Agenda item

PAPUR CYD-DESTUNOL ARWEINYDDIAETH A DATA YSGOLION - 2016/17.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Papur Cyd-destunol Arweinyddiaeth Ysgolion 2016/17, a amlinellodd rai o'r heriau y mae ein hysgolion a'r Gwasanaeth Addysg yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a rhoddodd drosolwg ar ddata cyd-destunol o ran ysgolion a threfniadau arwain fel a ganlyn:-

 

(1)  Ystadegau ysgolion

 

(a)  Nifer yr ysgolion/disgyblion

(b)  Nifer y disgyblion (Cymru)

(c)  Nifer y disgyblion mewn ysgolion Cymraeg

(d)  Nifer yr athrawon/staff cymorth (CALL)

(e)  Prydau ysgol am ddim (yr holl ddisgyblion)

(f)    Prydau ysgol am ddim (5-15 oed)

(g)  Anghenion Dysgu Ychwanegol

(h)  Absenoldeb (cynradd)

(i)    Absenoldeb (uwchradd)

(j)    Cronfeydd ariannol wrth gefn

(k)  NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant)

 

(2)  Ôl troed Ffederasiwn Ysgolion

 

(3)  Ôl troed Arweinyddiaeth/Pennaeth Dros Dro

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd i'r swyddogion am yr oedi o ran diwallu anghenion addysgol arbennig ar gyfer plant ar ôl i'r angen gael ei nodi.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaeth Addysg fod y tîm yn ymateb yn gyflym i unrhyw angen a nodir a bod unrhyw oedi yn tueddu i fod o natur benodol.  Mae cynnydd pob ysgol yn cael ei fonitro ac mae Swyddogion Cyswllt â'r Teulu yn gweithio er mwyn cynorthwyo ysgolion, teuluoedd a phlant;

·       Pan ofynnwyd iddo a oedd unrhyw dueddiadau amlwg yn y data, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor mai un o'r tueddiadau a welwyd yng Nghaerfyrddin dros y pum mlynedd diwethaf yw'r lleihad yn nifer y plant sydd â datganiad.  Mae 500 yn llai o blant â datganiad oherwydd y cymorth ychwanegol a roddir i ysgolion;

·       Pan ofynnwyd i Bennaeth y Gwasanaethau Addysg sut mae anghenion a hyfforddiant yn cael eu nodi, esboniodd fod yr Awdurdod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Rhaglen Cynnydd a bod swyddogion yn ymyrryd lle bo angen.  Ychwanegodd y Rheolwr Trawsnewid Dysgu fod yna gyfrifoldeb ar yr Awdurdod Lleol i ddatblygu rhaglen o gamau, y Fframwaith Ymgysylltu ag Ieuenctid, mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol.  Mae'r Prosiect Cymorth hefyd yn cynnig ystod o ymyriadau lle gellir nodi pobl ifanc yn CA3, CA4 a'r rhai sydd wedi gadael yr ysgol er mwyn dilyn eu cynnydd ac ymgysylltu â nhw;

·       Mynegwyd pryder y gallai fod yna ormod o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a bod hyn felly'n cael effaith ar y gyllideb. O gofio hyn, gofynnwyd i'r swyddogion beth oedd y bwriad o ran y ffedereiddio gan fod dim ond pedwar ffederasiwn ffurfiol yn y sir.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau fod hyn yn destun pryder i'r swyddogion oherwydd bod staff yn wynebu nifer o heriau a phwysau o ran gweinyddu 98 o ysgolion cynradd, ac nid yw rhai ohonynt yn gallu gweithredu o fewn y gyllideb a ddyrannwyd iddynt.  Roedd y swyddogion yn gweithio i lunio adroddiad i fynd i'r afael â'r her hon a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ei ystyried.  Pwysleisiodd fod rhaid i swyddogion ystyried pob opsiwn posibl cyn penderfynu cau ysgol;

·       Mynegwyd pryder am y trafferthion wrth recriwtio penaethiaid a fydd yn cael eu dwysáu oherwydd nifer y penaethiaid a fydd yn ymddeol dros y blynyddoedd nesaf.  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wybod i'r Pwyllgor fod 16 o athrawon yn ymgymryd â rhaglen Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ar hyn o bryd, a'r gobaith yw y byddant yn graddio ddiwedd mis Chwefror.  Mae hon yn nifer addawol yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n argoeli'n dda ar gyfer ein prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth. Mae'r rhaglen CPCP wedi cael ei mireinio a'i gwella. O hyn ymlaen, y gobaith yw y bydd dwy garfan yn graddio bob blwyddyn a bydd hynny'n sicrhau bod gennym ddigon o ddarpar benaethiaid sydd â'r cymwysterau priodol ym 'manc' penaethiaid Sir Gaerfyrddin.  Cyfaddefodd fod recriwtio penaethiaid mewn ysgolion uwchradd yn parhau i fod yn heriol.  Mae'r Awdurdod yn cymryd rhan mewn cynllun peilot Rheolwyr Busnes Ysgolion Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o ddatblygu mwy o arferion effeithiol yn ein hysgolion gan gael gwared ar lwyth gwaith diangen y Pennaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

6.2       Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol, ynghylch y camau y mae'r Awdurdod yn eu cymryd er mwyn denu mwy o bobl i swyddi athrawon a denu mwy o athrawon i ddatblygu i fod yn benaethiaid.

 

 

Dogfennau ategol: