Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Drafft y
Cyngor ar gyfer 2017/18 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod yr adroddiad yn
darparu:-
Trosolwg o berfformiad
2017/18,
Adroddiadau cynnydd dwy
dudalen o hyd ar gyfer pob un o'r 15 o Amcanion
Llesiant,
Dolen i olrhain cynnydd pob
cam gweithredu penodol a tharged a rhoddwyd i bob amcan
Llesiant,
Yn yr atodiadau, roedd
gwybodaeth ynghylch perfformiad Data all-dro (Medi) a Chanlyniadau
Arolwg Cenedlaethol Cymru (Mehefin) a fyddai'n cael eu diweddaru
pan fyddai canlyniadau ar gael.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr
adroddiad:-
- Cyfeiriwyd at amcan llesiant 8 – Bwyta ac yn anadlu'n
iach. O ran yr ymgais genedlaethol i leihau diodydd sy'n llawn
siwgr ac ar y cyd â'r ymdrechion byd-eang i ddileu deunyddiau
plastig untro, gofynnwyd beth oedd y Canolfannau Hamdden ar draws
Sir Gaerfyrddin yn ei wneud i helpu â'r ymdrechion
hyn? Nododd Pennaeth Dros Dro Cartrefi
a Chymunedau Mwy Diogel fod cynnig arlwyo newydd yn cael ei
ystyried ar hyn o bryd ac y byddai'n cael ei roi ar waith ym mhob
Canolfan Hamdden yn Sir Gaerfyrddin.
Yn sgil yr uchod ac yng ngoleuni
penderfyniad y Cyngor i leihau'r defnydd o blastig untro lle bynnag
y bo modd, gofynnwyd am i'r materion hyn gael eu hystyried wrth
lunio'r cynnig arlwyo newydd.
- Mewn perthynas â'r ymrwymiad i fonitro ansawdd aer
(nitrogen deuocsid) ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr â'r Sir,
gofynnwyd a fyddai modd darparu canlyniadau amser real drwy ffyrdd
o gyfathrebu yn syth, er enghraifft negeseuon testun. Roedd y dull
hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer y rheiny sy'n
tanysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am lefelau uchel o UV a
phaill. Nododd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel,
er bod y Pwyllgor yn cael diweddariad blynyddol ynghylch y gwaith
monitro ansawdd aer sy'n cael ei wneud yng Nghaerfyrddin a
Llandeilo, byddai'n ystyried darparu rhagor o wybodaeth amser real
am ansawdd aer a'i chynnwys yn yr adroddiad diweddaru.
- Gofynnwyd ynghylch y Gymraeg a pha brosesau oedd ar waith gan
y Cyngor i recriwtio siaradwyr Cymraeg. Eglurodd Pennaeth y
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, yn achos pob proffil swydd,
fod safon y Gymraeg sydd ei hangen yn cael ei nodi a'i hadolygu gan
y tîm Polisi ac Adnoddau. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth
o'r broses yn ei chyfanrwydd, awgrymwyd bod amlinelliad o'r broses
ynghyd â'r lefelau o ran rhuglder yn cael eu hanfon at
aelodau'r Pwyllgor mewn neges e-bost.
- Mewn ymateb i sylw ynghylch cysylltiadau rhwng y Cynllun
Datblygu Lleol a'r sector preifat er mwyn annog defnydd o'r Gymraeg
mewn busnesau, eglurodd y Pennaeth Cynllunio fod gwaith parhaus yn
cael ei wneud gyda Chyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Ceredigion a'r
sector preifat ar hyn o bryd i geisio, gyda'i gilydd, ddod o hyd i
ddull cyffredin ar draws Cymru.
- Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 12, Amgylchedd Iach a Diogel
– gofalu am yr amgylchedd yn awr ac yn y dyfodol. Gofynnwyd am eglurhad o'r targedau uchelgeisiol
oedd wedi cael eu pennu mewn perthynas â faint o ynni a
gynhyrchir gan dechnolegau adnewyddadwy a pha mor agos oedd y
Cyngor at gyflawni'r targedau hyn. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad
oedd yn bosibl darparu'r wybodaeth hon i'r aelodau heddiw, ond
byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi yn y cyfarfod
nesaf.
- Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 13 – Amgylchedd Iach a
Diogel a'r ymrwymiad i leihau canran y prif ffyrdd (A) a'r ffyrdd
heblaw prif ffyrdd (B a C). Gofynnwyd a
oedd ffordd o dargedu'r heolydd hyn er mwyn sicrhau eu bod yn
cyrraedd y safon ofynnol. Nododd Pennaeth y Priffyrdd a
Thrafnidiaeth, er bod cyflwr y ffyrdd wedi gwella, yn anffodus nid
yw buddsoddiadau yn aml yn cyd-fynd â pha mor gyflym y mae'r
ffyrdd yn dirywio ac felly roedd angen blaenoriaethu buddsoddiadau
yn unol â hynny. Yn ogystal, roedd yr Adroddiad Opsiynau a'r
Datganiad Blynyddol (ASOR) a oedd yn adroddiad atodol i'r Cynllun
Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP) yn cynnwys diweddariadau rheolaidd
am gyflwr presennol asedau'r priffyrdd a'u perfformiad dros y 12
mis blaenorol.
- Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn enwau tai Cymraeg yn
cael eu newid i enwau Saesneg a oedd yn golygu bod perygl y
byddai'r hanes/diwylliant sy'n gysylltiedig â'r eiddo/ardal
yn cael ei golli. Nododd y Pennaeth Cynllunio nad oedd y Cyngor yn
gyfreithiol yn gallu stopio preswylwyr rhag newid enwau eu heiddo,
ond pan oedd ceisiadau'n dod i law roedd trafodaeth yn cael ei
chynnal â'r preswylwyr i'w hannog i ailystyried eu cais er
mwyn cynnal y Gymraeg a diwylliant y wlad. Nododd y Pennaeth
Cynllunio y byddai'n codi'r mater hwn â'r gr?p Cynllun
Datblygu Lleol rhanbarthol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod
Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18
yn cael ei gymeradwyo.