwydd salwch a thrwy hynny osgoi defnyddio asiantaethau. Gan ymateb i hyn, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi darparu cyllid ar gyfer cyflogi 3 athro/athrawes newydd gymhwyso er mwyn darparu gwasanaeth cyflenwi cynlluniedig, yn hytrach na chyflenwi adeg salwch, yng nghlwstwr Llanelli o ysgolion, ond y farn oedd y gallai fod yn gyfle i brofi'r posibilrwydd o sefydlu cynllun tebyg i gyflenwi adeg salwch.
· Awgrymodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] pan fod pryderon parhaus ynghylch lefelau absenoldeb salwch, efallai y byddai'r Pwyllgor am wahodd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i gyfarfod er mwyn egluro'r sefyllfa ac amlinellu unrhyw gamau a gymerir i wella'r sefyllfa. Ychwanegodd fod y Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Timau Rheoli Adrannol wedi cael Adroddiadau Rheoli Data a oedd yn gallu nodi problemau a phatrymau o ran salwch er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion. Efallai yr hoffai'r Pwyllgor hefyd ystyried gofyn i Benaethiaid Gwasanaeth gyflwyno adroddiadau yn ystod cyfarfodydd yn y dyfodol, yn amlinellu'r effaith gadarnhaol a'r mentrau er mwyn rhannu arferion da;
· Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant sylweddol a gafodd rheolwyr ynghylch rheoli salwch a'r wybodaeth gynhwysfawr sydd ar gael i staff ar y fewnrwyd;
· Gofynnwyd a allai'r lleihad o ran nifer y staff mewn meysydd penodol fod yn gysylltiedig â'r cynnydd o ran lefelau absenoldeb staff oherwydd y cynnydd o ran y llwyth gwaith a'r straen ychwanegol sydd ar y staff sy'n weddill;
· Cydnabuwyd bod angen i'r targedau sy'n ymwneud â rheoli absenoldeb salwch fod yn realistig ond yn heriol;
· Cytunodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr i roi rhagor o fanylion ynghylch nifer y gweithwyr a gefnogir gan y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol mewn adroddiadau yn y dyfodol;
· Gan ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] y bydd y mater o gydnabod gwaith staff am wasanaeth hir yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Strategaeth Pobl a sefydlwyd yn ddiweddar;
· Mewn ymateb i sylw yn nodi y dylid annog staff i gael pigiadau ffliw, nodwyd bod gwybodaeth ar gael i'r staff ond mai mater i bob unigolyn ydyw.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
5.1 dderbyn yr adroddiad a dangos y cymaryddion fel canrannau mewn adroddiadau yn y dyfodol;
5.2 gwneud trefniadau ar gyfer Sesiwn Datblygu ychwanegol i'r Aelodau ynghylch Monitro Absenoldeb Salwch er mwyn rhoi gwybod i aelodau am y math o ddata salwch sy'n cael ei ddosbarthu i Dimau Rheoli'r Adrannau.
Dogfennau ategol: