Agenda item

CYFLWYNIAD GAN ESTELLE HITCHON, CYFARWYDDWR PARTNERIAETH AC YMGYSYLLTU A ROB JEFFERY, PENNAETH GWEITHREDIADAU, YMDDIRIEDOLIAETH GIG GWASANAETHAU AMBIWLANS CYMRU - TROSOLWYG O'R GWASANAETH

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaeth ac Ymgysylltu a Rob Jeffery, Rheolwr Gweithrediadau Ambiwlans gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a wahoddwyd i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y gwasanaeth.

 

Yna cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a roddodd drosolwg o’r gwasanaeth.

 

Roedd y data allweddol ar gyfer 2016/17 yn cynnwys y canlynol:-

 

·       Gwnaeth y Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt Yn Rhai Brys 797,410 o deithiau yn ystod y flwyddyn;

·       Deliodd y gwasanaeth â 463,018 o ddigwyddiadau wedi’u dilysu, sef 1.9% yn uwch na ffigwr y flwyddyn gynt;

·       Deliodd gwasanaeth Galw Iechyd Cymru â 301,640 o alwadau;

·       Cyfanswm y costau gweithredol yn 2016/17 oedd £174m;

·       Cymerodd y gwasanaeth canfod llwybr 111 fwy na 60,000 o alwadau;

·       Roedd y fflyd cerbydau’n cynnwys 709 o gerbydau;

·       Roedd y gwasanaeth yn cyflogi 2,985 staff ledled Cymru;

·       Y gwasanaeth a gomisiynwyd gan Fyrddau Iechyd ledled Cymru a’r targed a osodwyd ganddynt yw bod rhaid ymateb i 65% o’r holl alwadau o fewn 8 munud.

 

Mae’r gwasanaeth yn parhau i hyrwyddo ymddygiadau, ynghyd â’i ddatganiad gweledigaeth a phwrpas a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chydweithwyr yn 2015/16.  Yr ymddygiadau a hyrwyddir yw:-

 

- Byddaf yn garedig, gofalgar a thosturiol

- Byddaf yn gofyn a gwrando

- Byddaf yn onest ac agored gyda fi fy hun ac eraill

- Byddaf yn perchnogi fy mhenderfyniadau

 

Cyflwynodd y gwasanaeth Fodel Ymateb Clinigol newydd ac mae manteision y model newydd yn cynnwys y canlynol:-

 

- Mae’n blaenoriaethu’r “claf mwyaf tost yn gyntaf”

- Yr ymateb clinigol mwyaf addas i ddigwyddiadau

- Y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig

- Mwy o wrando a thrin

- Yr ymateb iawn, ar yr adeg iawn, bob tro

 

Mae’r Gwasanaethau Ambiwlans yn dibynnu ar raglen wirfoddol Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol sy’n wasanaeth hanfodol i’r gymuned gan nad yw’n bosib cyrraedd rhai lleoedd o fewn 8 munud oherwydd yr heriau daearyddol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae menter Cymunedau Cryf hefyd yn ddefnyddiol iawn mewn ardaloedd mwy gwledig gan ei fod yn datblygu sgiliau’r gymuned trwy alluogi’r cyhoedd i ddefnyddio diffibrilwyr, dysgu sgiliau CPR i blant ysgol cynradd ac uwchradd a hyfforddi plant ysgolion uwchradd i ddefnyddio diffibrilwyr. 

 

Mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn â phartneriaid a chyda gwasanaethau brys eraill fel yr heddlu e.e. lleolir clinigwyr yng nghanolfannau rheoli’r heddlu gan y gallant roi cyngor uniongyrchol i swyddogion heddlu sydd wedi cyrraedd damwain o ran a oes angen ambiwlans ai peidio. Dywedwyd fod lefelau cludo cleifion mewn ambiwlans ychydig yn uwch yn Sir Gaerfyrddin nac mewn ardaloedd eraill a bod angen rheoli hynny.

 

Yn dilyn y cyflwyniad cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb pan ofynnwyd y cwestiynau canlynol:-

 

·       O ran y Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt Yn Rhai Brys (NEPT), gofynnwyd i’r swyddogion a ydynt yn hapus â’r system gyfathrebu rhwng y clinig, yr ysbyty a’r cartref gan y clywir weithiau am ambiwlans yn cyrraedd 2-3 awr yn gynnar ac weithiau yn hwyr. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn ceisio lleihau faint o amser y mae pobl yn ei dreulio yn y cerbyd, ac mae trefn newydd ar waith erbyn hyn ar gyfer NEPT fydd yn gymorth mawr;

·       Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant a gynigir i blant ysgol, a gofynnwyd i’r swyddogion a oedd hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o sut i wneud galwadau 999.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr hyfforddiant yn cynnwys CPR, sut i wneud galwad 999 effeithiol a sut i ddelio â sefyllfa’n ddiogel e.e. os cafodd rhywun eu trydaneiddio.  Mae bron i 80,000 o blant wedi dysgu’r sgiliau hyn yn Sir Benfro, a’r bwriad yw ehangu’r fenter hon i siroedd eraill. Y gobaith yw y bydd hyn yn dangos llwybr gyrfaol posib i’r plant hyn;

·       Pan ofynnwyd sut all pobl gael gwybod mwy am ddod yn wirfoddolwyr cymunedol, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pobl yn tueddu cael gwybod ar lafar, ond mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefannau Cynghorau Iechyd Cymuned a’r Gwasanaeth Ambiwlans.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod hyfforddiant a chefnogaeth gyda chodi arian ar gyfer diffibrilwyr hefyd ar gael. Mae peiriannau Ipad yn cael eu treialu ar hyn o bryd fel ffordd o roi gwybod i wirfoddolwyr am alwad bosib;

·       O ran y targed cyraeddadwy o 65% ar gyfer galwadau coch, gofynnwyd a oedd yr amser mae ambiwlansys yn ei dreulio yn aros i ryddhau cleifion mewn ysbytai yn ffactor.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor, os yw ambiwlans yn aros y tu allan, nad yw’n amlwg yn effeithio ar y ffigyrau. Fodd bynnag, os oes angen i ambiwlans ddod yn ôl mewn i’r system, gellir gofyn am ryddhau claf yn syth. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod system y GIG yn ei chrynswth dan bwysau a’i bod yn  bwysig fod pawb yn gweithio gyda’i gilydd gan fod gennym oll rôl i’w chwarae wrth geisio rheoli cleifion yn effeithiol.  Mae staff mewn adrannau Damweiniau ac Argyfwng yn gweithio’n galed ac mae angen inni sicrhau mai dim ond pobl sy’n ddigon tost i orfod cael eu derbyn i ysbyty sy’n mynd i ysbyty yn y lle cyntaf. Cydweithio er mwyn lleihau’r oedi yw’r allwedd i ddatrys y broblem;

·       Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch pwy sy’n penderfynu a yw argyfwng yn goch neu felyn, dywedwyd wrth y Pwyllgor y defnyddir system ddanfon blaenoriaeth feddygol. Yr hyn ydyw yw algorithm sy’n galluogi’r danfonwr i ofyn cwestiynau a fydd wedyn yn  eu cyfeirio at y categoreiddiad priodol.  Mae melyn a choch yn ymatebion golau glas, ond y gwahaniaeth yw bod coch yn symbylu’r amser ymateb o 8 munud. Mae’r system yn cynnwys rhwyd diogelwch, ac os oes unrhyw amheuaeth caiff yr alwad ei dosbarthu’n goch. Nid yw yn offeryn triage, ffordd o flaenoriaethu galwadau ydyw, ac os derbynnir galwad goch arall gellir dargyfeirio galwad felen.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ms Hitchon a Mr Jeffery am fynychu’r cyfarfod ac am gyflwyniad hynod ddiddorol a llawn gwybodaeth a diolchodd ar ran y Pwyllgor i’r gwasanaeth ambiwlans am y gwaith a wnânt.