Agenda item

CYFLWYNIAD - TRAWSNEWID GWASANAETHAU CLINIGOL - ÔL YMGYNGHORIAD A'R CAMAU NESAF

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r canlynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Mrs Bernardine Rees (Cadeirydd), Mr Steve Moore (Prif Weithredwr), Helen Annandale (Pennaeth Ffisiotherapi ac Arweinydd Therapïau Sir Gaerfyrddin), Bethan Lewis (Pennaeth Nyrsio Ysbyty Glangwili) a Lisa Davies (Prif Reolwr y Prosiect). Fe'u gwahoddwyd i'r cyfarfod i roi cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol - Ôl Ymgynghoriad a'r Camau Nesaf.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg o'r Adroddiad Terfynol Ynghylch Ymgynghori- Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfuno'r gwaith a gyflawnwyd fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 19 Ebrill a 12 Gorffennaf, 2018. Roedd y canlynol ymhlith yr eitemau allweddol a gyflwynwyd:-

 

·         Cefndir y rhaglen

·         Crynodeb o'r Canfyddiadau

·         Y Prif Themâu

·         Ystyriaeth gydwybodol

·         Argymhellion i'r Bwrdd

·         Y Camau Nesaf

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb lle codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol:

 

·         Gofynnwyd beth fyddai'r gost a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer darparu'r cyfleuster newydd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ymdeimlad o frys o ran darparu'r cyfleuster newydd gan fod pryderon ynghylch y system bresennol, fodd bynnag, ar yr adeg hon, ni ellir rhoi cadarnhad o ran y costau a'r amserlenni. Efallai y bydd yr achos busnes llawn yn cymryd ychydig flynyddoedd i'w cwblhau a hyd nes bod hwn wedi'i gwblhau, ni ellir sicrhau'r cyllid;

·         Gofynnwyd a oedd yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer integreiddio a thrawsnewid. Dywedwyd bod yr Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd yng ngham olaf y cynnig a'i bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau Gofal Cymdeithasol a sefydliadau'r trydydd sector. Ailgadarnhaodd yr Ymddiriedolaeth ei hymrwymiad i weithio ar draws gwasanaethau amrywiol y sector cyhoeddus a bydd yn canolbwyntio ar yr angen i fod yn 'sefydliad gofal'. Mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg a sicrhaodd y byddai'r trafodaethau yn ystyried budd pennaf cleifion;

·         Gofynnwyd a fyddai'n ymarferol ystyried cael ysgol feddygol sydd ynghlwm wrth unrhyw ysbyty newydd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod llawer o hyfforddiant eisoes yn cael ei gyflawni yn y cyfleusterau presennol. Bydd y cyfleoedd a gynigir yn y Pentref Llesiant yn gwella dewisiadau o ran hyn yn sylweddol;

·         Gofynnwyd am leoliad y cyfleuster newydd a sut y gellir cyfiawnhau hyn i'r boblogaeth. Dywedwyd gan fod y gwasanaeth yn cael ei gynnal ar draws nifer o safleoedd ar hyn o bryd, mae arbenigedd hefyd yn cael ei wasgaru ac yn achosi problemau o ran staffio a rotâu. Drwy ddod â’r holl wasanaethau at ei gilydd mewn un lleoliad dylai wella cydbwysedd bywyd a gwaith y staff a bydd hefyd yn gwneud pethau'n haws i gleifion gyrraedd gwasanaethau arbenigol megis niwroleg. Cydnabyddir yr angen am well seilwaith er mwyn sicrhau bod y cyfleuster newydd ar gael i bawb ac mae'n her y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hi;

·         Gofynnwyd pa gynlluniau sydd ar waith i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf. Dywedwyd y bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod cynlluniau a sicrhau ei fod yn barod i wynebu'r pwysau. Bydd y rhaglen frechu rhag y ffliw a gofal cymdeithasol/gofal cartref yn helpu o ran hyn. Derbyniwyd £2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer y gaeaf;

·         Cyfeiriwyd at gludiant a theithio ac at y cyflwyniad a gafodd y Pwyllgor yn gynharach ar Geir Cefn Gwlad a gofynnwyd a oedd y Bwrdd yn bwriadu defnyddio'r trydydd sector yn fwy. Cadarnhawyd bod y Bwrdd yn gweithio gyda'r trydydd sector, fodd bynnag, mae'n ceisio ailddylunio pethau a rhoi pwyslais ar geisio lleihau achosion o ddod â phobl i'r ysbyty a dim ond dod â'r bobl hynny y mae gwir angen sicrhau eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt;

·         Cyfeiriwyd at y broblem gyffredin y mae pobl yn ei hwynebu o ran ceisio cael gafael ar eu meddygfa i wneud apwyntiad a thynnwyd sylw at y ffaith pe gallai pobl weld eu meddyg teulu, efallai byddai llai yn mynd i'r ysbyty. Gofynnwyd i'r Bwrdd a oedd unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem hon. Dywedwyd mai dyna'n union beth y mae'r Bwrdd yn ceisio ei wneud drwy greu model cymdeithasol. Yn anffodus, ni fydd byth ddigon o feddygon teulu ac yn amlach na pheidio nid oes angen i bobl weld meddyg teulu, mae angen iddynt weld nyrs neu ffisiotherapydd. Ceir rhai enghreifftiau rhagorol o'r model hwn a byddant yn cael eu cyflwyno;

·         Gofynnwyd beth oedd y Bwrdd yn ei wneud i leihau costau staff asiantaeth. Dywedwyd mai gan y Bwrdd oedd y gost uchaf yng Nghymru ond ers cyflwyno cap ar gyfer gwariant ar staff asiantaeth, gwelwyd y gostyngiad uchaf ledled Cymru;

·         Gofynnwyd ynghylch posibilrwydd integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol fel bod rhyw fath o ddilyniant gyrfa ar gyfer gofal. Rhoddwyd gwybod mai dyma le mae hyfforddiant modiwlar yn gysylltiedig â "Thyfu eich cynnyrch eich hun" a bydd gan y Pentref Llesiant botensial enfawr yn hyn o beth;

·         Gofynnwyd ble y mae'r Bwrdd arni o ran Seilwaith TG a beth mae'n ceisio'i gyflawni. Dywedwyd bod dadl genedlaethol o ran TG a sut i'w darparu. Angen edrych ar y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae angen treulio amser gyda'r clinigwyr a'r cyhoedd i ddod o hyd i'r ffordd orau ymlaen. Mae'n gynnar eto ac mae angen cael dadl ledled Cymru ond yr uchelgais fyddai cael cofnod cleifion electronig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddod i'r cyfarfod ac am gyflwyniad llawn gwybodaeth. Cydnabu'r Cadeirydd fod llawer o waith i'w gyflawni, fodd bynnag, integreiddio yw'r ffordd ymlaen.

 

HYD Y CYFARFOD

 

Am 1.00pm, wrth ystyried yr eitem uchod, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - "Hyd y Cyfarfod" - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheolau Gweithdrefn y Cyngor er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda.