Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - BOLEYN'S BISTRO, 13 OLD CASTLE ROAD, LLANELLI SA15 2SL.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law  am Drwydded Safle ar gyfer Boleyn’s Bistro, 13 Heol yr Hen Gastell, Llanelli, SA15 2SL i ganiatáu'r canlynol:

 

Cyflenwi Alcohol / Cerddoriaeth a recordiwyd

Dydd Llun – Dydd Sadwrn 12:00 – 00:00

Dydd Sul 12:00 – 23:00

Oriau Agor

Dydd Llun – Dydd Sadwrn 12:00 – 00:30

Dydd Sul 12:00 – 23:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

·       Atodiad A – Copi o'r cais

·       Atodiad B - Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·       Atodiad D – Sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

·       Atodiad B – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:

·       Cynllun yn dangos lleoliad y safle

·       Llythyr dyddiedig 11 Rhagfyr, 2017 gan Mr A Morgan, Cyngor Sir Caerfyrddin at yr Ymgeisydd

·       Dwy neges e-bost dyddiedig 11 Rhagfyr, 2017 gan yr ymgeisydd at yr Awdurdod Trwyddedu.

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, gan ddweud, yn dilyn hynny, ei fod ef a Mr A Morgan o Iechyd yr Amgylchedd, wedi ymweld â'r safle ar 28 Tachwedd, 2017 i drafod y cais gyda'r ymgeisydd. O ganlyniad i'r ymweliad hwnnw, roedd Mr Morgan wedi ysgrifennu at yr ymgeisydd gan gynnig ychwanegu'r ddau amod canlynol at y Drwydded Safle, petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais:-

·       Bydd cwsmeriaid yn defnyddio'r iard yn y cefn yn unig yn fan ysmygu yn yr awyr agored,

·       Ni fydd unrhyw gerddoriaeth yn mynd drwy uchelseinydd mewn unrhyw fannau allanol.

Yn ogystal â'r amodau uchod, roedd Mr Morgan hefyd wedi cyfeirio at yr elfen o'r cais oedd yn gofyn am ganiatâd i chwarae cerddoriaeth a recordiwyd ac wedi awgrymu i'r ymgeisydd ei bod yn tynnu'r elfen honno yn ôl o'r cais ar y sail bod chwarae cerddoriaeth gefndir yn cael ei ganiatáu i safleoedd trwyddedig o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Roedd yr ymgeisydd, mewn neges e-bost dyddiedig 11 Rhagfyr, wedi cadarnhau ei bod yn cytuno â'r amodau arfaethedig ac wedi tynnu'n ôl yr elfen o'i chais yn ymwneud â cherddoriaeth a recordiwyd.

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu fod yr ymgeisydd, mewn neges e-bost dyddiedig 11 Rhagfyr, hefyd wedi cadarnhau ei bod yn derbyn yr 20 o amodau trwyddedu a awgrymwyd gan Heddlu Dyfed-Powys. 

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu, i gloi, er ei fod yn argymell cynnwys yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd a Heddlu Dyfed-Powys yn y Drwydded Safle, y dylai'r Is-bwyllgor, wrth ystyried y cais, roi sylw i sylwadau dienw a oedd wedi dod i law yn gwrthwynebu'r cais ar sail s?n ac aflonyddwch yn sgil cerddoriaeth uchel a chwsmeriaid meddw.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau a nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, gan gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys amodau rhif 1-20 a awgrymwyd ganddo.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau ysgrifenedig a nodwyd yn Atodiad C, a'i lythyr atodol dyddiedig 23 Tachwedd, gan gadarnhau, o ganlyniad i gwynion di-sail blaenorol a oedd wedi dod i law mewn perthynas â'r safle, ei fod yn argymell cynnwys y ddau amod uchod yn y Drwydded Safle. Cadarnhaodd hefyd gan fod chwarae cerddoriaeth gefndir rhwng 8:00 a.m. a 11:00 p.m. yn cael ei ganiatáu o dan ddadreoleiddio Deddf Trwyddedu 2003 fod yr ymgeisydd wedi cytuno i dynnu'r elfen honno o'i chais yn ôl. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i gynnwys y ddau amod trwyddedu awgrymedig.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch ei sylwadau.

 

Dywedodd yr ymgeisydd, mewn ymateb i'r sylwadau trydydd parti, mai un o'r materion oedd yn deillio o hynny oedd y ffaith ei bod yn caniatáu i'w chwsmeriaid ddod â'u halcohol eu hunain i'r safle. Gan fod hynny yn golygu nad oedd yn gallu rheoli faint o alcohol sy'n cael ei yfed, y farn oedd y byddai'r cais am Drwydded Safle yn unioni'r sefyllfa honno. Cadarnhaodd ei bwriad i gynnig profiad bistro o safon uchel a byddai'r safle yn agor ar ddiwrnodau pan oedd archebion wedi cael eu gwneud yn unig. Mewn perthynas â sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd cadarnhaodd ei bod yn cytuno â'r amodau awgrymedig a'i bod wedi tynnu'r elfen yn ymwneud â cherddoriaeth a recordiwyd yn ôl o'i chais.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch ei sylwadau.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Safle ar gyfer Boleyn's Bistro, 13 Heol yr Hen Gastell, Llanelli i werthu alcohol yn ystod yr oriau y gofynnwyd amdanynt yn cael ei ganiatáu yn amodol ar atodi'r amodau trwyddedu y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd, yr heddlu a gwasanaethau iechyd y cyhoedd i'r drwydded.

 

Y RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

  1. Nid oedd y safle wedi cael trwydded o'r blaen o dan Ddeddf 2003
  2. Nid oedd dim hanes o gamau gorfodi materion trwyddedu yn ymwneud â'r safle
  3. Bu cwynion blaenorol ynghylch s?n yn ymwneud â'r safle gan 1 unigolyn nad oeddent wedi eu cadarnhau
  4. Nid oes dim un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu caniatáu trwydded ar gyfer gwerthu alcohol
  5. Roedd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi gwneud sylwadau nad oedd y safle yn lleoliad addas ar gyfer trwydded i chwarae cerddoriaeth a recordiwyd
  6. Bod yr ymgeisydd wedi tynnu yn ôl ei chais i chwarae cerddoriaeth a recordiwyd ar y safle
  7. Bod un sylw dienw wedi cael ei gyflwyno gan aelod arall o'r cyhoedd

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

O ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd iddo, nid oedd rheswm gan yr Is-bwyllgor dros fynd yn groes i farn yr awdurdodau cyfrifol yn yr achos hwn. Yn unol â hynny roedd yn fodlon ar y canlynol:

 

  1. Ei bod yn briodol, er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, ganiatáu'r drwydded ar gyfer gwerthu alcohol yn amodol ar yr amodau trwyddedu ychwanegol y cytunwyd arnynt gan yr Ymgeisydd, yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
  2. Bod yr amodau hynny yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd yn y dystiolaeth.

 

 

Dogfennau ategol: