Agenda item

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2018/19-2021.

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft 2018/19 – 2021 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gofal a Chymorth, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Diogelu, Gwasanaethau Integredig, Gwasanaethau Comisiynu, Cymorth Busnes a Dadansoddi Perfformiad a Systemau. Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gynnig sylwadau ac ymgysylltu. Hefyd, roedd adborth gan grwpiau o staff hyd yn hyn wedi nodi y byddai mwy o bwyslais ar gamau gweithredu integredig o ran llesiant drwy gynlluniau is-adrannol yn cael ei groesawu ynghyd â sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau drwy ddulliau gwahanol yn wyneb y galw cynyddol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Gofynnwyd am eglurhad ynghylch lefel y risg a nodwyd yn yr adroddiad o ran bod yn rhaid i'r Awdurdod (fel partner allweddol) ad-dalu symiau sylweddol o arian grant i'r Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau heb unrhyw obaith o adennill y symiau hynny gan drydydd partïon.

 

Nododd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod y gwasanaeth yn cael cyllid drwy grant gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cael ei ddefnyddio wedyn i gomisiynu gwasanaethau gan Drug Aid. Barnwyd bod y risg bosibl o unrhyw ad-daliad yn isel, a'r unig adeg pryd y rhagwelwyd y byddai hynny'n digwydd fyddai pe bai gwasanaeth a gomisiynwyd yn mynd yn fethdalwr. Gan fod angen i ddarparwyr y gwasanaethau hynny gyflwyno adroddiadau perfformiad chwarterol, byddai'n anarferol iddynt fynd yn fethdalwyr heb fod yr Awdurdod yn ymwybodol o unrhyw anawsterau.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch monitro'n ansoddol ddarparwyr gwasanaeth camddefnyddio sylweddau a gomisiynir, cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu eu bod yn destun adolygiadau chwarterol. Byddai'r Adran hefyd yn cynnal gweithdy yn y Flwyddyn Newydd ynghylch gwasanaethau a gomisiynir i archwilio canlyniadau ansoddol. Gellid hefyd drefnu i'r Pwyllgor gael adroddiad ynghylch camddefnyddio sylweddau yn y Flwyddyn Newydd.

 

Gofynnodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu os oes gan aelodau unrhyw bryderon ynghylch lefel gwasanaeth darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor eu bod yn tynnu ei sylw at y pryderon hyn.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch monitro bwriad yr Adran i staff gael 'llwythi gwaith y gellir eu rheoli, prosesau a systemau effeithiol ac ymatebol' cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gan yr Awdurdod, fel cyflogwr, ddyletswydd gofal i sicrhau bod gan staff lwythi gwaith y gellir eu rheoli. Er bod y galw am wasanaethau integredig yn cynyddu, roedd yn hyderus bod y llwyth gwaith yn cael ei reoli yn ei gwasanaeth.  Roedd staff hefyd yn gallu codi unrhyw bryderon o ran llwyth gwaith drwy arfarniadau rheolaidd a chyfarfodydd 'un i un’.

 

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu mewn perthynas â'i gwasanaeth, fod dadansoddiad yn cael ei wneud ynghylch effaith y galw cynyddol am y gwasanaeth ar lwyth gwaith, yn enwedig mewn perthynas â darpariaethau'r Ddeddf Iechyd a Llesiant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau ar gyfer 2018/19 - 2021 yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau