Agenda item

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Cofnodion:

4.1 Cofnod 5.1 – Eitem Agenda, Cwestiwn gan y Cynghorydd A. Lloyd Jones

 

Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Gyswllt Ysgolion Cymru Gyfan SchoolBeat. Adroddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu'r rhaglen am 12 mis arall, o fis Ebrill 2019 hyd at fis Mawrth 2020. Cyhoeddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y bydd yr amser hwn yn cael ei ddefnyddio i baratoi, ar y cyd â lluoedd eraill, adroddiadau a thystiolaeth ynghylch manteision y rhaglen ledled Cymru.

 

4.2. Cofnod 5.2 - Eitem Agenda, Cwestiwn gan y Cynghorydd M. James

 

Yn dilyn gwahoddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i aelodau'r Panel fynychu cyfarfodydd Fforymau a Phartneriaid Troseddau Gwledig y Prif Gwnstabl, gofynnwyd am wybodaeth bellach yngl?n â dyddiadau'r cyfarfodydd. Cyhoeddodd y Comisiynydd y bydd gwahoddiadau gyda dyddiadau penodol yn cael eu dosbarthu. Eglurodd hefyd fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar ddwy lefel ar hyn o bryd: cyfarfodydd ar lefel strategol dan gadeiryddiaeth y Prif Gwnstabl, a chyfarfodydd Tîm Troseddu Gwledig ar sail sirol sy'n gyfarfodydd amlasiantaethol.

 

Codwyd cwestiwn dilynol ynghylch cynrychiolaeth Heddlu Dyfed-Powys yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, sy'n cynrychioli pen-blwydd cyntaf lansiad y Strategaeth Troseddau Gwledig. Adroddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y bydd y Tîm Troseddau Gwledig yn bresennol yn y ffair a'u bod yn cynnig rhannu manylion ynghylch digwyddiadau penodol gydag Aelodau'r Panel.

 

4.3 Cofnod 7 – Eitem Agenda, Penderfyniadau'r Comisiynydd

 

Gofynnwyd am gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y dyddiad penodol ar gyfer agoriad Canolfan Tîm Plismona Bro Caerfyrddin a chysondeb oriau agor y Tîm Plismona Bro ar draws y llu. Atebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, hyd y gwyddai, fod canolfan Caerfyrddin ar agor ac yn weithredol. Dywedodd hefyd fod oriau agor canolfannau Timau Plismona Bro yn ogystal â gorsafoedd heddlu mwy o faint yn cael eu hadolygu fel rhan o waith ehangach yn ymwneud â'r galw, dan arweiniad y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Vicki Evans. Nid oedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gallu rhoi dyddiad penodol ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn.

 

4.4. Cofnod 8 – Eitem Agenda, Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu

 

Gofynnwyd am ddiweddariad yngl?n ag a fyddai modd rhannu canlyniadau arolwg staff diweddar â'r Panel. Ymatebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy ddweud y bydd canlyniadau arolwg y llynedd yn cael eu hanfon at aelodau'r Panel ac y bydd canlyniadau'r arolwg diweddaraf yn cael eu rhannu pan fyddant ar gael. Nododd fod yr arolwg diweddaraf yn seiliedig ar sampl ychydig yn fwy ac felly mae'n darparu canlyniadau mwy dibynadwy. Nododd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd fod arolwg staff y llynedd yn dangos cynnydd yng nghymhelliant y staff, sy'n mynd yn groes i'r duedd genedlaethol o leihad yng nghymhelliant yr heddlu.

 

Mewn perthynas â mesur galwadau 101 ar gyfartaledd, nodwyd bod aelodau'r cyhoedd wedi adrodd bod yna oedi wrth geisio mynd drwodd. Ymatebodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu trwy ddweud mai tua 70 eiliad yw hyd galwadau'r llu ar gyfartaledd, ond ei fod yn ymwybodol bod hyn yn ymddangos yn anghyson â'r profiad a adroddwyd gan y cyhoedd. Cyhoeddodd ei fod yn barod i ymchwilio i ffynonellau posibl yr anghysondeb hwn ac adroddodd fod y gwaith cyfredol yn awgrymu fod traffig y llinell 101 yn cael ei achosi'n rhannol gan alwadau mewnol y gellid eu hailgyfeirio i fannau eraill. Tynnodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu sylw at y ffaith fod lefelau amseroldeb y llu yn dda o gymharu â lluoedd cyfagos yng Nghymru. Mewn ymateb, nodwyd bod rhai aelodau o'r cyhoedd wedi adrodd am oedi o fwy na 10 munud. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod ffigurau o'r fath yn annerbyniol a gofynnodd am i'r cwynion hyn gael eu hanfon ymlaen ato.

 

4.5 Cofnod 9 – Eitem Agenda, Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2017-2018

 

Codwyd ymholiad yngl?n â dosbarthu rhagor o gopïau caled o'r Adroddiad Blynyddol ymhlith y boblogaeth. Mewn ymateb, estynnodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wahoddiad i Aelodau'r Panel nodi niferoedd y copïau Cymraeg a Saesneg yr oeddent yn dymuno eu cael, a fydd yn cael eu hanfon atynt er mwyn eu cylchredeg yn eu hetholaeth.