Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW A CHYLLIDEB GYFALAF 2017/18

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad diwedd blwyddyn ynghylch Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol.  I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld tanwariant o £113k. 

 

Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £8,107 o gymharu â chyllideb net weithredol o £11,987 gan roi amrywiant o £-3,880.


 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

  • Gofynnwyd pam roedd tanwariant yn gysylltiedig â nifer o gategorïau o dan Briffyrdd a Thrafnidiaeth? Nododd Cyfrifydd y Gr?p fod ymarfer ad-drefnu ar waith ar hyn o bryd. Ychwanegodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Peiriannydd Cynorthwyol – Adeiladwaith yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd a bod Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad wedi cael ei benodi'n ddiweddar. Mewn ymateb i ymholiad pellach, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai gwaith recriwtio yn cael ei wneud ar sail 'haen wrth haen' a'r gobaith oedd y byddai haen Rheolwyr y Gwasanaeth ar waith yn y 3 mis nesaf.

  • O ran Llwybr Dyffryn Tywi, gofynnwyd a oedd cost derfynol y Llwybr ar gael? Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd ei bod yn anodd rhoi cost derfynol ar y cam hwn oherwydd bod nifer o agweddau'n anhysbys hyd yn hyn megis cost y tir a'r costau lliniaru. Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd bod cyfanswm y gost yn cynnwys y tir a'r gwaith lliniaru.

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch costau cynnal a chadw'r llwybr, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd nad oedd y model cynnal a chadw wedi cael ei gwblhau eto. 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod cynnydd y cynllun yn cael ei gyfyngu gan argaeledd tir, a bod hyn yn ei dro yn pennu'r drefn y gallai pob rhan o'r llwybr gael ei hadeiladu.

 

  • Gofynnwyd beth oedd y sefyllfa o ran eiddo sydd wedi cael eu dibrisio o ganlyniad i Ffordd Gyswllt Cross Hands ac a oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law ynghylch iawndal? Bu i Reolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd egluro Deddf Iawndal Tir 1974 sy'n nodi'r broses ar gyfer hawliadau. Fodd bynnag, petai unrhyw faterion yn codi yn ystod y cam adeiladu, byddai'r Adran Priffyrdd yn gallu helpu.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y galw ychwanegol am Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn faes oedd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac y ceisir cyngor ar lefel cenedlaethol.

  • Gofynnwyd pam roedd gostyngiad wedi bod yn ansawdd gwaith torri a chlirio amwynderau wrth gyrraedd trefi a phentrefi. Fel enghraifft, gofynnwyd pam roedd y porth i Dref Caerfyrddin wedi cael ei adael yn anniben oherwydd gwaith cynnal a chadw o ansawdd gwael o ran torri a chlirio. Teimlwyd bod y gwaith cynnal a chadw ar gyfer pyrth trefi a phentrefi wedi cael ei esgeuluso ar y cyfan ac y dylai'r pyrth gael eu hadfer er mwyn dangos ymdeimlad o falchder yn yr ardal. Nododd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'n hapus i drefnu cyfarfod safle lle roedd materion ynghylch ansawdd gwaith torri a chlirio amwynderau yn bryder.


 

Yn sgil yr uchod, awgrymwyd y gall fod yn fuddiol i'r Pwyllgor gael cyflwyniad am ymagwedd yr Awdurdod tuag at dorri gwair amwynderau mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor ynghylch yr awgrym hwn a nododd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'n trefnu bod cyflwyniad yn cael ei wneud.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau