Agenda item

FERSIWN DRAFFT O STRATEGAETH ANABLEDDAU DYSGU 2018-2023.

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorydd G. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diwygio ac yn integreiddio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol ac yn rhoi pwyslais ar wella canlyniadau llesiant i bobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr.  Mae'n cyflwyno cyfres gyffredin o brosesau i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, yn cryfhau cydweithredu ac integreiddio gwasanaethau, ac yn rhoi ffocws cynyddol ar atal ac ymyrraeth gynnar. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi trefniadau cadarn ar waith sy'n annog ac yn hyrwyddo cyfranogiad dilys gan bobl, sy'n symud ffocws darparu gwasanaethau i ganlyniadau unigol er mwyn i wasanaethau gael eu cynllunio a'u harwain gan y rhai sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen gofal a chymorth.

 

Mae'r Ddeddf wedi newid yn sylfaenol y modd y mae gwasanaethau gofal a gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu yng Nghymru, ac mae'n seiliedig ar nifer o egwyddorion:-

 

·       Llais a rheolaeth – sicrhau bod yr unigolion a'u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddynt dros gyrraedd y canlyniadau sy'n eu helpu i sicrhau eu llesiant;

·       Atal ac ymyrraeth gynnar – cynyddu gwasanaeth atal gyda'r gymuned i leihau'r angen am ofal a reolir yn barhaus.

·       Llesiant – cefnogi pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth;

·       Cyd-gynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran wrth lunio a darparu gwasanaethau.

 

Mae'r fersiwn ddrafft o Strategaeth Anableddau Dysgu ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn croesawu egwyddorion y Ddeddf ac yn ymgorffori'r ymgysylltu blaenorol a wnaed gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr/rhieni ac eraill. Ymgynghorir yn ffurfiol hefyd ynghylch fersiwn ddrafft o'r strategaeth.

 

Mae Bwrdd y Rhaglen Anableddau Dysgu Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn yr Asesiad Poblogaeth, ynghyd â chwrdd â'r gofynion cenedlaethol a amlinellir uchod ac arwain y gwaith newid o ran y gwasanaeth anableddau dysgu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwaith y Bwrdd yn seiliedig ar weledigaeth ar y cyd i ddatblygu model gofalu integredig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr ar draws y rhanbarth. Mae'n defnyddio modelau sy'n cael eu gweithredu drwy'r strategaethau Anableddau Dysgu lleol ym mhob ardal yn y sir. 

 

Bydd Strategaeth Sir Gaerfyrddin yn sicrhau, o fewn cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol, fod llais y bobl leol sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac sydd ei angen yn cael ei nodi a bod cynllun y gwasanaethau lleol yn cael eu datblygu i adlewyrchu hyn.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith yn yr adroddiad fod trafnidiaeth yn parhau i fod yn her, a hynny oherwydd natur wledig Sir Gaerfyrddin, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd Ceir Cefn Gwlad a gwasanaethau Ceir Ambiwlans Cymru yn cael eu defnyddio. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod nifer o fentrau trafnidiaeth yn y rhanbarth. Mae angen inni ganolbwyntio ein rhwymedigaethau statudol ar y rhieny sydd â'r angen mwyaf. Cynigir cymorth o ran cael mynediad i ysbytai, fodd bynnag, nid yw'r gwasanaeth ceir ambiwlans yn cael ei ddefnyddio'n aml a chytunodd y swyddogion ar gynnwys y sylwadau yn y strategaeth;

·       Cyfeiriwyd at fyw'n annibynnol a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai modd i'r Awdurdod roi blaenoriaeth i gais cynllunio sy'n cael ei gyflwyno gan rieni plentyn ag anableddau dysgu. Cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn yr Is-adran Gynllunio o ran hyn a byddant yn ceisio gwneud y cysylltiadau hynny'n gryfach;

·       Mynegwyd pryder ynghylch yr anawsterau roedd y rheiny ag anableddau dysgu yn eu hwynebu o ran gweld Meddyg Teulu mewn rhai ardaloedd yn y sir a gofynnwyd i'r swyddogion beth y gellir ei wneud er mwyn iddynt gael blaenoriaeth i weld y doctor. Dywedodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant Cymunedol wrth y Pwyllgor fod creu rhaglen ranbarthol ar gyfer anableddau dysgu a chael mynediad i ofal iechyd yn flaenoriaeth o'r radd flaenaf. Ychwanegodd fod gan unrhyw un ag anabledd dysgu hawl i gael gwiriad iechyd blynyddol;

·       Tynnwyd sylw at y ffaith fod angen cymorth ychwanegol ar y rheiny sydd ag anableddau dysgu os oes disgwyl iddynt gael mynediad i'r gwasanaethau eu hunain. Rhoddodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd wybod i'r Pwyllgor fod y Gr?p Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu i edrych ar Strategaeth ynghylch Awtistiaeth, ac y byddai'n rhoi adborth ynghylch y sylwadau hynny.  Ychwanegodd fod llawer o fathau gwahanol o gymorth ar gael megis negeseuon atgoffa a thechnoleg gymorthedig;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod 17% o ddefnyddwyr gwasanaeth anableddau dysgu yn 2014/15 yn byw mewn Cartrefi Gofal yn Sir Gaefyrddin a gofynnwyd i'r swyddogion a ydynt yn fodlon ar y ffigwr hwnnw. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad yw'r swyddogion yn fodlon ar y ffigwr. Mae'r Cyfarwyddwr yn ymrwymedig i leihau'r rhif ac mae'n un o flaenoriaethau'r adran.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1     derbyn yr adroddiad;

 

6.2     bod swyddogion Is-adran Flaen-gynllunio yr Awdurdod yn cael           eu gofyn i ystyried cynnwys y ddarpariaeth o ran rhoi           blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ag anableddau dysgu yn y

CDLl;

 

6.3     bod eitem yn cael ei rhoi ar agenda'r cyfarfod nesaf ynghylch y            CDLl ynghyd â'r problemau a wynebir yn ystod y broses gynllunio           gan bobl ag anableddau dysgu, a bod swyddogion o'r Is-adran           Flaen-gynllunio yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau