Agenda item

TREFNIADAU TRIN A GWAREDU GWASTRAFF YN Y DYFODOL

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch trefniadau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol a oedd yn cynnwys amlinelliad o'r cynnydd a wnaed ledled y Sir.

 

Nododd yr Aelodau bod gwasanaethau ailgylchu a gwastraff presennol y Cyngor yn cael eu darparu gan CWM Environmental.  Sefydlwyd y cwmni ym 1997 yn Gwmni Gwaredu Gwastraff yr Awdurdod Lleol (LAWDC) ar gyfer y Cyngor. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2015 daeth contract pymtheg mlynedd y Cyngor gyda CWM i ben, a rhoddwyd estyniad pontio o dair blynedd i ymestyn y contract hyd at fis Mawrth 2018.  Roedd y Cyngor bellach yn y camau olaf o ystyried ei opsiynau ar gyfer sefydlu ei drefniadau rheoli gwastraff yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r broses hyd yma ac yn cynnwys dadansoddiad manwl o'r arfarniad o ddewisiadau a gynhaliwyd ar lefel strategol. Nododd yr Aelodau fod yr arfarniad o'r dewisiadau wedi nodi nifer o fanteision o ran defnyddio dull Teckal i gaffael contractau trin gwastraff newydd y Cyngor.  Ar sail canlyniadau'r arfarniad o ddewisiadau, datblygwyd achos busnes ar gyfer yr opsiwn a ffefrir.  Roedd methodoleg yr achos busnes oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.

 

Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wedi tynnu sylw'r Pwyllgor at y ffaith ers cynhyrchu'r adroddiad bod y rhan ynghylch Cynigion Llywodraethu wedi'i diweddaru i gynnwys yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fel rhan o'r aelodaeth arfaethedig ar gyfer Bwrdd Rhanddeiliaid y Cyngor. Yn ogystal, roedd yr aelodaeth arfaethedig ar gyfer Bwrdd y Cwmni Teckal wedi'i ddiweddaru i gynnwys 2 Gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol. 

 

Fel y nodir yn yr adroddiad, esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff y camau nesaf gan nodi yn ystod datblygu'r arfarniad o ddewisiadau a'r achos busnes, fod y cyngor wedi elwa ar gyngor technegol, cyfreithiol ac ariannol allanol ac i'r perwyl hwnnw, argymhellwyd symud tuag at y cam gweithredu ar gyfer y cwmni Teckal newydd.

 


Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod Cwm Environmental yn mynd ati'n weithredol i gystadlu am gontractau allanol gan gynnwys contractau diweddar gydag Awdurdodau Lleol eraill gan gynnwys trin gwastraff o gynllun Casglu Gwastraff Gardd Cyngor Abertawe. 

  • Yn dilyn yr uchod cafwyd ymholiad ynghylch meincnodi, esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yr anawsterau o ran meincnodi yn erbyn busnesau eraill oherwydd natur a nifer y gwasanaethau a ddarperir a bodolaeth trefniadau traws-uned mewn perthynas ag ariannu.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y trefniadau contract allanol yn lleihau risg sefydliadol ac wrth edrych ymlaen, byddai angen gwaith ystadegol ychwanegol i bennu 'gwerth gorau' ac fel cwmni ceisio ennill y fantais orau posibl.

 

  • Gofynnwyd a fyddai'r cwmni yn cystadlu'n deg gyda'r sector preifat.  Cytunodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod hwn yn ffactor pwysig a sicrhaodd y Pwyllgor y byddai achos busnes yn cynnwys agweddau amlwg o ran diogelu swyddi a busnesau lleol.

 

  • Yn dilyn ymholiad ynghylch y trefniadau dros dro, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff mai'r bwriad oedd dechrau ar y trefniadau newydd ym mis Ebrill 2018.  Yn ogystal, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, yn dilyn cyngor cyfreithiol, ac oherwydd natur busnes Teckal, ni fyddai rheidrwydd dilyn proses gaffael, a byddai hyn yn cyflymu'r broses. 

 

  • Dywedwyd nad oedd dim o'r elw a wnaed gan Cwm Environmental wedi cael ei ddychwelyd i'r Cyngor. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod Cwm Environmental ar hyn o bryd yn masnachu fel cwmni hyd braich sy'n galluogi'r Awdurdod i fanteisio ar yr elw a wnaed trwy fuddsoddi mewn seilwaith sy'n gweithio tuag at gynyddu perfformiad ailgylchu'r Cyngor.

 

  • Cyfeiriwyd at Fethodoleg yr Achos Busnes yn yr adroddiad.  Er yr awgrymwyd yn yr adroddiad i fwrw ymlaen â senario 'Twf Busnes Cymedrol', teimlwyd y byddai'r senario 'Uchelgeisiau Twf Busnes' yn cyd-fynd orau.  Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wrth ystyried y potensial rhanbarthol a'r cyfyngiadau amser penodol ynghyd ag ansicrwydd ynghylch y farchnad wastraff byddai'r senario 'Twf Busnes Cymedrol' yn darparu sail fwy addas ar gyfer cynllun busnes yn y tymor byr gyda'r lefel briodol o uchelgais yn y dyfodol.

 

  • Gwnaed sylw bod lorïau gwastraff o'r Cyngor a Cwm Environmental yn y blynyddoedd blaenorol yn casglu o'r un mannau, a barnwyd bod hyn yn wastraff ar adnoddau.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r sefyllfa hon yn digwydd yn aml oherwydd bod y Cyngor a Cwm Environmental mewn cystadleuaeth uniongyrchol, byddai hyn yn lleihau o ganlyniad i'r trefniadau yn y dyfodol.



  • Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod ganddi hyder yn y gweithrediadau oedd yn cael eu darparu ac na fyddai hyn yn effeithio ar y cyhoedd yn ystod y cyfnod pontio.

  • Gofynnwyd a fyddai Gogledd y Sir yn gweld gwelliant o ran gwasanaethau gwastraff  yn dilyn ffurfio'r cwmni Teckal newydd.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai unrhyw welliannau gofynnol yn cael eu cynnwys fel rhan o strategaeth blaengynllunio.

 

  • O ran y newyddion ynghylch Tsieina yn gwahardd mewnforio plastig, gofynnwyd sut y byddai hyn yn effeithio ar y gwasanaeth ailgylchu gwastraff yn y dyfodol.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff ybyddai Tsieina yn atal mewnforio papur cymysg a gwastraff poteli plastig yn gynnar y  flwyddyn nesaf.  Byddai'r gwaharddiad yn effeithio ar bob Awdurdod a byddai dull cydweithredol yn cael ei archwilio maes o law.

 

  • Gofynnwyd am gadarnhad ynghylch trosglwyddo contractau'r holl weithwyr.  Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, yn amodol ar gyngor cyfreithiol, nid oedd Rheoliadau TUPE yn berthnasol i'r trefniant hwn a byddai holl delerau ac amodau'r staff yn parhau'r un fath.  At hynny, byddai unrhyw weithwyr newydd yn cael eu cyflogi o dan delerau ac amodau'r cwmni Teckal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1        dderbyn y trefniadau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol;

5.2        nodi canlyniad yr adolygiad o ddewisiadau ar gyfer gwasanaethau trin a gwaredu gwastraff yn y dyfodol;

5.3        nodi datblygiad presennol yr achos busnes ar gyfer yr opsiwn a ffefrir;

5.4        nodi'r camau nesaf ar gyfer cyflawni'r prosiect.

 

 

Dogfennau ategol: