Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN PROSSER I'R CYNGHORYDD DAVID JENKINS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL AR GYFER ADNODDAU

“Yng nghyllideb Plaid a’r aelodau annibynnol ar gyfer 2018 / 2019, roeddech wedi cyhoeddi cynnydd yn uwch na chwyddiant o 10 ceiniog y pryd am brydau ysgol.

 

Ar ôl imi gwestiynu pa mor ddoeth yr oedd y penderfyniad hwn a'r effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar deuluoedd sy'n gweithio'n galed yn Sir Gaerfyrddin, safodd yr aelod o'r bwrdd gweithredol dros addysg a gwneud tro pedol ar yr hyn roeddech wedi'i ddweud, ac rwy'n dyfynnu, “Roeddem wedi penderfynu eleni na fyddai cynnydd o ran cost prydau ysgol, ond yn y trafodaethau a gefais gyda'r cyfarwyddwr a'r swyddogion, derbyniwyd y llynedd y dylai fod cynnydd o 10 ceiniog. Wel, gallaf ddweud wrthych fy mod i'n ymdrechu, ynghyd â'r swyddogion, i gadw cost prydau ysgol yn £2.50. Nid wyf yn credu y byddwn yn gweld cynnydd o ran cost prydau ysgol eleni. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau hynny.”

A allwch chi gadarnhau i ni ac i drigolion Sir Gaerfyrddin faint y bydd yn rhaid i rieni ei dalu yn 2018 / 2019 am bryd eu plentyn, neu a fyddwch yn gwneud tro pedol ar eich tro pedol?”

 

Cofnodion:

“Yng nghyllideb Plaid-Gr?p Annibynnol ar gyfer 2018/19, cyhoeddwyd gennych gynnydd uwch na chwyddiant o 10c y pryd ar gyfer ciniawau ysgol. Wedi imi gwestiynu doethineb y penderfyniad hwn a'i effaith ar deuluoedd gweithgar Sir Gaerfyrddin, sefyllodd yr aelod o'r bwrdd gweithredol dros addysg ar ei draed a gwneud tro pedol o ran yr hyn ddywedsoch chi, ac rwy'n dyfynnu "Roeddem wedi penderfynu eleni na fyddai cynnydd ym mhrisiau prydau ysgol, ond mewn trafodaethau rwyf wedi eu cael gyda'r cyfarwyddwr a'r swyddogion, cafodd ei basio y llynedd y dylai cynnydd o 10c fod wedi bod. Wel gallaf ddweud wrthych nawr fy mod yn ceisio fy ngorau gyda'r swyddogion i gadw pris y prydau ysgol yn £2.50.  Nid wy'n credu y byddwn ni'n gweld cynnydd ym mhris prydau ysgol eleni. Dyna'r hyn rydym yn gweithio'n galed i'w gyflawni." A allwch chi gadarnhau i ni a thrigolion Sir Gaerfyrddin pa bris y bydd yn rhaid i rieni ei dalu yn 2018/19 ar gyfer prydau eu plant, neu a fyddwch chi'n gwneud tro pedol ar eich tro pedol?”

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

“Yn eich cwestiwn rydych yn datgan “Yng nghyllideb Plaid-Gr?p Annibynnol ar gyfer 2018/19, cyhoeddwyd gennych gynnydd uwch na chwyddiant o 10c y pryd ar gyfer ciniawau ysgol" a chwestiynwyd gennych ddoethineb y penderfyniad hwn. Hoffwn nodi yn y lle cyntaf fod y cynnydd rydych yn cyfeirio ato wedi'i gynnwys fel rhan o broses pennu'r gyllideb yn 2016, pryd yr oedd y gyllideb ar gyfer 2017/18 yn cael ei hystyried a'i phennu. Yn eich araith rhoddwyd pwys o'r mwyaf gennych ar y ffaith bod hwn yn gynnydd o 10c uwch na chwyddiant ar bob pryd, gan grybwyll yr effaith byddai'n ei chael ar deuluoedd gweithgar Sir Gâr. Gofynnaf i chwi ai'r un teuluoedd yw'r rhain â'r rhai oedd yn byw yn Sir Gaerfyrddin yn 2015, pryd y bu i'r Awdurdod Lleol, ym mis Mawrth y flwyddyn honno, dan arweiniad y Gr?p Llafur bryd hynny, wrth bennu'r gyllideb ar gyfer 2015/16 a 2016/17, hefyd gynyddu pris prydau ysgol 10c uwch na chwyddiant. Mae hefyd yn werth nodi eich bod, yn eich ymateb yn ystod y drafodaeth ar y gyllideb, wedi cynnig cynyddu'r Dreth Gyngor i 4.95%, a thrwy hynny roi baich ychwanegol o £400K ar deuluoedd gweithgar Sir Gaerfyrddin. Yn ôl ym mis Mawrth 2015 y Cynghorydd Jeff Edmunds oedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, â chyfrifoldeb dros bennu'r gyllideb, cyn dod yn Arweinydd y Gr?p Llafur ym mis Mai'r flwyddyn honno, a wnaeth orfod ildio maes o law i lefydd ar feinciau'r wrthblaid. Mae'n ymddangos i mi bod yr aelodau gyferbyn yn colli'u cof, ddim yn siarad â'i gilydd, neu wedi penderfynu cofio'r hyn sy'n gyfleus yn unig mewn perthynas â digwyddiadau'r gorffennol.  Yn ystod y broses o bennu cyllideb 2015, datgelodd Plaid fod swm o £20 miliwn heb ei neilltuo yn y Gronfa Gyfalaf a Glustnodwyd. Nid oedd y weinyddiaeth Lafur ar y pryd fel petaent yn ymwybodol o fodolaeth y swm a doedd dim syniad ganddynt at ba ddiben y dylid defnyddio'r arian. Pan ddaeth Plaid yn rhan o'r weinyddiaeth ym mis Mai y flwyddyn honno, penderfynwyd y byddai'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i roi hwb i adfywio economaidd yn y sir; proses sy'n cael ei chynnal ac yr ychwanegir ati drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Felly nid wyf yn credu y gallwn ddysgu llawer gan allu ariannol Llafur. Fodd bynnag, yr wyf yn crwydro, ac i ddychwelyd at eich cwestiwn, rydych yn cyfeirio at sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, gan ddweud ei fod wedi gwneud tro pedol ar yr hyn a ddywedais i. Fy ymateb i hynny yw ein bod, yn y cyfarfod ar 21 Chwefror, wedi pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19, a bod y gyllideb honno yn cynnwys, ar y pryd, y cynnig i ychwanegu 10c at bris prydau ysgol. Fodd bynnag, mae'n debyg bod y Cynghorydd Davies wedi bod yn poeni am y cynnydd arfaethedig hwn ers peth amser a'i fod yn teimlo'n gryf ynghylch gwyrdroi'r cynnydd hwn, ac wedyn aeth ymlaen i ddweud "Wel gallaf ddweud wrthych nawr fy mod yn ceisio fy ngorau gyda'r swyddogion i gadw pris y prydau ysgol yn £2.50.  Nid wy'n credu y byddwn ni'n gweld cynnydd ym mhris prydau ysgol eleni. Dyna'r hyn rydym yn gweithio'n galed i'w gyflawni." Os gall yr Adran Addysg ailedrych ar ei chyllideb bresennol i negyddu'r angen am y cynnydd o 10c y pryd, rwy'n si?r y byddaf i a'm cyd-aelodau ar y Bwrdd Gweithredol yn gwneud pob ymgais i gefnogi'r Cynghorydd Davies i gyflawni ei amcan. Mae byd cyllid cyhoeddus yn un anwadal, er enghraifft bu i Lywodraeth Cymru ganfod cyllid ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol ar ôl Setliad Cyllidebol Terfynol mis Rhagfyr. Rydym ni fel sir wedi cael £2.2 miliwn ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd, ac mor hwyr â dechrau mis Mawrth, cafodd £880K ychwanegol ei neilltuo i ysgolion i helpu i gynnal a chadw ysgolion. Fel y gallwch weld, mae pethau'n gallu newid ac mae'n rhaid inni addasu i hynny. Ym mharagraff olaf eich cwestiwn rydych yn gofyn "A allwch chi gadarnhau i ni a thrigolion Sir Gaerfyrddin pa bris y bydd yn rhaid i rieni ei dalu yn 2018/19 ar gyfer prydau eu plant, neu a fyddwch chi'n gwneud tro pedol ar eich tro pedol?”  Mewn ymateb i hynny, byddwn yn dweud bod y cynnydd o 10c mewn prydau ysgol yn dal yn rhan o gyllideb 2018/19 ar hyn o bryd, ond os gall y Cynghorydd Glynog Davies, ar y cyd â'r Cyfarwyddwr ac Uwch-swyddogion yr Adran Addysg, gyflawni ei uchelgais, efallai y bydd yn bosibl ailedrych ar y cynnydd arfaethedig mewn prydau ysgol ym mlwyddyn ariannol 2018/19.  Yn olaf rwyf am ofyn cwestiwn ichi, sef, os ydych yn gwneud tro pedol ar eich tro pedol, onid ydych yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oeddech yn y dechrau? A dyna'n union lle'r wyf i.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd Prosser y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"Gofynnaf ichi, mewn difrif, ailystyried y cynnydd mewn prydau ysgol ar gyfer rhieni gweithgar Sir Gaerfyrddin.”

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

“Ar ddiwedd y dydd, y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod y cynnydd o 10c yn sefyll, ond os gall y Cynghorydd Glynog Davies, mewn cydweithrediad â phenaethiaid ei adran a'r cyfarwyddwr, ailnegodi eu cyllidebau a dychwelyd atom â gwell cynnig, byddaf yn hollol hapus i dderbyn hynny.”

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau