Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2017.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-
·
Cyfeiriwyd at y cam gweithredu, ‘Byddwn yn
helpu pobl h?n i gyfrannu at ailgylchu drwy'r cynllun 'cymorth codi' ar gyfer pobl nad
ydynt yn gallu mynd â gwastraff i ymyl y ffordd.'
Gofynnwyd sut oedd y cam gweithred hwn yn cael ei farchnata er mwyn
codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth hwn.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wybod i'r
Pwyllgor fod gwybodaeth am y gwasanaeth hwn i'w chael yn y
dogfennau atodol gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol, yn ogystal
â bod y gwasanaeth yn cael ei hysbysebu ar Wefan y Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau
Amgylcheddol a Gwastraff fod yna tua 1,300 o gynlluniau cymorth
codi ar waith ledled y Sir ar hyn o bryd.
·
Cyfeiriwyd at y cam gweithredu gyda golwg ar
'arolygu priffyrdd, llwybrau troed a seilwaith goleuadau yn
rheolaidd i nodi unrhyw ddiffygion sy'n peri perygl i'r
cyhoedd’. Holwyd a fyddai
modd darparu mwy o fanylion am y mater hwn. Y farn oedd y byddai
cael mwy o fanylion o fudd i'r Cynghorwyr wrth i ymholiadau o'r
fath ddod i'w rhan. Dywedodd y Pennaeth
Trafnidiaeth a Phriffyrdd na fyddai'n bosibl rhoi gwybod i'r
Aelodau am bob atgyweiriad oherwydd graddfa'r gwaith a wneir ar
draws y Sir bob dydd. Fodd bynnag, byddai'n rhoi manylion pellach
i'r Aelod Lleol y tu allan i'r cyfarfod.
·
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch cyfrifoldeb pwy yw
clirio priffordd ar ôl achos o halogi. Dywedodd y Pennaeth
Trafnidiaeth a Phriffyrdd mai cyfrifoldeb y person neu'r sefydliad
a halogodd y briffordd fyddai ei chlirio. Mewn ymateb i ymholiad a gafwyd ynghylch nifer y
peiriannau ysgubo ffyrdd sy'n weithredol o fewn y fflyd ar hyn o
bryd, pwysleisiodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd y
fflyd peiriannau ysgubo ffyrdd wedi cael ei lleihau yn y ddwy
flynedd diwethaf ac ychwanegodd nad oedd yna unrhyw newidiadau
diweddar wedi bod mewn polisi.
·
Mewn perthynas â'r
cam gweithredu a oedd yn dweud 'Byddwn yn cynyddu faint o ynni a
gynhyrchir o dechnolegau adnewyddadwy (kWh)' holwyd a oedd targed wedi'i osod? Dywedodd yr
Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y Cyngor
yn ystyried cynyddu nifer y paneli solar, yn enwedig ar safleoedd y
Cyngor. Cyfeiriwyd at yr adroddiad o
fewn Eitem 10 ar yr Agenda - Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir
Caerfyrddin ar gyfer 2016/17, a oedd yn dweud bod y defnydd o ynni
adnewyddadwy ar gyfer 2016/17 yn 670,400 kWh. Dywedwyd bod
y swm hwn yn cynrychioli ychydig dros 0.9% o gyfanswm yr ynni a
ddefnyddiwyd ac ystyrid ei fod yn lefel isel iawn o ynni
adnewyddadwy, felly gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r hyn oedd targed y Cyngor ar gyfer ynni
adnewyddadwy. Dywedodd y Pennaeth
Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y Cyngor ar hyn o bryd yn prynu ynni
oddi wrth gyflenwyr ynni gwyrdd ac y byddai gwybodaeth am
ymholiadau pellach yn cael ei rhannu â'r Pwyllgor maes o law.
· Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag ynni gwyrdd, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei ddarparu i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2018 yn unol â Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor fod y cynllun wedi cael ei lansio'n llwyddiannus a bod ganddo 2,500 o gwsmeriaid hyd yma.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a nodi'r adroddiad.
Dogfennau ategol: