Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod ar Ddiogelu Oedolion, a roddai wybodaeth am rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod o ran Diogelu Oedolion. Fel y prif sefydliad sy'n gyfrifol am ddiogelu oedolion, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gael trefniadau effeithiol i sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu diogelu rhag niwed. Roedd yr Awdurdod yn cyflawni ei rôl mewn partneriaeth agos â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau eirioli lleol.
Roedd yr adroddiad yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn crynhoi cyd-destun polisi cenedlaethol Diogelu Oedolion ar y pryd, gan gynnwys goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn darparu amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys:-
· y sefyllfa strategol ranbarthol
· y trefniadau gweithredol
· y prif lwyddiannau a digwyddiadau arwyddocaol
· y prif heriau a materion
· sicrhau ansawdd
· adroddiadau partneriaethau
· gwybodaeth am berfformiad a gweithgarwch
Bellach roedd y Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol wedi ei hen sefydlu. Y Bwrdd hwn, a gâi ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro, oedd y corff arweiniol oedd yn gyfrifol am bennu'r cyfeiriad strategol a'r trefniadau llywodraethu ar gyfer diogelu oedolion yn y sir. Roedd y Bwrdd ar ei fantais o gael arweiniad strategol da a threfniadau partneriaeth cryf. O ran cam-drin, 'dim goddefgarwch o gwbl' oedd ymagwedd y Bwrdd. Roedd gan bob un yr hawl i fyw heb gael ei gam-drin a'i esgeuluso, a mater i bawb oedd sicrhau ein bod yn cydweithio fel cymuned er mwyn cefnogi a diogelu'r rhai hynny oedd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.
O ran gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn Ebrill 2016, roedd diogelu oedolion bellach yn statudol am y tro cyntaf. Gan fod gan Sir Gaerfyrddin drefniadau llywodraethu a chraffu oedd wedi hen ennill eu plwyf, roedd mewn sefyllfa dda i gyflawni dyletswyddau ac egwyddorion y Ddeddf.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant rhianta corfforaethol roedd rhai aelodau wedi ei gael, a gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl cyflwyno'r hyfforddiant hwn i'r aelodau i gyd, gan mai nhw yw llygaid a chlustiau eu cymunedau ac roedd yn bwysig eu bod yn gallu adnabod arwyddion esgeulustod;
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod swydd Rheolwr Deddf Gallu Meddyliol/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi bod yn wag ers bron blwyddyn a bod y swydd yn cael ei hail-lunio. Gofynnwyd i swyddogion a oedd bod yn gyfrifol am ddiogelu hefyd yn gofyn gormod o un unigolyn, pan oedd Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn gyfrifoldeb mor fawr. Eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu mai hi fyddai'r rheolwr strategol o hyd ac ychwanegodd ein bod yn ffodus yn Sir Gaerfyrddin gan nad oedd unrhyw gyfrifoldeb statudol yn cwympo ar un person yn unig;
· Soniwyd bod canran yr ymholiadau ynghylch oedolion mewn perygl oedd wedi'u cwblhau mewn 7 diwrnod wedi cynyddu o 75.3% yn 2016/17 i 92.48% yn 2017/18, a gofynnwyd i swyddogion sut roedd cynnydd mor sylweddol wedi cael ei gyflawni. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dau reswm dros y cynnydd hwn, yn gyntaf roedd swyddogion wedi cael eglurhad ynghylch beth oedd y ddyletswydd yn ei gwmpasu, ac yn ail bellach roedd swyddog penodedig i ymdrin ag ymholiadau o'r fath;
· Gofynnwyd i swyddogion sut roedd digwyddiadau mewn cartrefi gofal yn cael eu monitro. Eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu fod hyn yn cael ei wneud mewn nifer o ffyrdd megis swyddogion monitro contractau sy'n ymweld â chartrefi gofal yn rheolaidd i gael cip o gwmpas, staff nyrsio sy'n ymweld â chartrefi gofal yn rheolaidd ac sy'n adrodd yn ôl. Hefyd roedd swyddogion yn edrych ar dueddiadau ac achosion ac yn gallu clustnodi unrhyw beth anghyffredin. Ceid adroddiadau rheolaidd hefyd a fyddai'n rhoi gwybod i swyddogion am unrhyw broblemau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: