Cafodd
y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch y Cynllun Gwastraff
Gardd. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r sefyllfa a'r
canlyniadau o flwyddyn gyntaf y gwasanaeth o dalu am gasglu
gwastraff gardd ar wahân ac yn nodi'r trefniadau a'r
gweithrediadau'r ar gyfer 2018-19.
Nododd y
Pwyllgor y cafwyd ymateb da i'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd
gyda thua 2500 o geisiadau am finiau gydag 2400 o gwsmeriaid yn cofrestru ar gyfer y flwyddyn
gyntaf o weithredu. Roedd y rhan fwyaf
o'r cwsmeriaid wedi cofrestr ar-lein ac wedi elwa ar ostyngiad o
15%.
Roedd yr
adroddiad yn darparu dadansoddiad manwl o weithrediad y flwyddyn
gyntaf ynghyd â chynnig ar gyfer yr ail flwyddyn
(2018/19).
Rhoddwyd
sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr
adroddiad:-
- O ran y cynnydd posibl mewn compost a gynhyrchir ledled y Sir,
gofynnwyd a oedd unrhyw ffigurau ar gael ar gyfer faint o gompost
oedd yn cael ei gynhyrchu. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau
Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd ganddo unrhyw ffigurau, fodd
bynnag, byddai angen i'r cwmni Teckal newydd gynnal ymchwil i'r
farchnad ac yn edrych ar drefniadau ar gyfer y dyfodol o ran yr
allbynnau sy'n deillio o gompostio glaswellt a bwyd
gwastraff.
- Gwnaed sylw ynghylch y diffyg darpariaeth ar gyfer aelodau'r
cyhoedd nad oedd yn gallu defnyddio whilfiniau, roedd hyn yn amlwg
yn y dadansoddiad o'r nifer isel o sachau hesian a
ddefnyddir. Roedd y Pennaeth
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yn cydnabod nad oedd modd i'r
cynllun fod ar gael i holl aelodau'r cyhoedd lle'r oedd mynediad yn
anodd ac nid oedd y sachau hesian yn darparu ateb hyfyw tymor hir
i'r broblem. Byddai'r Cyngor yn parhau
i adolygu'r opsiynau amgen.
- Cymerodd y Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y cyfle hwn i atgoffa'r
Aelodau mai gwasanaeth dewisol oedd y gwasanaeth gwastraff gardd
nad oedd rheidrwydd ar yr Awdurdod ei ddarparu, sy'n esbonio pam y
codir tâl am y gwasanaeth.
- Cyfeiriwyd at yr Awdurdodau eraill sydd wedi gweithredu
gwasanaethau gwastraff gardd am nifer o flynyddoedd a'r sylfaen
cwsmeriaid a fyddai'n cyfateb i 7,400 o gartrefi yn Sir
Gaerfyrddin. Gofynnwyd sut y byddai'r adran yn cyrraedd y nifer hyn
o aelwydydd. Dywedodd y Pennaeth
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff er y byddai anawsterau
logistaidd roedd yn fodlon gyda nifer yr aelwydydd sef 7,400 fel
cymharydd, fodd bynnag, y targed ar gyfer y gwasanaeth hwn fyddai
ad-dalu costau ymhen 2 i 3 blynedd gyda sylfaen cwsmeriaid o tua
5,000.
- Er mwyn darparu rhagor o wybodaeth, cynigiodd Cyfarwyddwr yr
Amgylchedd rannu achos busnes cychwynnol â'r Aelodau er mwyn
cymharu â'r union ffigyrau wrth iddynt ddod i
law. Consensws cyffredinol y Pwyllgor
oedd y byddai hyn yn fuddiol.
- Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd ynghylch y costau, dywedodd
y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff mai dim ond codi
tâl ar gyfer casglu ac nid trin y gwastraff oedd modd ei
wneud. Yn ogystal, dywedwyd wrth y
Pwyllgor bod ffioedd wedi cynyddu 3% oherwydd costau
chwyddiant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 dderbyn yr adroddiad ar
y Cynllun Gwastraff Gardd;
6.2 nodi'r cynigion a nodir yn yr
adroddiad.