Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, a Ms Joanna Dainton, Pennaeth Datblygu Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol y Bwrdd Cynllunio Ardal, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'u diweddaru o ran y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
·
yr amcanion strategol mewn
perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau
cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau a gomisiynir;
· datblygiadau lleol a chadarnhad o'r trefniadau llywodraethu a chynllunio sydd ar waith yn rhanbarthol.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y cyflawniadau a wnaed yn 2017, a oedd yn cynnwys dosbarthu 397 o gitiau Naloxone. Gofynnwyd pwy oedd wedi derbyn cit Naloxone. Yn ogystal, dywedwyd y gallai codi ymwybyddiaeth o Naloxone a'i ddiben fod yn fuddiol. Gellid cyflawni hyn drwy gynnal y sioe deithiol ynghylch Naloxone ar draws y sir a darparu hyfforddiant i'r rheiny sy'n goruchwylio drysau tafarnau/clybiau. Esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Naloxone yn feddyginiaeth a ddefnyddir i atal effeithiau opioidau, yn arbennig mewn achosion gorddos a bod citiau wedi'u dosbarthu'n eang. Roedd yn cydnabod y byddai codi ymwybyddiaeth yn fuddiol ac y byddai hi'n ystyried ehangu'r rhaglen hyfforddiant yn y dyfodol. Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) fod Naloxone eisoes yn cael ei ddosbarthu'n eang ar draws ardal Hywel Dda.
·
Codwyd pryder mawr o ran
nifer gynyddol y bobl ifanc sydd â phroblemau mewn perthynas
ag alcohol a chyffuriau, a'r amcan yw cael gwared ar broblemau yn
hytrach na'u cuddio. Roedd Cyfarwyddwr
Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod hwn yn faes heriol a bod ymchwil
yn cael ei wneud yn barhaus i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn
cael eu comisiynu. Roedd y Bwrdd
Cynllunio Ardal yn cynnwys aml-asiantaethau, y mae pob un ohonynt
â chyfrifoldeb i fynd i'r afael â chymhlethdod y
materion sy'n codi. Mae'r gwasanaethau
triniaeth integredig sy'n darparu dull cyfannol a gr?p deuol sy'n
cefnogi ac yn llywio materion heriol o ran iechyd meddwl a
chaethiwed.
Yn ogystal, esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i'r Pwyllgor fod
gwybodaeth newydd wedi dangos nad yw dibyniaeth ar alcohol yn
gyfyngedig i bobl ifanc, roedd yn effeithio ar ystod eang o
oedrannau gan gynnwys grwpiau o oedran h?n. Addysg, atal ac
ymyrraeth gynnar oedd y prif feysydd a gafodd sylw gan y Bwrdd, a oedd yn hanfodol er mwyn
lleihau dibyniaeth ar alcohol.
Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a
Phartneriaeth y byddai'r Bwrdd Cynllunio Ardal yn ymgymryd ag
ymarferion i gomisiynu gwasanaethau yn y sector addysg mewn
ysgolion a cholegau.
·
O ran Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r 5 ffordd o weithio,
gofynnwyd a oedd unrhyw gydweithio â'r trydydd sector a chymunedau? Dywedodd
Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth fod
Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, sy'n wasanaeth i oedolion,
yn gweithio mewn partneriaeth â Dan 24/7, Barod (Drugaid Cymru gynt) a Kaleidoscope, ac mae gan bob un o'r rheiny
gysylltiadau agos â chymunedau a busnesau lleol. Yn ogystal, roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal yn
seiliedig ar feysydd blaenoriaeth Strategaeth Llywodraeth Cymru, ac
roedd yn cynnwys Cynllun Cyflawni a oedd yn canolbwyntio ar
driniaeth ac adferiad.
·
Cyfeiriwyd at blant mewn
angen y mae eu rhieni'n cam-drin sylweddau. Gwnaed ymholiad
ynghylch diffiniad o blant mewn angen.
Esboniodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio, fod plant
mewn angen yn golygu plant sy'n derbyn gofal a chymorth a oedd yn
cynnwys plant a oedd yn hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol a'r
plant/teuluoedd hynny y nodwyd bod angen cymorth ychwanegol
arnynt.
· Gofynnwyd sut yr ydym yn gwybod a yw'r gwasanaethau'n llwyddiannus. Dywedodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth fod y Bwrdd Cynllunio Ardal yn derbyn ac yn craffu adroddiad ynghylch pob gwasanaeth yn chwarterol, sy'n tynnu sylw Cadeirydd y Bwrdd Cynllunio Ardal at feysydd sy'n peri pryder. Yn ogystal, roedd strwythur y Bwrdd yn caniatáu prosesau sicrhau ansawdd a monitro cadarn.
·
Gofynnwyd i'r swyddogion sut
y mae'r gwasanaeth yn darparu canolfannau galw heibio ac esboniodd
Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth
(Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) fod rhaid i'r holl ganolfannau
galw heibio ddarparu gwybodaeth bob chwarter, a bod unrhyw faterion
sy'n codi yn cael eu hadrodd i'r Bwrdd.
Mae gan y Bwrdd Iechyd fframwaith
sicrhau ansawdd tynn ac os nad yw asiantaeth yn rhoi gwerth am yr
arian i ddefnyddiwr y gwasanaeth, bydd y Bwrdd yn
ymyrryd.
·
Gofynnwyd a oedd cynlluniau
i gynnal adolygiad ynghylch effeithiolrwydd blynyddol y Bwrdd
Cynllunio. Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd
y Cyhoedd fod Arolygiaeth Iechyd Cymru wedi comisiynu adolygiad i'r
holl Fyrddau Cynllunio Ardal ar draws
Cymru yn gynharach eleni. Disgwylir i ganlyniadau'r adolygiad gael
eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf/mis Awst 2018.
· Cyfeiriwyd at y 5,000 o ddiwrnodau gwely a oedd wedi'u defnyddio gan gleifion â chyflyrau sy'n gysylltiedig ag alcohol o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Dywedwyd ei fod yn ddiddorol nodi mai'r gost i'r Bwrdd Iechyd oedd dros £5.2 miliwn fesul diwrnod ar gyfer trin cleifion preswyl yn unig.
Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd a Phennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth am yr adroddiad a'r cyflwyniad manwl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: