Agenda item

CYFLWYNIAD GAN ROS JERVIS, CYFARWYDDWR IECHYD CYHOEDDU, BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA - TROSOLWG CYFFREDINOL O RÔL Y CYFARWYDDWR.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr ei phrif gyfrifoldebau sy’n cynnwys gweithio gydag Awdurdodau Lleol i arwain yr agenda iechyd cyhoeddus ehangach ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac arwain ar asesu angen, cyfraniadau i Gynlluniau Llesiant a chynllunio strategol ar gyfer y Bwrdd Iechyd Prifysgol.

 

Roedd ei rôl hefyd yn cynnwys y cyfrifoldebau canlynol:-

 

·       Bod yn arweinydd gweithredol iechyd cyhoeddus ar gyfer Awdurdodau Lleol;

·       Pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau arbenigol a chenedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru;

·       Gweithio’n agos gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau lefelau uchel o gydnerthedd lleol;

·       Cynnig arweiniad ar oblygiadau iechyd cyhoeddus ad-drefnu gwasanaethau a chefnogi’r agenda gwella ansawdd a diogelwch cleifion.

 

Yna aeth y Cyfarwyddwr ati i amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y misoedd nesaf:-

 

·       Arweinyddiaeth gref a gweladwy;

·       Brechu ac imiwneiddio;

·       Cynnwys iechyd y boblogaeth mewn cynllunio strategol;

·       Datblygu partneriaethau effeithiol;

·       Gweithredu amcanion strategol y Bwrdd Iechyd Prifysgol:

·       Ymddygiad cymryd risg

·       Gordewdra

·       Atal canser a chanfod cynnar

·       Cynnal trefniadau cynllunio brys a diogelu iechyd effeithiol;

·       Cefnogi’r agenda ansawdd a diogelwch;

·       Rhagnodi cymdeithasol/cydnerthedd cymunedol;

·       Arwain y Tîm Nyrsio Iechyd Cyhoeddus i Blant

 

Cyfeiriodd at y gorgyffwrdd wrth ddarparu rhai gwasanaethau a phwysleisiodd bwysigrwydd gwaith partneriaeth.

 

Yn dilyn y cyflwyniad cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb pan ofynnwyd y cwestiynau canlynol:-

 

·       Pan ofynnwyd beth oedd ystyr ymddygiad cymryd risg, esboniodd y Cyfarwyddwr fod hyn yn cynnwys mathau o ymddygiad allai niweidio unigolyn e.e. ysmygu, cymryd cyffuriau, camddefnyddio alcohol a’r nod oedd targedu’r unigolion hynny a’u cefnogi;

·       Pan ofynnwyd sut allai’r Bwrdd Iechyd  a’r Awdurdod Lleol weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo’r fenter uchod, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor ei bod yn ei swydd flaenorol wedi meithrin perthynas waith dda iawn gyda Phwyllgor Trwyddedu’r Awdurdod Lleol ar faterion fel Polisïau Camddefnyddio Alcohol a’i bod yn gobeithio gwneud hynny eto yn y swydd hon. Ychwanegodd ei bod yn bwysig cydweithio er mwyn cael y cyfathrebu’n iawn a chyflwyno’r neges yn y ffordd iawn;

·       Cyfeiriwyd at iechyd meddwl ac at sefyllfa drasig person ifanc yn diweddu eu bywyd eu hunain a phwysleisiwyd ei bod yn hollbwysig cydweithio er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion dan sylw.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y Bwrdd Iechyd wrthi’n trawsnewid ei wasanaethau iechyd meddwl. Ychwanegodd mai’r allwedd i lesiant meddyliol yw sicrhau bod y gefnogaeth ar gael a bod yn rhagweithiol yn hytrach nac adweithiol;

·       Pan ofynnwyd sut roedd yn bwriadu mynd i’r afael â mater gordewdra esboniodd y Cyfarwyddwr na allwch ddarparu gwasanaeth yn unswydd i ddelio â pherson sy’n rhy drwm. Dywedodd fod rhaid edrych ar sawl ffactor, a bod angen agwedd llawer mwy holistaidd, gan gynnwys cefnogaeth a gwaith ataliol e.e. hyrwyddo ffyrdd gweithgar o fyw, ac i’r perwyl hwn roedd yn bwysig gweithio gydag ysgolion a chynnwys plant ysgol a phobl ifanc. Roedd yn bwysig hefyd gweithio gyda manwerthwyr ar fater lleoli cynhyrchion.  Dywedodd ei bod yn bwriadu cydweithio gyda’r Awdurdod Lleol, y trydydd sector a’r sector preifat ar y mater hwn gan fod y cymorth yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar lwybrau unigol tra bod angen agwedd llawer mwy holistaidd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr am fynychu’r cyfarfod ac am gyflwyniad hynod ddiddorol a llawn gwybodaeth.