Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD YR AMGYLCHEDD A'R GWASANAETHAU TRWYDDEDU 2016/17

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad blynyddol a oedd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu. Roedd y gwasanaeth yn cwmpasu diogelwch bwyd, clefydau trosglwyddadwy, iechyd a diogelwch, trwyddedu, llygredd (gan gynnwys aer, tir a s?n), niwsans (gan gynnwys s?n, arogleuon, mwg ac ati), cyngor ynghylch rheoli plâu a gwasanaethau wardeiniaid c?n. Gwaith statudol oedd hwn yn bennaf a dangosai'r galwadau oedd ar y gwasanaeth a'r heriau a wynebwyd yn 2016/17.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw gyllid wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru er mwyn talu costau'r cyfrifoldebau ychwanegol oedd wedi'u pennu i'r Cyngor. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd wrth y Pwyllgor nad oedd y Cyngor yn cael unrhyw gyllid, ond bod timau'n ymdopi drwy adolygu a newid y ffordd roeddent yn gweithio er mwyn cyrraedd disgwyliadau.

 

Gofynnwyd pam fod nifer fawr o achosion o campylobacter yn 2016/17, a beth oedd yn cael ei wneud i leihau nifer yr achosion yn y dyfodol. Eglurodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod nifer yr achosion yn 2016/17 wedi gostwng o'r uchafbwynt yn 2014/15 ac efallai mai'r achos dros hyn oedd ymgyrchoedd i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran rhoi gwybod am salwch ac wrth i'r ymgyrchoedd leihau, fod nifer yr achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt wedi aros yr un peth. Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd am y gwaith fyddai'n digwydd er mwyn atal achosion o campylobacter.  Byddai hyn yn cael ei wneud drwy weithio gyda thîm y wasg a'r cyfryngau i addysgu'r cyhoedd ynghylch sut oedd cadw cig amrwd yn ddiogel, ac, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, cadw'r twrci a'i goginio mewn modd diogel. At hynny, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dau dîm yn gweithio ym maes diogelwch bwyd, un yn y gwasanaethau Safonau Masnach a'r llall yng ngwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, a bod y ddau dîm yn cael cryn effaith ar ddiogelu'r cyhoedd.

 

Gofynnwyd pa mor gadarn oedd y data a gasglwyd ynghylch clefydau heintus. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod y wybodaeth genedlaethol wedi cael ei darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddai'r tîm yn craffu arni i nodi unrhyw dueddiadau ac i weld a oedd unrhyw gysylltiadau cyffredin y byddai angen eu cwestiynu ymhellach.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y sefyllfa bresennol o ran samplu pysgod cregyn, hysbyswyd y Pwyllgor gan Reolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais wedi'i wneud i'r swyddogion, yn ystod 2016-17, gynyddu'r samplu/monitro oedd yn digwydd yn y Tair Afon. Roedd hyn o ganlyniad i'r cynnig gan Lywodraeth Cymru i agor y gwelyau at ddibenion casglu masnachol. Fodd bynnag, gan nad oedd yr adran yn cael ei digolledu am y cynnydd mewn gweithgarwch, roedd niferoedd ac amlder y samplu yn llai na'r cais gwreiddiol drwy wybodaeth, profiad, a chyd-drafod gan swyddogion i sicrhau bod rhaglen resymol, a roddai gynrychiolaeth deg.  At hynny, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, ers cynnig Llywodraeth Cymru, mai'r penderfyniad oedd peidio ag agor y gwelyau at ddibenion casglu pysgod cregyn masnachol.

 

O ran ymholiad ar ddifrifoldeb casglu pysgod cregyn yn anghyfreithlon, eglurodd Pennaeth Diogelu'r Amgylchedd fod plismona'r mater yn anodd oherwydd yr heriau daearyddol, ac er bod dull cydgysylltiedig yn cael ei ddefnyddio, roedd gwaith y gwahanol asiantaethau'n dal i gael ei rwystro gan y broblem o dystiolaeth barhaus.

 

Wrth gyfeirio at y wybodaeth am lygredd ar dudalen 18 o'r adroddiad, awgrymwyd y byddai'n fuddiol i'r Cynghorwyr a'r cyhoedd pe bai rhestr o ddalwyr trwydded amgylcheddol ar gael ar wefan y Cyngor.  Cytunodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd y byddai hyn yn fuddiol a byddai ef yn mynd ati i gyhoeddi rhestr ar wefan y Cyngor.

 

Yng ngoleuni'r weledigaeth i gynyddu ymgysylltiad cymunedol, gofynnwyd sut oedd y Cyngor yn cynnwys cymunedau o ran cynllunio at argyfwng.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth benodol i'r Pwyllgor am y mater hwn heddiw. Fodd bynnag, byddai'n cysylltu â'r Rheolwr Argyfyngau Sifil ac yn rhoi gwybod i'r aelodau wedi hynny.

 

Cyfeiriwyd at y tabl oedd yn cynnwys yr 20 categori uchaf o Geisiadau Gwasanaeth - Llygredd a oedd ar dudalen 15 o'r adroddiad.  Codwyd pryder ynghylch nifer uchel yr ymholiadau yn y categori 'gwastraff yn cronni,' a gofynnwyd ai arwydd oedd hwn o'r hyn oedd i ddod yn sgil cau canolfannau ailgylchu. Hysbyswyd y Pwyllgor gan Bennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff mai'r hyn oedd yn bennaf cyfrifol am y ffigwr hwn oedd cronni mewn eiddo preifat.

At hynny, rhoddwyd sicrwydd nad oedd unrhyw broblemau'n bodoli ar hyn o bryd yn sgil cau canolfan ailgylchu Llangadog, fodd bynnag roedd y mater hwn yn cael ei fonitro'n fanwl.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y byddai'n fuddiol rhoi data cymharol ychwanegol a gwybodaeth gyfredol i'r Pwyllgor.

 

Codwyd pryder ynghylch y penderfyniad diweddar a wnaed yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 23 Hydref 2017 (gweler cofnod 13) i ddod â'r rhaglen monitro d?r ymdrochi bresennol i ben, a oedd yn cynnwys Moryd Byrri. Eglurwyd y penderfyniad gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd a ddywedodd er bod gan yr Awdurdod gyfrifoldeb i ddiogelu iechyd y cyhoedd, nad oedd samplu d?r ymdrochi yn swyddogaeth statudol. At hynny, o ran Moryd Byrri, o achos y llanwau uchel, cyfnodau o law trwm a llygryddion amaethyddol posibl, roedd ansawdd y d?r yn dirywio ym Moryd Byrri. Felly, er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd, penderfynwyd cyfeirio'r cyhoedd i'r traethau ymdrochi oedd wedi eu cymeradwyo ym Mhen-bre a Phentywyn, lle cymerir samplau a lle roedd cyfleusterau priodol.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 17 yr adroddiad a oedd yn cynnwys tabl yn dangos nifer yr ymholiadau Warden C?n. Gwnaed sylw ar y ffaith bod llai a llai o ymholiadau ers 2013/14, gan mai'r farn oedd y dylai nifer yr ymholiadau fod ar gynnydd yn hytrach na'n lleihau. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod y ffigwr hwn yn ymwneud â ch?n strae yn unig a bod rhagor o ddefnydd gan y cyhoedd o'r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i berchnogion c?n yn effeithiol tu hwnt, ac yn osgoi'r angen am ymyrraeth gan wardeiniaid c?n.  At hynny, roedd gosod microsglodion mewn c?n yn llwyddiannus, cyn belled â bo'r sglodyn yn gyfredol ac wedi'i ddiweddaru.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus (GGMC) mewn lle a bod 4 tîm o Swyddogion Gorfodi ar draws y sir, a oedd yn gweithio'n agos gyda'r heddlu ar ymosodiadau yr oedd c?n yn gysylltiedig â hwy.   Yn dilyn enghraifft a roddwyd gan aelod o'r Pwyllgor lle roedd angen gwasanaeth warden c?n y tu hwnt i'r oriau arferol, gofynnwyd beth oedd y ddarpariaeth gyfredol ar gyfer darparu gwasanaeth warden c?n y tu hwnt i'r oriau arferol. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd nad oedd dim darpariaeth ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaeth warden c?n 24 awr oherwydd adnoddau staffio cyfyngedig.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch lleoliad y gwerthwyr sgrap yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd nad oedd ganddi'r wybodaeth wrth law ond byddai'n darparu'r wybodaeth y gwnaed cais amdani i'r Cynghorwyr yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau