Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd fod cais wedi dod i law gan Scarlets Regional Ltd. am drwydded safle ar gyfer Parc y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli i ganiatáu'r canlynol:
· Cyflenwi alcohol / adloniant rheoledig / bocsio neu reslo / oriau agor: dydd Llun i ddydd Sul rhwng 07:00 a 02:00;
· Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 02:00
Amrywiadau Tymhorol ac Amserau Ansafonol fel a ganlyn:
Awr yn ychwanegol i mewn i'r bore yn dilyn pob Noswyl Nadolig (24 Rhagfyr), Diwrnod San Steffan (26 Rhagfyr), Dydd Calan (1 Ionawr), Dydd G?yl Dewi (1 Mawrth) a Diwrnod Sant Padrig (17 Mawrth). Dwy awr yn ychwanegol i mewn i'r bore yn dilyn pob nos Wener a Sadwrn ym mis Rhagfyr ar gyfer Partïon Nadolig. Ar Nos Galan o ddiwedd yr oriau caniataëdig ar 31 Rhagfyr tan ddechrau'r oriau caniataëdig y diwrnod canlynol, 1 Ionawr.
Digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr - Y dewis i fod ar agor 30 munud cyn a 30 munud ar ôl (cynhwysol) unrhyw ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol mawr sy'n cael ei ddarlledu ar y teledu ac sy'n cael ei gynnal mewn gwlad neu wledydd sy'n gweithredu mewn parth amser sy'n wahanol i'r DU gan eu cyfuno os ydynt yn gorgyffwrdd.
Y digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n cael eu cynnwys yn y cymal uchod yw: Cwpan Rygbi'r Byd, Cwpan y Byd Pêl-droed, cystadlaethau Rygbi a Phêl-droed Ewropeaidd, Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Ewropeaidd (athletau), Gemau Criced Rhyngwladol a Gemau Cwpan Criced y Byd, gornestau bocsio mawr a rownd derfynol Pêl-droed Americanaidd.
Mae defnydd o'r cae chwarae ar gyfer adloniant rheoledig a lluniaeth hwyrnos wedi'i gyfyngu i 6 achlysur fesul blwyddyn galendr.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A - copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;
Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;
Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;
Atodiad D - sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd;
Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud sylwadau mewn perthynas â'r cais.
Gyda chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o'r dogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor, a oedd yn cynnwys Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft a gytunwyd arnynt gan yr holl bartïon hefyd.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y'u manylwyd yn Atodiad B i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y'u manylwyd yn Atodiad C i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft a gyfeiriwyd atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y'u manylwyd yn Atodiad C i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft a gyfeiriwyd atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Nododd yr Is-bwyllgor fod Marstons PLC wedi tynnu ei sylwadau yn ôl ar y sail ei fod yn cytuno â'r Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft, fel y'u dosbarthwyd.
Yna bu i'r Is-bwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL i gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwydded ychwanegol roedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt.
RHESYMAU:-
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Yr oedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Nododd yr Is-bwyllgor y cytundeb a ddaeth y partïon iddo ac roedd yn fodlon na fyddai caniatáu'r cais, yn amodol ar yr amodau trwydded a gytunwyd arnynt, yn tanseilio unrhyw un o amcanion y drwydded. Hefyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon fod yr amodau hynny yn briodol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac yn ymateb cymesur i'r cais.
Dogfennau ategol: