Agenda item

CYFLWYNIAD GAN LINK AR CERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD

Cofnodion:

Croesawyd Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Asset Services gan y Cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad ar Gerrig Milltir Allweddol a Chynnydd yr is-gronfeydd.

 

Cyflwynodd Ms Jones restr o ddyddiadau posib i'r Pwyllgor ar gyfer Cerrig Milltir Allweddol er mwyn sefydlu is-gronfeydd y Bartneriaeth. Byddai'r cronfeydd hyn yn diwallu anghenion yr awdurdodau sy'n buddsoddi, ac yn eu galluogi i roi eu strategaethau dyrannu asedau amrywiol ar waith. Adroddwyd bod dyddiad i gytuno'r is-gronfa gychwynnol, a glustnodwyd ar gyfer 28 Mawrth 2018, wedi'i ohirio a rhagwelwyd y byddai hyn bellach yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â chymeradwyo prosbectws y gronfa, mewn cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor a drefnir ym mis Mai 2017.  Byddai Link yn parhau i drafod gyda Rheolwyr Buddsoddi a chynigiwyd y byddai'r cais i'r FCA yn cael ei gyflwyno erbyn 31 Mai 2017, ac y byddai'r Gronfa'n lansio ym mis Medi/Hydref 2018.

 

Dywedodd Ms Jones y byddai Link, ar yr un pryd â'r is-gronfa gychwynnol, yn bwrw ymlaen gydag is-gronfeydd Cyfran 2 a Chyfran 3; y mae'r naill wedi'i glustnodi i lansio ym mis Tachwedd 2018 a'r llall ym mis Chwefror 2019. 

 

Wrth gyfeirio at ei chyflwyniad, soniodd Ms Jones am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a bod y cynnig ar gyfer cyflwyno'r gronfa gychwynnol wedi'i ystyried gan Weithgor y Swyddogion (GS) ym mis Chwefror 2018 a chynnig cychwynnol am gronfa Fyd-eang a Rhanbarthol, a dewis ychwanegol hefyd ar gyfer cronfa Fyd Eang yn unig. Ar ôl ystyried yr adborth a dderbyniwyd gan y GS, cyflwynodd Link bum dewis diwygiedig i'r Gr?p ym mis Mawrth 2018.  Dau gynnig terfynol a drafodwyd gyda Thrysoryddion yr wyth Awdurdod, sef:

 

·         Dewis 1a - dau reolwr presennol ac un rheolwr newydd - Link i benodi rheolwyr (Global Core Fund)

 

·         Dewis 4a, saith rheolwr newydd (pum byd eang a dau ranbarthol) - Russell i gael ei benodi fel prif reolwr y prosbectws a dyrannu gwaith i'r saith rheolwr arall.

 

Awgrymodd Mr Chris Lee, er mwyn cael eglurdeb, y dylai'r ddau gynnig gael eu hystyried fel cynigion Byd-eang Alffa Uchel.

 

Mynegodd Mr Dafydd Edwards fod yr amserlen wreiddiol a gynhyrchodd Link wedi'i diwygio er mwyn sicrhau fod y cynigion yn fwy cynhwysfawr. Byddai hyn yn galluogi i Aelodau'r Pwyllgor a swyddogion gael y wybodaeth berthnasol a chael digonedd o amser i adrodd yn ôl a thrafod y cynigion gyda'u cronfeydd perthnasol.

 

O ran cynnydd arall, soniwyd i'r Pwyllgor fod Link wedi cysylltu â thri rheolwr buddsoddi ynghylch yr is-gronfa a bod cyfarfodydd dygnwch wedi'u trefnu. Yn ogystal, roedd y prosbectws drafft wedi'i gwblhau a'i drosglwyddo i Burges Salmon er mwyn adolygu a chael sylwadau, ac ar ôl cael mewnbwn pellach gan Eversheds, fe gai'r prosbectws ei drafod gan y Pwyllgor.  Yn ogystal, cynhaliodd Link a Russell Investments sesiynau briffio gydag wyth Pwyllgor Cyfansoddol y Gronfa Bensiwn.

 

Wrth gasglu, soniodd Ms Jones wrth y Pwyllgor am gamau nesaf y broses, fel manylwyd yn y cyflwyniad, a rhoddodd gyfle i holi cwestiynau. Yna, diolchodd y Cadeirydd i Ms Jones am fynychu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r cyflwyniad yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol: