Agenda item

Y GRWP CYMUNEDAU TEG A DIOGEL ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016/17

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel 2016-17 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor gan y Cynghorydd Cefin Campbell, Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel.  Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynnydd a oedd wedi'i wneud gan y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel a'i ragflaenydd, sef y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn 2016/17.  Roedd yr adroddiad hefyd yn adolygu'r cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran y Strategaeth Gymunedol Integredig.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gr?p yn ymfalchïo mewn creu cysylltiadau cryf â phartneriaid a chydweithio i sicrhau bod cymunedau yn lleoedd diogel i fyw ynddynt.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn cynnwys cyfraniadau gan ddau o 'Awdurdodau Cyfrifol' y gr?p sy'n bartneriaid statudol, sef y Gwasanaeth Tân ac Achub a sefydliadau Prawf.  Yn ogystal, mae trefniadau llywodraethu ar gyfer y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel wedi'u hymgorffori yn strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel wrth y Pwyllgor y gellid priodoli'r cynnydd mewn lefelau troseddu i'r gwelliannau diweddar i brosesau riportio yr Heddlu.  Pwysleisiwyd i'r Pwyllgor fod ardal Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw sydd â’r lefelau troseddu isaf yng Nghymru a Lloegr. 

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol nad oedd y trydydd sector yn cael ei gynrychioli ar y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel ar hyn o bryd, ond bod y gr?p yn cynnal cysylltiadau cryf â darparwyr trydydd sector megis Cymorth i Fenywod ac Age Concern Cymru sy'n cael eu cynrychioli ar nifer o grwpiau y mae'r Gr?p Cymunedau Teg a Diogel yn eu harwain. Yng ngoleuni hyn, mynegodd Aelodau bryder y dylid cynnwys sefydliadau trydydd sector yn y gr?p.  Cytunodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel a dywedodd y byddai'n trafod y mater hwn ymhellach â'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol.

 

Cafwyd ymholiad ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion o ddwyn cerbydau tir garw (ATV).  Dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel y gellid priodoli'r cynnydd i'r datblygiadau diweddar o ran y modd y mae'r Heddlu yn cofnodi troseddau.  Cydnabuwyd bod llu o achosion o ddwyn cerbydau tir garw yn ddiweddar a dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel y byddai ymchwil yn cael ei gwneud a byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen at yr Aelodau.

 

 

 

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch yr angen i gyfarfodydd PACT (yr Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd) gydweithio mwy, dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel fod adolygiad o strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) i fod i gael ei gynnal yn gynnar yn 2018 a fyddai'n gyfle i'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried cyfarfodydd PACT er mwyn rhoi llais cryfach i gymunedau.

 

Gan gyfeirio at dudalen 13 yr adroddiad, gwnaed sylw ynghylch y 29 o hysbysiadau cosb benodedig a oedd wedi eu rhoi ers cyflwyno Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer baw c?n, a'r farn oedd, o ystyried bod y mater hwn yn broblem sylweddol mewn cymunedau, fod nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd yn ymddangos yn syndod o isel. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff ei bod yn eithaf anodd canfod troseddau baw c?n a'i bod yn gofyn am lawer o adnoddau oherwydd faint o brawf sydd ei angen. Mewn perthynas â chaniatáu i wasanaeth yr Heddlu, drwy ei Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, roi dirwyon ar gyfer baw c?n, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol yn ystyried hyn ar hyn o bryd a'i fod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Heddlu er mwyn lleihau'r broblem.  Oherwydd bod y mater hwn yn gofyn am lawer o adnoddau, anogwyd yr Aelodau i roi gwybod am unrhyw achosion o faw c?n y maent yn eu gweld gan nodi gwybodaeth berthnasol megis lleoliad, dyddiadau, amseroedd ac ati.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, roedd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yn cydnabod er bod awdurdodau lleol eraill yn cynnal profion DNA o bosib er mwyn dal troseddwyr mynych, fod tîm yr amgylchedd wedi gwneud ymchwil i'r posibilrwydd o fabwysiadu'r dull hwn.  Canfuwyd mai'r drafferth o ran y dull hwn oedd oherwydd nad oes rhaid i berchnogion c?n gofrestru eu c?n, y byddai'r perchnogion c?n anghyfrifol hynny sy'n methu â chodi baw eu c?n yn annhebygol o gofrestru eu manylion perchnogaeth a byddai profion DNA fel sail i brawf yn aneffeithiol. Yn ogystal, dywedodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor fod awdurdodau lleol yn trafod y mater â Llywodraeth Cymru gan nad oes ganddynt y p?er ar hyn o bryd i gyflwyno cynlluniau cofrestru c?n gorfodol.

 

Pwysleisiwyd bod baw c?n yn parhau i fod yn broblem sylweddol yng nghymunedau Sir Gaerfyrddin a'i bod yn bwysig sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i leihau'r broblem barhaus.

 

Er mwyn ceisio gwella'r broblem barhaus o faw c?n, awgrymwyd y gallai fod yn fuddiol cynnal ymgyrch yn y cyfryngau er mwyn addysgu perchnogion c?n ynghylch yr hyn y gallant ei wneud i fod yn fwy cyfrifol.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y mater hwn wedi cael cyhoeddusrwydd o'r blaen ond cytunodd y byddai ymgyrch newydd yn fuddiol o ran codi proffil y mater a rhoi gwybodaeth am sut y gall perchnogion c?n helpu i wella'r sefyllfa.

 

Gan gyfeirio at sylw a wnaed yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor [gweler cofnod 5], pwysleisiwyd bod angen adolygu'r diffyg darpariaeth ar hyn o bryd o ran gwasanaeth wardeiniaid c?n 24 awr.  Mewn perthynas â chanfod baw c?n, lle mae problem hysbys, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y gellid targedu adnoddau Gorfodi Materion Amgylcheddol mewn ardaloedd problemus petai gwybodaeth ddigonol yn cael ei darparu i gyfiawnhau canolbwyntio ar ardal benodol.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch gwella cyrchu data rheoli cyflymder ar gyfer aelodau lleol, eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod data monitro cyflymder yn cael ei ystyried yn y Gr?p Rheoli Cyflymder a oedd yn cynnwys sefydliadau partner megis Unedau Plismona Ffyrdd, Gan Bwyll a'r Gwasanaeth Tân ac Achub.  Ychwanegodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd fod y modd y mae data monitro cyflymder yn cael ei gofnodi a'i gyrchu yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gyda golwg ar symud tuag at system mapio digidol a fyddai, ar ôl ei sefydlu, yn golygu bod y data ar gael yn fwy hwylus i wahanol asiantaethau ac aelodau lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: