Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - ETTO'S COFFEE SHOP, 25 HIGH STREET, LLANDYBIE, SA18 3HX

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am Drwydded Safle ar gyfer Etto's Coffee Shop, 25 Stryd Fawr, Llandybie, SA18 3HX i ganiatáu'r canlynol:

 

Cyflenwi Alcohol

Dydd Sul tan ddydd Iau 12:00 – 22:00

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 12:00 – 23:00

Oriau Agor:

Dydd Sul tan ddydd Iau 07:00 – 22:30

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 07:00 – 23:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·        Atodiad A – Copi o'r cais

·        Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·        Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·        Atodiad D - Sylwadau gan bobl eraill

 

Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:

 

·        Cynllun yn dangos lleoliad y safle

·        Gohebiaeth gan Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu ei wrthwynebiadau yn ôl ar ôl dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch cynnwys yr 18 o amodau a awgrymwyd ar y Drwydded, pe caniateir.

·        Gohebiaeth gan yr ymgeisydd dyddiedig 17 Chwefror, yn derbyn yr 18 o amodau a awgrymwyd gan yr Heddlu.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, a chadarnhaodd yn dilyn hynny, bod Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrth yr Awdurdod Trwyddedu ei fod yn tynnu ei sylwadau yn ôl ar sail cytundeb a wnaed gyda'r ymgeisydd ynghylch cynnwys yr 18 o amodau a awgrymwyd ar y Drwydded. O ganlyniad i'r cytundeb hwnnw, awgrymodd pe bai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais fel y cyflwynwyd, byddai'r 18 o amodau hynny yn disodli'r amodau a oedd ynghlwm â'r atodlen weithredu wreiddiol.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at Atodiad D yr adroddiad ac at y sylwadau a gafwyd gan Gyngor Cymuned Llandybie a nodai er bod y cyngor yn cefnogi'r cais, roedd o'r farn y dylid gosod cyfyngiad ar werthu alcohol tan ar ôl 6.00 p.m. pan fyddai'n llai tebygol y byddai plant heb gwmni oedolyn yn bresennol pan gaiff alcohol ei werthu. Yn dilyn y sylwadau hynny, roedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi ystyried darpariaethau Paragraff 91 o Bolisi Trwyddedu'r Cyngor a rhannau 14.46 ac 14.49 y Canllawiau Statudol sy'n ymwneud â mynediad plant at safleoedd trwyddedig, ac roedd o'r farn nad oedd unrhyw ofyniad i osod amodau ychwanegol ar y Drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw a oedd yn cefnogi'r cais ac yn cyfeirio at y modd rhagorol y mae'r busnes yn gweithredu ar hyn o bryd, gan ddarparu swyddi ychwanegol a denu mwy o bobl i bentref Llandybie. Ni chafodd pryderon Cyngor Cymuned Llandybïe eu cefnogi.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r cefnogwr ynghylch ei sylwadau.

 

Amlinellodd yr ymgeisydd i'r Is-bwyllgor ei resymau dros geisio trwydded safle er mwyn galluogi cwsmeriaid i fwyhau diodydd alcoholaidd â the prynhawn/ byrbrydau gyda'r hwyr ac ati mewn amgylchedd t? coffi. Ar hyn o bryd mae'r safle yn gweithredu fel t? coffi sy'n darparu ar gyfer amrywiaeth o gwsmeriaid gan gynnwys teuluoedd â phlant. Gan fod yr ymgeisydd yn gwerthfawrogi'r gr?p hwnnw o gwsmeriaid yn fawr, nid yw am golli'r cwsmeriaid hynny drwy newid hanfod y busnes i fod yn fan yfed arall. I'r perwyl hwnnw, ni fyddai'n goddef unrhyw fath o ymddygiad afreolus a gallai ystyried codi prisiau alcohol i atal y fath sefyllfa rhag digwydd. 

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 o Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Safle ar gyfer Etto's Coffee shop, 25 Stryd Fawr, Llandybïe i werthu alcohol yn ystod yr oriau y gofynnwyd amdanynt yn cael ei ganiatáu yn amodol ar atodi'r amodau trwyddedu y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd, yr Awdurdod Trwyddedu a Heddlu Dyfed-Powys i'r drwydded.

 

Y RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Nid oedd y safle wedi cael trwydded o'r blaen o dan Ddeddf 2003
  2. Nid oedd dim hanes o gamau gorfodi materion trwyddedu yn ymwneud â'r safle
  3. Nid oedd yr un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu caniatáu trwydded ar gyfer gwerthu alcohol, yn unol â'r amodau y cytunwyd arnynt gyda'r ymgeisydd.
  4. Un gwrthwynebiad yn unig oedd wedi dod i law ynghylch yr oriau agor ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth a oedd yn mynnu'r fath gyfyngiad 
  5. Roedd yr aelodau yn hapus bod y broses adolygu trwydded ar waith i ddiogelu rhag ofn y byddai unrhyw broblemau yn y dyfodol ynghylch y drwydded.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol ac wedi ystyried y polisi trwyddedu a'r canllawiau statudol.

Dogfennau ategol: