Agenda item

MODEL BUSNES YN Y DYFODOL AR GYFER Y LLINELL GOFAL YN SIR GAERFYRDDIN.

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad oedd yn rhoi diweddariad ar Wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y mae ac y bydd yr Awdurdod yn ei gynnig, ynghyd â gwasanaethau ataliol yng nghyd-destun dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

 

Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o fodel busnes arfaethedig ar gyfer y Llinell Gofal yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys cefndir a chyd-destun manwl o ran y rhesymau dros ystyried model busnes newydd a throsolwg o’r cyfleoedd mae hyn yn eu cyflwyno i’r Awdurdod yn y dyfodol.

 

Mae’r Llinell Gofal yn derbyn rhwng 600k-700k o alwadau bob blwyddyn ac mae ganddo gorff enfawr o gwsmeriaid.  Daw ymhell dros 80% o’i incwm o’r tu allan i’r sir, ac mae cwsmeriaid yn cynnwys Awdurdodau Lleol eraill a Pharciau Cenedlaethol.

 

Roedd model busnes newydd yn cael ei awgrymu i wella cyfleoedd incwm gan fod angen i’r gwasanaeth fod yn hunanddigonol.  Un o’r dewisiadau sy’n cael eu harchwilio yw datblygu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol y byddai’r Awdurdod Lleol yn llwyr berchennog arno.  Cafodd cynllun busnes manwl ei baratoi, ac mae’n mynd trwy broses ymgynghori ar hyn o bryd.

 

Cafwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol yn dilyn y cyflwyniad:-

 

·       Pan ofynnwyd pa adborth a gafwyd gan staff o ran symud o weithio i Awdurdod Lleol i’r hyn sydd i bob pwrpas yn gwmni preifat, esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y byddai Cwmni Masnachu (LATC) Awdurdod Lleol yn eiddo’n llwyr i’r Awdurdod Lleol ac mai mater iddyn nhw fyddai pennu’r amodau a thelerau. Dywedwyd y cynhaliwyd digwyddiad yn ddiweddar ar gyfer holl staff a chynrychiolwyr o’r Undebau ac Adnoddau Dynol pan esboniwyd yn glir iawn nad oedd y model busnes newydd yn gyfrwng ar gyfer newid yr amodau a thelerau mewn unrhyw ffordd.  Nodwyd fod holiaduron ar gael i staff wneud unrhyw sylwadau am y broses yn ddienw;

·       Lleisiwyd pryder fod Cwmni Masnachu yn breifateiddio o dan enw arall.  Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y byddai gan y LATC Fwrdd Rheoli fyddai’n gorfod adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd Gweithredol.  Bydd y Bwrdd Gweithredol yn sicrhau bod yr holl ragofalon yn eu lle.  Mae cefnogaeth yr Awdurdod Lleol yn arbennig o bwysig.  Nid preifateiddio yw hyn, ac os llwyddwn i sefydlu LATC byddwn yn elwa’n fawr a gallai’r arian y bydd yn ei gynhyrchu gael ei ail-fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol;

·       Os yw’r LATC yn eiddo’n llwyr i’r Awdurdod Lleol, gofynnwyd i’r swyddogion pam na ellid ei adael fel y mae.  Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth nad oes gan Awdurdodau Lleol hawl i wneud elw gan eu bod yn gaeth i ddeddfwriaeth, ond y gwir yw bod angen inni wneud elw a gall Cwmni Masnachu ddefnyddio difidendau;

·       Pan ofynnwyd a fyddai gan y Cwmni Masnachu ei swyddogion Adnoddau Dynol a Chyflogres ac ati ei hun, esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y byddid yn y lle cyntaf yn defnyddio systemau mewnol yr Awdurdod megis Adnoddau Dynol, Cyflogres, TG ac ati er mwyn sicrhau parhad;

·       Nodwyd fod angen cynllun marchnata pendant a gofynnwyd i’r swyddogion a oedd hynny wedi cael ei wneud.  Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y byddai angen gwneud hynny ac y byddai’n rhaid i’r marchnata fod yn gryf iawn gan nad yng Nghymru’n unig y byddai’r gwaith y byddent yn cynnig amdano;

·       Gofynnwyd a fyddai unrhyw weithwyr newydd ar yr un amodau a thelerau â gweithwyr presennol, a fyddent yn aros yn y swyddfeydd ym Mhorth y Dwyrain ac a fyddai pob gweithiwr yn derbyn yr isafswm cyflog o leiaf; dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr achos busnes yn datgan yn glir iawn na fydd weithlu dwy haen, sy’n golygu y bydd pob gweithiwr newydd yn cael eu cyflogi ar yr un amodau a thelerau ac ar yr isafswm cyflog o leiaf. O ran Porth y Dwyrain a chael eu cyd-leoli gyda chydweithwyr iechyd, mae hynny’n berffaith a bydd y tîm yn aros yno am y tro, ond efallai y wynebir problemau gyda’r lleoliad o ran ei faint yn y dyfodol ac efallai y bydd rhaid chwilio am gartref arall, efallai yn y Pentref Llesiant newydd.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi’r wybodaeth.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau