Agenda item

STRATEGAETH BARCIO SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Strategaeth Barcio a oedd wedi cael ei hadolygu a'i datblygu yn sgil yr adolygiad o'r sefyllfa barcio a gyflawnwyd gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu.

 

Nododd y Pwyllgor mai nod y Strategaeth Barcio oedd sicrhau bod newidiadau yn y dyfodol i'r ddarpariaeth barcio yn flaengar ac yn gefnogol i sefyllfa economaidd a bywiogrwydd yr ardaloedd amrywiol yn Sir Gaerfyrddin a bod gan ganol y trefi gymysgedd gytbwys o ddulliau trafnidiaeth i leihau risg o dagfeydd gyda sgil-effeithiau ar ansawdd aer.

 

Roedd yr adroddiad am gael sylwadau gan y Pwyllgor Craffu cyn i'r Bwrdd Gweithredol roi ystyriaeth bellach iddo.

 

Rhoddwyd sylw i'r ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Gofynnwyd, os oedd unrhyw gynigion i fynd i'r afael â'r lefelau uchel o alw am leoedd parcio yn Rhydaman?  Nododd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ganlyniadau dadansoddiad o'r data ar gyfer y cyfnodau brig o weithgarwch yn ystod mis Awst a mis Rhagfyr 2016.  Mae'r gweithgarwch wedi newid ers hynny ac mae'r data yn dangos bod y lefelau parcio presennol yn ddigonol.

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch parcio cartrefi modur, roedd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd yn cydnabod fod hwn yn sector twf a fyddai'n cael ei ystyried ymhellach yn y dyfodol.  Yn dilyn ymholiad pellach, cadarnhawyd y gall cartrefi modur ddefnyddio'r meysydd parcio ar hyn o bryd ond byddai angen talu am y lleoedd parcio oedd yn cael eu defnyddio, petai cartref modur yn parcio ar draws dau leoliad parcio, byddai angen talu am y ddau.

 

·         Dywedwyd nad oedd y cyhoedd yn ymwybodol pa ddiwrnodau oedd y rhai parcio ceir am ddim.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd mai'r Cynghorau Tref oedd yn pennu'r diwrnodau parcio am ddim a gofynnir i bob Cyngor Tref roi cyhoeddusrwydd ynghylch hyn.

 

·         Cyfeiriwyd at y graffiau Galw a Chapasiti mewn perthynas â Llanelli a nodir ar dudalennau 7 ac 8 yr adroddiad.  Dywedwyd bod y galw am leoedd parcio yn ymddangos yn isel a heb ddefnydd digonol a gallai'r lleoedd parcio arhosiad byr fod yn rhatach. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd bod capasiti ym meysydd parcio Llanelli, a'i bod yn ofynnol codi tâl ar gyfer arhosiad byr yng nghanol y trefi er mwyn rhoi blaenoriaeth i siopwyr ac nid cymudwyr. Cadarnhaodd fod gwerthiant tocynnau parcio yn eithaf cyson o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

·         Mewn perthynas â gosod peiriannau talu â cherdyn, cafwyd sylw yn annog y Cyngor i ddarparu opsiynau talu a fyddai'n cynnwys taliadau 'digyffwrdd' cyn gynted â phosibl. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd mai'r bwriad oedd disodli'r peiriannau tocynnau presennol gyda thaliadau cerdyn dros â Wi-Fi ac roedd hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

 

·         Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd y byddai angen i'r arian ar gyfer y peiriannau cerdyn fod ar gael a'i bod yn ofynnol cyflwyno cais am arian cyfalaf.  Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y gwarged refeniw o'r meysydd parcio yn cael ei ddefnyddio i gynnal gwasanaethau priffyrdd a thrafnidiaeth gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL bod y Strategaeth Barcio yn cael ei chymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: