Agenda item

TREFNIADAU LLYWODRAETHU RHANBARTHOL, INTEGREIDDIO GWASANAETHAU A CHRONFEYDD AR Y CYD.

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch y gwaith a wneir o dan fantell Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 am Integreiddio Gwasanaethau, Cronfeydd ar y Cyd a Threfniadau Llywodraethu rhanbarthol. Nodwyd o dan y Ddeddf ei bod yn ofynnol i'r holl awdurdodau lleol sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd ynghylch:

 

-       arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal (erbyn 6 Ebrill 2018)

-       arfer eu swyddogaethau o ran cymorth i deuluoedd

-       Swyddogaethau penodedig a arferir ar y cyd mewn ymateb i Asesiadau o'r Boblogaeth, lle roedd trefniadau o'r fath yn cael eu hystyried yn briodol.

 

Yn unol â'r gofynion uchod nodwyd bod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, a sefydlwyd o dan Ran 9 o'r Ddeddf, wedi rhoi blaenoriaeth i sefydlu trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd i gartrefi gofal pobl h?n erbyn y terfyn amser statudol, ac roedd y dull hwnnw'n gyson mewn llefydd eraill yng Nghymru.

 

Dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod nifer o ddatblygiadau wedi digwydd ar ôl i'r adroddiad gael ei baratoi a bod angen hysbysu'r Pwyllgor amdanynt. Yn gyntaf, byddai'r gronfa ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal yn gweithredu mewn modd rhithwir i ddechrau oherwydd bod pryderon wedi codi ynghylch nifer o broblemau yn cynnwys traws-gymorthdaliadau, costau gweinyddol ar drafodion, goblygiadau archwilio ac olrhain cyllid pecynnau gofal ledled y tair sir. Yn ail, roedd trefniadau cyfochrog yn cael eu gwneud ar gyfer sefydlu Tîm Cymorth Gofal Teulu Integredig rhanbarthol i atal plant rhag mynd i ofal. Yn drydydd, gan fod gan bob awdurdod yn y bartneriaeth storfeydd offer integredig, ystyrid a fyddai cael dull rhanbarthol o ran eu darpariaeth o fantais ai peidio.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sefydlu cronfa gyfun rithwir, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen fod Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am y materion a nodwyd. Er bod rhai rhanbarthau wedi penderfynu gweithredu cyllidebau ar y cyd yn rhanbarthol drwy benodi rhanbarth cynnal lle y byddai cronfeydd ar y cyd yn cael eu talu ac yna'n cael eu dychwelyd i'r cyrff sy'n cyfrannu, roedd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn ystyried bod hynny'n 'ymarfer ar bapur' ac roeddynt yn hytrach wedi penderfynu gweithredu cronfa rithwir. Byddai'r dull hwnnw'n galluogi'r bartneriaeth i werthuso a deall data a gynhyrchwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu ar lefel a dyraniad y cyllid sydd ar gael a grymoedd y farchnad. Trwy hynny byddai'n llywio'r broses gwneud penderfyniadau a chael y gwerth gorau i dalwyr y Dreth Gyngor gan hefyd archwilio gwerth yr hyn roedd y Ddeddf yn galluogi partneriaethau i'w wneud. Byddai hefyd yn galluogi trafodaethau gyda Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch y pryderon am gronfeydd ar y cyd.

 

Cadarnhaodd hefyd pe bai gorwariant yn digwydd yn y gyllideb ar y cyd, yr awdurdod unigol oedd wedi gorwario fyddai'n rhaid talu ac nid y rhanbarth.

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cael trefniadau ar y cyd ar gyfer arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal a chyfuno cyllidebau a hynny er mwyn cyrraedd y nod hwnnw erbyn 6 Ebrill, 2018. Mynegwyd siom ynghylch y diffyg manylion yn yr adroddiad yn enwedig o ran y trefniadau ar gyfer cronfa gyfun rithwir, oedd yn wahanol i ddehongliadau aelodau o gyllideb ar y cyd, a'r rheswm a roddwyd dros y trefniant hwnnw. Mynegwyd y farn y dylai'r data sydd ei angen fod ar gael yn hwylus er mwyn darparu cyllideb sylfaenol wrth gefn.

 

·         Nodwyd y byddai penderfyniad ffurfiol ar bapur yn nodi darpariaethau manwl i'r partneriaid gytuno arnynt yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor i'w ystyried yn y cyfarfod ar 5 Mawrth. Awgrymwyd oherwydd bod cyfnod cymharol fyr rhwng cyfarfod mis Mawrth a'r dyddiad cau ym mis Ebrill, y byddai o fantais i'r pwyllgor gwrdd cyn mis Mawrth er mwyn cael esboniad pellach am y cynigion gan roi sylw i'r materion posib a nodwyd yn yr adroddiad o ran rheoli risg.

 

·         Gwnaed sylwadau hefyd am ba mor anodd, rhwystredig a llafurus y gallai gweithio mewn partneriaeth fod, yn enwedig pan oedd yn rhaid i bartneriaid gydweithredu o fewn fframweithiau deddfwriaethol. Cyfeiriwyd at hanes gweithio mewn partneriaeth ledled y rhanbarth dros y chwe blynedd diwethaf a'r effaith y gallai hynny fod wedi ei chael ar adnoddau Sir Gaerfyrddin yn ariannol ac o ran staffio gan roi sylw i'w phrif rôl yn aml yn y partneriaethau hynny. Awgrymwyd y dylid cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol yn dangos pa fuddion, yn enwedig yn ariannol, roedd Sir Gaerfyrddin wedi eu cael o ganlyniad uniongyrchol i weithio'n rhanbarthol ac mewn partneriaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1

 bod yr Adroddiad yn cael ei nodi

7.2

Gwneud trefniadau i'r Pwyllgor gwrdd cyn y cyfarfod nesaf ar 5 Mawrth i drafod cyllidebau cyfun a'r risgiau cysylltiedig a nodwyd.

7.3

bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol yn manylu ar ba fuddion, yn enwedig yn ariannol, roedd Sir Gaerfyrddin wedi eu cael o ganlyniad uniongyrchol i weithio'n rhanbarthol ac mewn partneriaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

 

 

Dogfennau ategol: