Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r aelodau yn ystyried adrannau o ddrafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant.
Bydd drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol yn cymryd lle'r un presennol a gyhoeddwyd yn 2015 a bydd yn cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-
- Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;
- yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol
2009;
- yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015;
- Prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin am y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn “Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf.”
Nodwyd nad oes angen inni newid ein Hamcanion Llesiant bob blwyddyn, na gorfod eu rhoi ar waith o fewn blwyddyn, a bod nodi amcanion sy'n parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith y gofynnir i'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant wneud sylw ar y meysydd hynny o'r strategaeth sydd yn ei faes gorchwyl yn unig, fodd bynnag, nodwyd bod yna feysydd eraill y mae eu camau gweithredu a'u mesurau yn effeithio ar ei faes gorchwyl hefyd. Cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod ei adran yn cyfrannu at lawer o amcanion a arweinir gan adrannau eraill ac awgrymodd y dylid rhoi'r strategaeth gyfan gerbron y Pwyllgor yn y dyfodol gan bwysleisio'r elfennau sy'n ymwneud ag Addysg a Phlant. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod unrhyw faterion trawsbynciol wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu;
· O ran y plant y mae angen cymorth penodol arnynt, gofynnwyd i'r swyddogion sut y byddant yn sicrhau bod y datganiadau'n cael eu cynnal yn gynnar yn ystod addysg y plentyn. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod yna ddyletswydd ar yr Awdurdod tuag at y plant hyn. Bydd ysgolion sydd â dros 100 o ddisgyblion yn cael arian ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), a gall yr ysgolion hynny sydd â llai na 100 o ddisgyblion gysylltu â'r Awdurdod ar gyfer adnoddau ychwanegol sydd eu hangen er mwyn helpu plant sydd ag AAA. Mae'r arian yn cael ei ddyrannu yn y ffordd hon gan nad yw'r fformiwla a ddefnyddir yn gweithio ar gyfer yr ysgolion sydd â llai na 100 o ddisgyblion;
· Cyfeiriwyd at y cyllid Ewropeaidd sy'n cael ei dderbyn ar hyn o bryd a gofynnwyd i'r swyddogion beth fydd yn digwydd i'r arian hwnnw yn y dyfodol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wybod i'r Pwyllgor fod cadarnhad wedi dod i law y bydd yr arian ar gael tan 2020;
· Mynegwyd pryder ynghylch y datganiad yn yr adroddiad sy'n dweud "Ein nod yw cadw i leiafswm ganran y plant sy'n derbyn gofal a chanddynt brofiad o symud ysgol unwaith neu ragor yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, ac nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau pontio" gan y credwyd y dylai hyn ddweud "Byddwn yn parhau i leihau..." Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y geiriau wedi dod o Ddangosydd Perfformiad statudol sy'n rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Cytunodd y swyddogion i wirio a newid y geiriad os yw'n bosibl.
· Cyfeiriwyd at y datganiad ynghylch plant sydd dros bwysau a mynegwyd pryder ynghylch y diffyg meysydd chwarae a'r ffaith bod yr Awdurdod Lleol yn cau lleoedd chwarae, eu trosglwyddo neu'n adeiladu arnynt a mynegwyd pryder ei fod yn ymddangos bod neb yn meddwl yn gydlynol.
PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod fersiwn ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23 yn cael ei chymeradwyo.
Dogfennau ategol: