Cofnodion:
Derbyniodd yr aelodau fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Gorfforaethol newydd 2018-23. Byddai drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol yn disodli'r un presennol a gyhoeddwyd yn 2015 a bydd yn cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-
- Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;
- yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol 2009;
- yr Amcanion Llesiant yn unol
â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015;
- Prosiectau allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin a
Rhaglenni ar gyfer y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn "Symud Ymlaen
yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf”.
Nododd y Pwyllgor y byddai'r un set o Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 yn cael eu cadw ynghyd ag un ychwanegol ar 'Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau’.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr amcanion llesiant a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd fel a ganlyn:-
Amcan Llesiant |
Camau Gweithredu (Cyfeirnod) |
Mesurau (Cyfeirnod) |
8 – Byw'n dda - helpu pobl i fyw bywydau iach
|
Cyfeirnod A – Bwyta ac anadlu'n iach
|
A1, A2, A3, A4 ac A7;
|
Cyfeirnod B – Gweithgarwch Corfforol
|
B4 a B5
|
|
9 – Byw'n dda/Heneiddio'n dda – cefnogi cysylltiadau da gyda ffrindiau, teulu a chymunedau mwy diogel |
Cyfeirnod B – Byddwn yn hyrwyddo ac yn datblygu cysylltiadau cryf ar gyfer pobl, lleoedd a sefydliadau |
B1 a B2 |
Cyfeirnod C – Byddwn yn clustnodi'r cryfderau a'r adnoddau mewn cymunedau sy'n gallu cyfrannu at hyrwyddo a chefnogi iechyd a llesiant cymdogion |
C4 |
|
Cyfeirnod D – Gyda'n partneriaid byddwn yn parhau i gefnogi Cymunedau mwy Diogel |
Yr holl Fesurau, D1 – D11 |
|
12 – Amgylchedd Iach a Diogel – edrych ar ôl yr amgylchedd yn awr ac yn y dyfodol |
Cyfeirnod A – Mynd i'r afael â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 |
Yr holl fesurau, A1 – A12 |
Cyfeirnod B – Rydym yn monitro cyflawniad Blaen-gynllun CCC ar gyfer Deddf yr Amgylchedd |
B1 |
|
Cyfeirnod C – Byddwn yn parhau i weithredu a hyrwyddo cynnydd yn y defnydd o ynni adnewyddadwy |
Yr holl fesurau, C1-C3 |
|
Cyfeirnod D – Byddwn yn amddiffyn ein hamgylchedd a'n heiddo drwy ddarparu ein Cynllun Rheoli Llifogydd a Gwastraff; ac yn amddiffyn a rheoli ein harfordir drwy gyflawni Cynllun Rheoli'r Draethlin |
D1 |
|
Cyfeiriad E – Byddwn yn gweithredu camau o'r 'Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff', er mwyn bod yn genedl sy'n ailgylchu llawer erbyn 2025 ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. |
Yr holl fesurau, E1-E12 |
|
13 – Amgylchedd iach a diogel – Gwella isadeiledd a chysylltedd priffyrdd a thrafnidiaeth |
Cyfeirnod A- Byddwn yn datblygu'r seilwaith priffyrdd i gyflawni blaenoriaethau ein Cynllun Adfywio |
Yr holl fesurau A1 – 16 |
Cyfeirnod B – Byddwn yn parhau i integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn llwyddiannus |
B1 a B2 |
|
Cyfeirnod C – Byddwn yn ail-ddylunio ein rhwydwaith cludiant ysgol er mwyn cefnogi'r Rhaglen Moderneiddio Addysg |
C1 |
|
Cyfeirnod D – Byddwn yn parhau i gefnogi trafnidiaeth gymunedol |
D1 |
|
Cyfeiriad E – Byddwn yn cyflawni ein hamcanion a bennwyd gennym yn ein Strategaeth Diogelwch Ffyrdd |
Yr holl fesurau E1 – E15 |
|
Cyfeiriad F – Moderneiddio ein fflyd cerbydau |
F1 |
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod rhai o'r mesurau a gweithrediadau o fewn Amcan 12 yn gorgyffwrdd â'r Pwyllgor Craffu- Cymunedau, fodd bynnag byddai'r wybodaeth angenrheidiol hefyd yn cael ei darparu i'r Pwyllgor hwn.
Gofynnwyd sut y byddai'r cynnydd ar yr amcanion llesiant yn cael eu hadrodd, a dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y byddai'r holl gamau gweithredu a'r mesurau rheoli yn cael eu hadrodd drwy gyfrwng y system rheoli perfformiad mewnol PIMS a'i dychwelyd i'r Pwyllgorau Craffu perthnasol yn chwarterol.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL bod y Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Gorfforaethol newydd 2018/23 yn cael ei chymeradwyo
Dogfennau ategol: