Agenda item

ADRODDIAD CYNNYDD HYDREF DCLG

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd am Adolygiad Hydref yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar Gronni Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a oedd yn cynnwys:-

·         cyfanswm gwerth amcangyfrifedig asedau wedi'u cynnwys yn y cynllun trosglwyddo ar gyfer buddsoddiad drwy'r strwythur cronni;

·         cyfanswm gwerth amcangyfrifedig asedau i'w buddsoddi y tu allan i'r strwythur cronni drwy'r cronfeydd cyfrannog;

·         cynllun prosiect lefel uchel a ddiweddarwyd er mwyn cyflawni erbyn mis Ebrill 2018;

·         yn cynnwys cynnydd o ran caffael/adeiladu gweithredwr, llunio is-gronfeydd, recriwtio tîm craidd, penodi adnau a chaniatâd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol

·         unrhyw risgiau neu broblemau a allai olygu na chyflawnir erbyn mis Ebrill 2018, ac unrhyw gynlluniau i liniaru risgiau a/neu reoli problemau;

·         cynnydd o ran trefniadau llywodraethu;

·         cynnydd o ran buddsoddi mewn seilwaith ac amserlen i gyflawni'r uchelgais a nodwyd.

 

O ran Maen Prawf A: Graddfa, nododd y Pwyllgor mai cyfanswm gwerth asedau'r cronfeydd cyfrannog y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad terfynol i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf 2016 (gwerth fel yr oeddent ym mis Mawrth 2015), oedd £12.8bn, a bod cyfanswm gwerth yr asedau ar 30 Mehefin 2017 yn £16.3bn.

 

O ran cynnydd mewn perthynas â chaffael gweithredwr, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau fod chwe chynigiwr wedi cael gwahoddiad i dendro ond mai pedwar yn unig oedd wedi cyflwyno tendr. Hysbyswyd yr aelodau bod disgwyl i gontract ffurfiol y gweithredwr fod wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017.

 

Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol o risgiau ac eglurodd fod y risg o herio'r broses gaffael neu'r canlyniad yn dal i fod yno gan fod y broses gaffael yn dal i fynd rhagddi. Hysbyswyd yr aelodau fod llunio is-gronfeydd wedi cael ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Gr?p Ymarferwyr Buddsoddi a gynhaliwyd ar 24ain Tachwedd, 2017. Roedd adroddiad wedi'i baratoi ar gyfer y Gweithgor Swyddogion ar 1af Rhagfyr 2017.

 

Atgoffwyd yr Aelodau fod Sir Gaerfyrddin yn "awdurdod cynnal" ers mis Mehefin 2017 a'i fod yn rhoi cymorth ysgrifenyddol a thechnegol i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, i'r Gweithgor Swyddogion a'r Gweithredwr. Yn ogystal roedd Sir Gaerfyrddin, fel yr awdurdod cynnal, yn gyfrifol am reoli contractau ac roedd y broses o recriwtio staff eisoes wedi dechrau.

 

Dywedodd y Rheolwr Pensiynau y byddai'r tabl yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon o'r arbedion, yn cael ei ddiweddaru cyn gynted ag y byddai gweithredwr mewn lle.

 

O ran Maen Prawf D: Seilwaith, nododd y Pwyllgor mai'r uchelgais yn y tymor byr - tymor canolig oedd buddsoddi o leiaf 5% o asedau mewn buddsoddiadau seilwaith gyda dyhead yn y pen draw i fuddsoddi 10%.  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch buddsoddi mewn ffermydd gwynt a ffermydd solar, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod Cronfa Bensiwn Dyfed, fel rhan o 8 cronfa bensiwn Cymru, yn ystyried ar hyn o bryd y potensial o fuddsoddi ym Morlyn Llanw Abertawe ac roeddid wedi cytuno i fwrw ati â'r camau cychwynnol o ran gwirio diwydrwydd.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad cynnydd am Adolygiad Hydref yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

 

 

 

Dogfennau ategol: