Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £746k o ran y gyllideb refeniw a byddai -£2k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19.

 

Codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnodd beth oedd y tanwariant o £22k (Atodiad A). Dywedwyd fod hyn o ganlyniad i staffio;

·         Mynegwyd pryderon ynghylch swyddi gwag yn y timau rheoli gofal. Dywedwyd mai pwysau o ran y gweithlu yw un o'r prif broblemau y mae'r sector yn ei wynebu. Bu peth trosiant staff / staff yn ymddeol. Gwnaed ymdrech pendant eleni i sicrhau bod y Timau Adnoddau Cymunedol yn parhau'n gyflawn. Mae recriwtio yn straen ond mae'n cael sylw. Mae staff sydd wedi ymddeol wedi dychwelyd i roi cymorth wrth recriwtio;

·         Gofynnwyd faint o'r £20 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans AC yr oedd yr awdurdod wedi derbyn. Dywedwyd bod hyn fel arfer yn seiliedig ar fformiwla ac mae'r Awdurdod yn cael 6% o gyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar fformiwla poblogaeth oedolion. Dywedwyd bod yr £20m y cyfeiriwyd ato yn gyllid a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r pwysau ar y gweithlu;

·         Gofynnwyd pam y mae cymaint yn cael ei wario ar staff asiantaeth. Dywedwyd bod llawer o waith wedi'i wneud i leihau dibyniaeth ar staff asiantaeth gan gynnwys rotâu mwy effeithiol a lleihau'r lefelau salwch. Gobeithir gweld canlyniadau mwy effeithiol dros y 6-12 mis nesaf;

·         Mynegwyd pryder ynghylch materion staffio yn enwedig gan fod lefelau uchel o ddiweithdra. Dywedwyd ei fod yn haws recriwtio yn yr ardaloedd mwy gwledig ond ei fod yn anodd cystadlu â siopau yn y trefi. Drwy'r cymhwyster NVQ mae llwybr gyrfa ond mae angen ei wneud yn yrfa fwy deniadol mewn ysgolion;

·         Cyfeiriwyd at y cyhoeddiad gan NHS England fod £3.5 biliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol a gofynnwyd i swyddogion a fyddai Cymru'n debygol o dderbyn cyllid tebyg. Disgwylir cyhoeddiad ynghylch setliad y Grant Cynnal ddiwedd Rhagfyr;

·         Gofynnwyd am y swyddi gwag parhaus sydd o fewn y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a sut yr ymdrinnir â hyn. Dywedwyd y bu problemau o ran recriwtio, fodd bynnag, mae'r rhain wedi'u datrys ac mae'r staff a oedd wedi symud i ardaloedd eraill bellach wedi dychwelyd i Sir Gaerfyrddin. Bu llawer o recriwtio a bellach mae gennym Wasanaeth Therapi Galwedigaethol cryf iawn;

·         Gofynnwyd beth fydd effaith y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch Allied Healthcare yn dod i ben ar yr Awdurdod. Dywedwyd bod cynllun wrth gefn ar waith oherwydd roedd y cwmni wedi rhybuddio ei fod mewn trafferthion ariannol. Dywedwyd bod trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal i sicrhau na fyddai'n effeithio ar y gwasanaeth a byddai staff (tua 80) yn cael eu trosglwyddo i gyflogaeth yr Awdurdod.

·         Gofynnwyd pa mor hir y bydd cynlluniau yn parhau i gael eu cynnwys ar adroddiadau monitro'r gyllideb ar ôl cwblhau'r gwaith. Nodwyd y byddent yn parhau i gael eu monitro hyd nes bydd y cyfrifon yn cael eu cwblhau.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: