Agenda item

ADRODDIAD CWYNION A CHANMOLIAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION 01/04/17 TO 30/09/17.

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill hyd at 30 Medi, 2017 yn crynhoi'r nifer a'r math o gwynion a chanmoliaethau oedd wedi dod i law ynghyd â'r maes gwasanaeth yr oeddynt yn perthyn iddynt.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Dywedodd y Swyddog Adolygu Perfformiad wrth y Pwyllgor am y ddau gam yn y broses gwynion, mewn ymateb i gwestiwn am yr amserlen o ran prosesu ac ystyried cwyn. Roedd hynny'n cynnwys anfon llythyr cydnabod at yr achwynydd cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl i'r g?yn ddod i law, yna bod swyddog ymchwilio yn cael ei apwyntio a fyddai'n cael 10 niwrnod gwaith i archwilio a cheisio datrys y g?yn. Os na ellid datrys y g?yn o fewn yr amserlen honno, gellid rhoi caniatâd i gael estyniad mewn amgylchiadau eithriadol, yn amodol ar gael caniatâd yr achwynydd. Yn dilyn y datrysiad yn y cam cyntaf, os nad oedd yr achwynydd yn fodlon ar y canlyniad, gallai'r g?yn wedyn symud i'r ail gam.

·         Cyfeiriwyd at lefel gymharol isel y cwynion a oedd wedi dod i law'r Adran, a mynegwyd y farn, am amrywiaeth o resymau, efallai fod llawer sy'n cael gofal cymdeithasol eu hunain, neu eu teuluoedd, yn amharod i gyflwyno cwyn ffurfiol. Gofynnwyd a oedd y term 'cwyn' ynghyd â'r diffiniad presennol a'r broses yn briodol o ran annog a chrynhoi'r holl bryderon a/neu anfodlonrwydd ynghylch lefel y gofal a ddarperir.

·         Cyfeiriwyd hefyd at bwysigrwydd crynhoi'r holl gwynion a chanmoliaethau er mwyn llywio'r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd a datblygu polisïau yn y dyfodol. I'r perwyl hwnnw, mynegwyd pryder nad oedd yr adroddiad, fel y'i cyflwynwyd, yn rhoi darlun trosfwaol a chynhwysfawr o'r holl faterion sy'n ymwneud â chwynion a hynny oherwydd ei fod wedi nodi cwynion/canmoliaethau a wnaed am y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a ddarparwyd gan yr awdurdod yn unig, yn hytrach na chynnwys cwynion o fewn yr adran, a hynny drwy gyfrwng prosesau gwasanaethau eraill a ddarperir yn uniongyrchol gan gartrefi gofal preifat a darparwyr gofal cartref. Felly awgrymwyd y dylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys data am gwynion/canmoliaethau yn y sector cyfan. 

·         Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth o ran pecynnau gofal a gofynnwyd a ellid gofyn i bobl gwblhau ffurflen adborth tua 6 wythnos ar ôl i'r ddarpariaeth ddechrau er mwyn cael cipolwg ar brofiad cychwynnol pobl o'r gofal a ddarperir.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y wybodaeth ar hyn o bryd yn cael ei chasglu gan ddarparwyr gofal yn unol â gofynion AGGCC a hefyd gan y Tîm Comisiynu yn y Cyngor yn rhan o'i rôl monitro contractau. Felly gellid cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol. Yn rhan o'r datganiad i Lywodraeth Cymru, roedd yr awdurdod hefyd mewn cyswllt â defnyddwyr gwasanaeth a byddai'n gwneud arolwg ychwanegol yn rhan o'r datganiad. Cadarnhawyd y gallai'r Bwrdd Arferion a Phrosesau drafod y cwestiwn ynghylch rhoi ffurflenni adborth ynghylch pob pecyn gofal.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch anfon anfonebau yn hwyr ar gyfer gofal, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y sefyllfa wedi cael ei chydnabod yn faes sy'n peri pryder gan yr Adran a bod y mater hwn yn cael sylw. Fodd bynnag, cadarnhawyd nad oedd anfon anfonebau yn hwyr, ar y cyfan, wedi arwain at beidio â thalu anfonebau.

 

Roedd un o'r prif faterion a nodwyd mewn perthynas â thaliadau hwyr yn gysylltiedig ag anfodlonrwydd o ran lefel y gofal a ddarperir. Yn hynny o beth, roedd gwaith yn cael ei gyflawni i wella cyfathrebu â defnyddwyr gofal i egluro lefel y gofal a fydd yn cael ei darparu a'r goblygiadau o ran y gost.

·         Wrth ymateb i gwestiwn oedd yn ymwneud ag achwynwyr mynych, cadarnhawyd bod yr holl gwynion oedd yn dod i law'r gwasanaeth yn cael eu hystyried ac yr ymchwilir iddynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1

Derbyn yr adroddiad

6.2

Bod adroddiadau ynghylch cwynion a chanmoliaethau yn y dyfodol yn cynnwys darlun trosfwaol a chynhwysfawr o'r holl faterion sy'n gysylltiedig â chwynion, sy'n cael eu crynhoi yn yr adran a thrwy brosesau eraill yn ogystal â'r rheiny sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chartrefi gofal preifat a darparwyr gofal cartref.

6.3

Ystyried gofyn i bobl sy'n cael pecynnau gofal a ddarperir gan yr awdurdod lenwi ffurflenni adborth ynghylch eu profiadau cychwynnol o'r gofal a ddarperir.

 

 

Dogfennau ategol: