Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor, gyflwyniad ar y prosiect Llwybr Dyffryn Tywi yn dilyn cais y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 12 Chwefror 2018 [cyfeirir yng nghofnod 8].
Roedd cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth i'r Pwyllgor ac yn dangos yr agweddau allweddol ar y prosiect gan gynnwys:-
· Cefndir ac amcanion allweddol y prosiect;
· Y llwybr arfaethedig;
· Y manteision economaidd i'r rhanbarth;
· Manteision iechyd cysylltiedig;
· Effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd;
· Y manteision a gyflawnwyd mewn cynlluniau tebyg.
Yn ogystal, rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor weld fideo 'golwg o'r awyr' ar gyfer hyrwyddo Llwybr Dyffryn Tywi.
Codwyd y cwestiynau canlynol ar ddiwedd y cyflwyniad:-
· Gofynnwyd a fyddai'r arian a oedd yn cael ei wario ar Lwybr Dyffryn Tywi yn cael effaith niweidiol ar y llwybrau beicio eraill yn y Sir? Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod dwy ffynhonnell ariannu ar hyn o bryd a bod yr arian ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi yn dod yn bennaf o ffynonellau allanol a oedd wedi cael eu neilltuo a heb eu cynnwys yn y gronfa Teithio Llesol.
·
Dywedwyd er bod datblygiad
Llwybr Dyffryn Tywi yn cael ei groesawu a bod y manteision yn cael
eu cydnabod, gofynnwyd a oedd modd i'r swyddogion ddarparu rhagor o
wybodaeth am y cyfleoedd ar gyfer y fasnach adeiladu
lleol. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth
a Phriffyrdd oherwydd cwmpas a maint y cynllun cyfan, bod elfennau
adeiladu helaeth yn gysylltiedig â'r gwaith a fydd yn darparu
cyfleoedd cyflogaeth. Roedd trefniadau contract fframwaith ar waith
a oedd yn cynnwys cyflenwyr lleol. At
hynny, cadarnhaodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd
hefyd fod y trefniadau fframwaith yn cynnwys rhwymedigaeth ar
gontractwyr i ddarparu buddion cymunedol.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y costau fesul cilomedr o'r llwybr, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd na fyddai'n gallu rhoi gwybodaeth fanwl am y costau fesul cilomedr hyd nes i'r trafodaethau ynghylch y tir gael eu cwblhau. Fodd bynnag, byddai cyfanswm cost y cynllun oddeutu £5-8m.
· Mynegwyd pryder na fyddai beicwyr yn defnyddio'r llwybr ar daith cylch ac o bosibl yn defnyddio'r A40 fel rhan o'u taith. Gofynnwyd pa fesurau oedd yn cael eu rhoi ar waith i annog beicwyr i gadw at y llwybr. Cadarnhaodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai llawer o atyniadau i'w gweld wrth ddilyn y llwybr er mwyn annog defnyddwyr i barhau ar y llwybr diogel.
· O ran dyddiad cwblhau Llwybr Dyffryn Tywi, dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd yr amcangyfrifir mai Awst 2020 oedd y dyddiad cwblhau.
· Yn dilyn ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'r cynllun, drwy gyfrwng y strategaeth feicio, yn ceisio gweithio'n agos gyda llwybrau beicio eraill ledled Sir Gaerfyrddin, er mwyn cyflwyno a hyrwyddo'r brand , 'Sir Gaerfyrddin, canolbwynt beicio Cymru’.
· Yn dilyn ymholiad a godwyd o ran y cynnydd yn y gwrthwynebiadau lleol, esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod Sustrans wedi ceisio datblygu'r llwybr rai blynyddoedd yn ôl a bod gwrthwynebiadau wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori cynnar. Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 2015, roedd y Cyngor wedi mynd i'r afael â'r cam cyn-ymgynghori gan wahodd yr holl berchnogion tir i fynychu cyflwyniad gan roi gwybodaeth am ddatblygiad arfaethedig Llwybr Dyffryn Tywi. Arweiniodd llwyddiant y cyflwyniad at y cyhoedd yn cael rhagor o wybodaeth ac o ganlyniad roedd nifer y gwrthwynebiadau gryn dipyn yn llai. At hynny, roedd y tîm prosiect wedi parhau i weithio gyda thirfeddianwyr er mwyn dod i ganlyniad oedd yn addas i bawb. Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod tirfeddianwyr wedi mynegi pryderon dilys ac mae'r tîm wedi gweithio'n galed i leddfu'r pryderon hynny, gan addasu'r llwybr lle bo modd i ddiwallu anghenion yn well. Yn ogystal, oherwydd cysylltiadau da gyda'r tirfeddianwyr, mae amserlen y prosiect wedi byrhau, sy'n golygu dyddiad cwblhau ychydig yn gynharach na'r disgwyl.
· Gofynnwyd, faint o gyfleoedd cyflogaeth y byddai'r prosiect yn eu creu? Nododd Reolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd yn dilyn cwblhau'r prosiect byddai rhwng 17 a 41 o swyddi yn cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, a oedd yn cynnwys y sector lletygarwch.
· Cydnabuwyd ar lefel ymarferol, y byddai rhannau o'r llwybr yn cael ei amgylchynu gan goed. Gofynnwyd felly a oedd cynllun glanhau ar gyfer y dail a'r sbwriel a allai fod yn beryglus i ddefnyddwyr. Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai adnodd pwrpasol ar gyfer cynllun a fyddai'n sicrhau rhaglen cynnal a chadw effeithiol a chadarn.
· Gofynnwyd ynghylch y mynediad i gerbydau modur. Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai cyfyngiadau mynediad ar waith o ran cerbydau modur ac eithrio cerbydau'r gwasanaethau brys, a byddai mesurau ar waith er mwyn atal a gwahardd y defnydd o gerbydau modur.
· Gofynnwyd, beth oedd cyfanswm cost y cynllun i'r Awdurdod? Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod y gyllideb cyfalaf 5 mlynedd yn cynnwys arian cyfalaf o tua £2m. Fodd bynnag, dywedwyd y gallai costau'r cynllun ostwng petai cyllid arall yn dod i law.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: