Agenda item

CANOL TREF LLANELLI - ADFYWIO

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad am waith adfywio yng Nghanol Tref Llanelli. Mae hwn yn cyd-fynd â gwaith Tasglu Llanelli a oedd wedi ceisio ysgogi twf a buddsoddiad yng nghanol y dref dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd hynny'n cynnwys cefnogi masnachwyr, lleihau nifer yr eiddo gwag a masnachol, rhoi hwb i fusnesau, hyrwyddo canol y dref fel lle i fyw, gweithio, siopa ac ymweld ag ef, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a chan sicrhau ei fod yn lân ac yn hygyrch i bawb.

 

Nododd y Pwyllgor fod y mentrau/cronfeydd canlynol wedi'u sefydlu/sicrhau i helpu i gyflawni'r nodau a'r cynigion adfywio ar gyfer canol tref Llanelli a'r sir gyfan:-

Ø  Darparu rhaglen Stryd Cyfleoedd;

Ø  Cynllun Benthyciadau Canol Tref;

Ø  Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin;

Ø  Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewid Sir Gaerfyrddin;

Ø  Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio.

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod y cyflwyniad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn am Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd nad oedd y cynlluniau'n benodol i Lanelli a'u bod ar gael yn y sir gyfan. Cyfanswm y cyllid a oedd ar gael oedd £500,000, ac yr oedd unrhyw ddyfarniad o'r grant yn amodol ar nifer o feini prawf cymhwyso.

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr adeilad eglwys sydd wedi'i ddifrodi gan dân yn Stryd Murray, Llanelli, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y gallai ymchwilio i'r sefyllfa bresennol o ran yr eiddo hwnnw.

·       Cyfeiriwyd at hygyrchedd canol y dref ar gyfer beicwyr a gofynnwyd am eglurdeb ynghylch y sefyllfa bresennol o ran llunio mapiau gwybodaeth sy'n cyfeirio beicwyr o'r llwybr arfordirol i ganol y dref. Cadarnhawyd, er bod nifer o bwyntiau mynediad at ganol y dref wedi'u creu, fod rhaid gwneud gwaith ychwanegol i hysbysebu'r llwybrau hynny.

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden fod yr Awdurdod yn paratoi strategaeth feicio sir gyfan. Yr oedd hynny'n cynnwys sefydlu gr?p beicio sy'n ynnwys SUSTRANS, Grwpiau Gwirfoddol a'i Is-adran Cyfathrebu gyda'r nod o ddatblygu dull cydlynus tuag at feicio yn y Sir, a byddai hynny'n cynnwys cyhoeddi map beicio.

Yn deillio o'r uchod, cyfeiriwyd at gynnwys sefydliadau allanol megis y Gymdeithas Dreftadaeth er mwyn cael cyswllt â thwristiaeth ac annog mwy o ymwelwyr i ddod i ganol y dref i hyrwyddo atyniadau megis Plas Llanelly a Pharc Howard ar yr hysbysfyrddau gwybodaeth am dreftadaeth sydd yn yr ardal.

·       Cyfeiriwyd at yr effaith y gallai'r ardrethi busnes masnachol ei chael ar gynigion ailddatblygu canol y dref. Cadarnhawyd, yn dilyn ymarfer ailbrisio a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ailbrisio ym mis Ebrill y llynedd, fod lefel yr ardrethi ar gyfer eiddo yng nghanol y dref wedi lleihau'n sylweddol, hyd at ddwy ran o dair mewn rhai achosion. Yr oedd un o'r gostyngiadau mwyaf yng Nghymru yn Stryd Stepney a Stryd Vaughan.

·       Cyfeiriwyd at y gwaith sy'n cael ei wneud i adnewyddu eiddo yng nghanol y dref ac a yw'r Cyngor, fel landlord, wedi mabwysiadu gofyniad bod tenantiaid yn hyrwyddo dwyieithrwydd yn eu harwyddion ac ati.  Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y byddai'n adolygu'r sefyllfa bresennol o ran gofynion y cyngor ar gyfer dangos arwyddion dwyieithog ac ati ar safle unrhyw siop a osodir fel rhan o gynllun Adfywio Tref Llanelli ac yn rhoi gwybod i aelodau'r Pwyllgor am y canlyniad.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am yr amser sydd ei angen er mwyn prosesu ceisiadau am Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd mai'r gobaith oedd y gallent gael eu prosesu o fewn mis ar ôl dod i law, yn amodol ar yr holl wybodaeth angenrheidiol gan yr ymgeisydd wrth wneud y cais.

·       Cyfeiriwyd at Gam 3 Benthyciadau Canol Tref ac a oed ar gael i'w dyrannu yn Rhydaman. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd mai dyna oedd y sefyllfa, ond nid oedd dim cais wedi'i dderbyn hyd yn hyn i'w wario ar brosiectau yn Rhydaman.

Yn deillio o'r uchod, gofynnwyd a ellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y sefyllfa yn Rhydaman. Atgoffwyd y Pwyllgor hefyd fod Arweinydd y Cyngor, yng nghyfarfod y Cyngor ar 14 Chwefror, wedi rhoi gwybod i'r Cyngor am waith y tasgluoedd a sefydlwyd ar gyfer canol trefi Llanelli a Rhydaman a hefyd am waith gr?p Datblygu Tref Caerfyrddin. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y gallai drefnu cael cyflwyniad mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol am waith adfywio ar gyfer Rhydaman a Chaerfyrddin.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau